³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Baner Cyfrifiadureg

Graddau Cyfrifiadureg Israddedig

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Rydym yn gwbl ymroddedig i baratoi ein myfyrwyr i fod yn weithiwyr proffesiynol cyfrifiadurol gyda'r gallu i ddysgu am y wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfrifiadureg.

Ar y dudalen yma:
Ein cyrsiau Cyfrifiadureg

Darganfyddwch y cwrs Cyfrifiadureg i chi

Cyfrifiadureg - BSc (Anrh)
Mentrwch i faes cyfrifiadureg, archwiliwch algorithmau a rhaglennu, deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch; adeiladu rhwydweithiau a lansio gyrfa sy'n rhoi llawer o foddhad.
Cod UCAS
G400
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifiadureg - MComp
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am gyfrifiadureg.
Cod UCAS
H117
Cymhwyster
MComp
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifiadureg (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen mewn cyfrifiadureg, enillwch sgiliau ar gyfer gyrfaoedd cyffrous mewn meysydd amrywiol. Opsiwn delfrydol i unrhyw un sydd ddim cweit yn bodloni'r gofynion mynediad i wneud gradd 3 blynedd.
Cod UCAS
G40F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifiadureg gyda Dylunio Gemau - BSc (Anrh)
Datblygwch gemau cyfareddol. Cyfunwch arbenigedd mewn cyfrifiadureg â gweledigaeth greadigol. Astudiwch raglennu a phrofiad defnyddwyr a chreu bydoedd rhithwir trochol.
Cod UCAS
I103
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial - BSc (Anrh)
Sbardunwch ddatrysiadau deallus gyda data. Archwiliwch ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol, a dadansoddwch ddata a chreu modelau rhagfynegol. Datblygwch eich hun i gael gyrfa sy'n rhoi llawer o foddhad.
Cod UCAS
H118
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Gwyddor Data a Delweddu - BSc (Anrh)
Cyfunwch hanfodion cyfrifiadureg, rhaglennu, dadansoddi data, rhesymu beirniadol a delweddu a byddwch yn barod am yrfa gyffrous.
Cod UCAS
H114
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol - BSc (Anrh)
Dysgwch am ddadansoddi data a diogelwch rhwydwaith a dyluniwch raglenni busnes ac atebion digidol arloesol. Paratowch eich hun am yrfa mewn meysydd technoleg amrywiol.
Cod UCAS
I110
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Systemau Gwybodaeth Cyfrifiaduron i Fusnesau - BSc (Anrh)
Cyfunwch arbenigedd mewn technoleg gyda chraffter busnes. Ysgogwch drawsnewid digidol, dadansoddwch ddata, optimeiddiwch brosesau busnes a rheolwch brojectau technoleg gwybodaeth.
Cod UCAS
IN00
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Technolegau Creadigol - BSc (Anrh)
Cyfunwch greadigrwydd gyda thechnoleg flaengar. Datblygwch sgiliau cyfrifiadurol, digidol a chreadigol i ddatrys problemau’r byd go iawn a pharatoi ar gyfer gyrfa gyffrous.
Cod UCAS
GW49
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL

Gwylio - Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor

Person yn gwisgo teclun pen rhithwir i chwarae gemau cyfrifiadurol
Fideo: Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor

[Disgrifiad gweledol:

Llygad dynol yn agor

Catty Langford Myfyriwr PhD Prifysgol Bangor

Delweddau o ddyn yn gwisgo penset rhithrealiti]

Dr Llyr Ap Cenydd o Brifysgol Bangor yn siarad:

Mae Cyfrifiadureg yn newid popeth.

"Mae oes Deallusrwydd Artiffisial wedi cyrraedd ac mae sawl diwydiant wedi profi chwyldro.

Yn wir mae mwy o gyfleoedd cyffrous ar gael nawr nag erioed o'r blaen.

Bydd y cyrsiau BCS rydym ni'n eu cynnig ym Mhrifysgol Bangor yn eich paratoi at yrfa gyffrous yn y sector technoleg.

Dwi'n ddarlithydd mewn pynciau fel Dylunio Gemau Cyfrifiadur a Deallusrwydd Artiffisial, ac felly mae'r math yma o ymchwil yn dod i mewn i'r dosbarth hefyd, felly o Ddylunio Gemau Cyfrifiadur yn y flwyddyn gyntaf i Ddeallusrwydd Artiffisial yn yr ail flwyddyn, graffeg gyfrifiadurol yn y drydedd flwyddyn.

