Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'n anodd gwybod faint sydd angen i blant ei ddysgu am dechnoleg. Mae'r byd digidol ym mhobman ac yn datblygu mor gyflym, gall deimlo'n amhosib i gadw i fyny. Gwyddom fod plant yn cael eu heffeithio mewn sawl ffordd gan yr awydd i fod wedi'u cysylltu'n gyson ar-lein ond, fel athrawon, mae angen i ni hefyd sicrhau bod gan blant y sgiliau i ffynnu mewn byd cyflym. Bydd y dysgu proffesiynol ar-lein hwn yn archwilio'r peryglon a'r rhyfeddodau y mae technoleg yn eu cynnig ac yn eich helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng profiadau ar-lein a byd go iawn ar gyfer eich dosbarth.
I bwy mae'r cwrs yn addas?
Unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am sut i gefnogi plant a phobl ifanc wrth iddynt archwilio'r byd digidol
Pam astudio鈥檙 cwrs hwn
Mewn byd lle mae polisi a dadl yn ceisio dal i fyny 芒 datblygiadau technolegol, mae llawer ohonom yn teimlo'n llethol wrth i ni ystyried faint i'w ddysgu i blant am y byd digidol. Bydd y dysgu proffesiynol ar-lein hwn yn eich helpu i adnabod tystiolaeth dibynadwy er mwyn dod o hyd i ddull cytbwys a hyderus o gefnogi plant wrth iddynt archwilio'r byd ar-lein. Bydd yn ystyried yr ymchwil sy'n ymwneud 芒 chyfleoedd a risgiau cysylltedd cyson, gan eich arfogi 芒 strategaethau ymarferol i ddiogelu lles heb beryglu dysgu.
Hyd y cwrs
Mae'r cwrs yn rhedeg dros dair sesiwn ar-lein. Mae pob sesiwn yn ddwy awr o hyd. Dyma ddyddiadau ac amseroedd y cwrs ar-lein hwn:
Sesiwn 1: 23 Ebrill 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 2: 30 Ebrill 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 3: 7 Mai 2026: 4pm-6pm
Tiwtor:
Donna Dixon
Mae Donna Dixon yn ddarlithydd yn Ysgol Addysg Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor lle mae ei gwaith yn canolbwyntio ar effaith technoleg ddigidol ar fywydau plant a phobl ifanc. Mae hi wedi cyhoeddi ymchwil ar bynciau fel ymyrraeth technoleg gan rieni a lles pobl ifanc, ac mae'n cyfrannu'n weithredol at ddigwyddiadau academaidd sy'n archwilio technoleg, ieuenctid ac addysg. Mae ymchwil ac addysgu Donna yn cysylltu tystiolaeth gyfredol 芒 goblygiadau ymarferol i ysgolion, yn enwedig o ran sut mae amgylcheddau digidol yn llunio ymddygiad ac iechyd meddwl.
Cost y Cwrs
拢60 y pen
Gwneud Cais
Cofrestrwch eich diddordeb isod a byddwn mewn cysylltiad 芒 chi gyda fw o wybodaeth