³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
""

 

 

 

 

 

Mae diddordeb cynyddol yn nyfodiad technolegau deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol yn y system cyfiawnder troseddol. Yn bennaf, mae’r ymchwil hwn, ynghyd â diddordeb y cyhoedd, yn canolbwyntio ar ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnolegau o’r fath ym maes plismona, a’u potensial i wella atal troseddau, canfod troseddau, a diogelwch y cyhoedd; yn ogystal â’r risgiau o atgyfnerthu gwahaniaethu presennol a phlismona gormesol, a’r posibilrwydd o gamweddau cyfiawnder sy’n deillio o systemau ‘blwch du’, ac ati (Babuta ac Oswald, 2019).

Mae diddordeb ymchwil yn y defnydd o dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ym maes prawf yn llai amlwg, er gwaethaf y defnydd hirhoedlog o asesiadau risg sydd wedi cynnwys rhywfaint o awtomeiddio, a’r defnydd o systemau monitro electronig o wahanol raddau o soffistigedigrwydd, yn ogystal â thagiau alcohol/sobrwydd a dulliau technolegol eraill o oruchwylio a monitro.

Hyd yma, mae ymchwil ar ddibyniaeth gynyddol ar dechnoleg mewn sancsiynau cymunedol a phrawf wedi canolbwyntio’n bennaf ar ei heffaith ar bobl sy’n destun prawf ac ar ymarfer prawf ei hun (Nellis 2023; Phillips 2017). Yn y papur hwn, byddaf yn amlinellu’r hyn a wyddom am fabwysiadu technoleg sy’n dod i’r amlwg ym maes prawf yng Nghymru a Lloegr, a’i heffaith ar egwyddorion adsefydlu a chyfiawnder