Erbyn y drydedd flwyddyn byddwch hefo'r naws a'r gallu i greu project fel hyn eich hunain."

Catty Langford yn siarad:

"Dwi wrthi'n gwneud PhD yma ym Mangor mewn ymchwil gweithredol sy'n edrych ar lwybro cerbydau trydan ar gyfer danfoniad milltir ganol.

Mae astudio ym Mangor wedi agor nifer o ddrysau i mi.

Yn fuan byddaf yn teithio i Montreal, Canada i weithio gyda'r Athro Michel Gendreau sef yr ymchwilydd gorau yn y byd yn y maes dwi'n astudio.

Mor gyffrous!"

Steph Parry yn siarad

"Y peth dwi'n mwynhau fwyaf ydi'r gymuned.

Mae gennym fyfyrwyr PhD sydd yn gallu helpu ni yn y labordai.

Mae hyn yn wych oherwydd mae nhw wedi profi'r un broses a chi.

Mae'r gefnogaeth gan y staff yn wych. Maen nhw'n rili fodlon i helpu chi."

Dr Llyr ap Cennydd yn siarad:

"Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar sut i fanteisio ar dechnoleg Dysgu Peirianyddol a thechnolegau Deallusrwydd Artiffisial eraill, yn ogystal â thechnegau delweddu sydd wedi eu creu ar sail ymchwil.

Amcan y cwrs yw sicrhau eich bod chi ar flaen y gad yn yr Oes Wybodaeth."

Shannon Jones yn siarad:

"Dwi'n gwneud pethau hefo 'Internet of Things' a Deallusrwydd Artiffisial.

Dwi'n gweithio hefo pobl yn Denmarc a phobl dros y byd.

Mae'r cwrs yn heriol ond yn werth chweil!

Steph Parry yn siarad:

"Yn fy ail flwyddyn rŵan, mae gen i fodiwl prosiectau diwydiannol lle 'da ni'n mynd i M-Sparc i weithio hefo busnesau lleol a 'da ni'n gweithio mewn tîm hefyd.

Felly rydym yn cael y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt sy'n wych.

Dr Llyr ap Cennydd yn siarad:

"Mae ymchwil yr academyddion a fydd yn eich addysgu yn llywio technoleg y dyfodol, a does dim amheuaeth y byddant yn dod â'u harbenigedd i'r ystafell ddosbarth."

[Disgrifiad gweledol

Delwedd o Ffatri Airbus

Delwedd o dechnegwyr awyrennau mewn cocpit yn gwirio’r offer

Awyren yn hedfan uwchben

Delweddau stoc o ddyn yn gwisgo penset rhithrealiti]

Dr Mosab Bazargani yn siarad:

"In this school, we base your final year project based on our industrial collaboration with global companies such as Airbus and Air France-KLM.

This will give you a hands-on industrial experience on real world problems.

Catty Langford yn siarad:

"Y cyngor sydd gen i ar gyfer unrhyw un sy'n meddwl dod i Fangor yw gwna'r mwyaf o'r gymuned anhygoel sydd yma.

Mae pawb mor groesawgar, mae'r darlithwyr yn gefnogol iawn a byddi di yn gwneud ffrindiau yn syth."

Dr Llyr ap Cennydd yn siarad:

"Ymunwch â ni i lunio'r dyfodol."

Cyn Fyfyriwr - Dr Aaron Jackson

Proffil Cyn-fyfyriwr Dr Aaron Jackson

"Mae Cyfrifiadureg yn bwnc anhygoel i'w astudio oherwydd ei fod mor gysylltiedig â'r byd modern. Bydd cael dealltwriaeth dda o hanfodion cyfrifiadureg yn ddefnyddiol, waeth beth fyddwch chi'n ei wneud yn ddiweddarach mewn bywyd." 

Cyn Fyfyriwr, Callum Murray

Proffil Cyn-fyfyriwr Callum Murray

"Roedd hyblygrwydd modiwlau a phrojectau'r cwrs yn golygu fy mod wedi darganfod diddordeb mewn dylunio UX a fyddai'n fy arwain at fy swydd gyntaf yn y diwydiant. Wnes i gyfarfod â fy nghyflogwr presennol trwy fy mhroject trydedd flwyddyn."

Mae fy narlithwyr yn gyfeillgar ac yn garedig iawn; cawn lawer o help ganddynt o'r ochr academaidd a'r ochr anacademaidd.  Mae llawer o glybiau a chymdeithasau ym Mangor hefyd ac mae ymuno â nhw i gymdeithasu’n anhygoel. 

