成人VR视频

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i astudio ym Mhrifysgol Bangor! Rydym wrth ein bodd eich croesawu i'n cymuned. Cadwch mewn cysylltiad trwy'r cyfryngau cymdeithasol lle cewch y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn fuan ac rydym yn dymuno'r gorau wrth i chi baratoi am ddod yma.

Gwyliwch ein fideo

Stella Farrar yn sefyll yn y labordy
Fideo: Llongyfarchiadau ar eich Cynnig
Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o'n cymuned myfyrwyr ym Mangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno 芒 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-byst, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, 芒'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd