Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal diwrnod o ddysgu proffesiynol wedi eu teilwra i addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yng Nghymru yn effeithiol. Mae'r gweithdai hyn wedi eu cynllunio'n ofalus i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru a byddant yn darparu arweiniad ymarferol ac ysbrydoliaeth i athrawon wrth iddynt archwilio CGM yn eu sefydliadau.
Mae'r sesiynau oll yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth, 11eg o Dachwedd 2025. Mae llefydd yn gyfyngedig i 20 ymarferydd cynradd ac 20 ymarferydd uwchradd, felly'r cyntaf i'r felin fydd hi. Er mwyn cadw'ch lle, cwblhewch y ffurflen gofrestru drwy'r ddolen atodedig.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i brofi diwrnod hynod yn llawn dysgu proffesiynol.