Gawina Fernandes,  myfyriwr Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol

Cyfleusterau Rhagorol

Fel myfyriwr yma, byddwch yn gwneud defnydd o’n cyfleusterau ardderchog sy’n cynnwys:

  • Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf. 
  • Labordy technolegau trochi sydd wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
  • Labordy rhwydweithio mawr sydd wedi cael ei sef ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi cyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron. 

Rhithdaith 360 o'n cyfleusterau ardderchog

Gwylio - Arddangosfa Cyfrifiadureg a Pheirianneg 2025

Myfyriwr, Catty Langford, yn dal meicroffon yn yr arddangosfa
Fideo: Arddangosfa Cyfrifiadureg a Pheirianneg 2025

Croeso i Expo Cyfrifiadureg a Pheirianneg 2005.

Mae bob tro yn yr achlysur cyffrous iawn; 'dan ni bron â gweld y diwedd rwan,

mae hwn yn un o'r petha diwethaf wneith nhw wneud cyn gorffen,

felly mae'n siawns i ddangos i pawb be' mae nhw wedi wneud, a gweld i'r dyfodol hefyd. Mae hwn yn gallu bod yn un o'r prif bethau sydd ar CV rhywun

pan mae nhw'n gorffen yma. 'Dan ni yn gofyn i bobl ddod â'i CV nhw i mewn heddiw, oherwydd mae na gwmnïau sydd yn chwilio am am fyfyrwyr i ddod atyn nhw.

Mae o hefyd yn gallu bod yn 'stepping stone' i rhywbeth mwy fel Master's neu PhD, so, cario mlaen yn y Brifysgol ymhellach. Josh 'di enw fi,

Dwi'n y drydedd flwyddyn y 'neud peirianneg electronig, a mae'r prosiect yn selio ar systemau injans sterling ar gyfer awyr ofal.

Damcaniaeth y prosiect ydy os ydyn ni yn gallu cael y aerglos yn y system trwy ddefnyddio gweithgynhyrchu, so 3D printing i gynhyrchu

y cydrannau. Dwi meddwl bod dosbarthiadau yn maint da, does na ddim gormod ohonan ni, felly mae 'na

gysylltiad da rhwng yr athrawon a ni rili, so ma'n hawdd nocio'r drws pan mae gennym ni broblem.

Mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio yn galed ar eu prosiectau drwy'rflwyddyn, ac mae gweld pawb yn dod at ei gilydd mewn lle fel'ma ar ddiwedd, neu

tua diwedd y prosiect yn brill rili, i gael trafod be' mae nhw wedi wneud, a roedd y myfyrwyr yn falch o be' mae nhw wedi gwneud hefyd dwi'n

meddwl. Dwi'n hoffi gweld gwaith mae bawb arall wedi dod yn gweithio ar, mae o wedi bod yn brofiad reit dda, a chael gweld y cyflogwyr hefyd yma,

yn cymeryd diddordeb yn ein prosiect ni, ac ella mynd mlaen i weithio efo'r busnesau yna.

Mae o'n gyfla da rili. Mae gennym ni sgyrsiau yn mynd ymlaen yn ystod y dydd hefyd,

mae'n rhoi cyfle myfyrwyr siarad efo'r cwmnïau sydd yma prynhawn ma' rhai ohonyn nhw, fel 'dach chi'n gweld, hefo'i CV's nhw.

Mae nhw'n gallu handio nhw allan, a mae 'na gyfleoedd iddyn nhw 'essentially' drio cael job ar ôl iddyn nhw orffen.

Wel, dyna ddiwedd y digwyddiad,  rydw i wedi joio edrych o gwmpas a gweld beth mae ein myfyrwyr ni wedi bod yn wneud drwy gydol y flwyddyn. Pob lwc yn y dyfodol i bawb!

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cyfrifiadureg. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Cyfrifiadureg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Cyfrifiadureg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ein Hymchwil o fewn Cyfrifiadureg

Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys graffeg gyfrifiadurol, delweddu, canfod gwybodaeth a chyfathrebu. Caiff arbenigedd yn y meysydd hyn ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi llwybr uniongyrchol i fyfyrwyr i'r ymchwil ddiweddaraf mewn Cyfrifiadureg. 

Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.  

Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o adnoddau a chyfleoedd i gydweithio. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd