Lintel: A Poetry Anthology
Ymunwch 芒 ni i ddathlu lansiad detholiad o farddoniaeth sydd wedi ei chreu a'i olygu gan ein myfyrwyr. Bydd Grug Muse yn ymuno 芒 ni ar gyfer y digwyddiad olaf yn ein cyfres o ddarlleniadau gan awduron gwadd.
Mae myfyrwyr ar gwrs MA Ysgrifennu Creadigol (Saesneg) Prifysgol Bangor wedi dod ynghyd, o bell ac agos, i gydweithio ar y detholiad newydd hwn o farddoniaeth gyda them芒u eang sy'n ymdrin 芒 natur a diwylliant.
Meddai Zo毛 Skoulding, sy鈥檔 Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol: 'Rwy鈥檔 falch iawn o gefnogi ein myfyrwyr yn y project hwn. Mae eu hysgrifennu'n drawiadol, fel y mae eu hymrwymiad i'w gyhoeddi. Rydym yn annog cydweithio ar yr MA ac mae'n hyfryd eu gweld yn dod 芒'u syniadau at ei gilydd yn y flodeugerdd hon.
Bydd myfyrwyr yn darllen eu gwaith eu hunain yng nghwmni'r awdur gwadd Grug Muse.
Mae Grug Muse yn fardd ac yn awdur sy'n byw yn Nyffryn Dyfi, ac yn gyd-olygydd Y Stamp a Ffosfforws. Mae鈥檔 un o leisiau blaenllaw Cymru ym maes natur a'r amgylchedd, mae hi hefyd yn cyflwyno barddoniaeth yn y Gymraeg i wahanol gynulleidfaoedd. Bydd Grug yn darllen barddoniaeth ddwyieithog mewn dathliad ar y cyd o flodeugerdd y myfyrwyr a daucanmlwyddiant Pont y Borth.
Cyflwynir y digwyddiad hwn, sy鈥檔 rhad ac am ddim, fel rhan o broject Pontydd Barddoniaeth, a gefnogir gan haelioni cyn-fyfyrwyr trwy Gronfa Bangor.