Penodiad Polisi Iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Myfanwy DaviesFe fydd modd astudio Polisi Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Cymdeithas, Prifysgol Bangor o fis Hydref eleni yn dilyn penodi鈥檙 Dr. Myfanwy Davies yn ddarlithydd yno. Bydd hyn yn gyfrwng i ymestyn y ddarpariaeth bresennol ac yn sail i gynlluniau ymchwil mewn meysydd gwirioneddol arloesol a pherthnasol i鈥檔 cyfnod ni.
Brodor o Lanelli yw Myfanwy ac yn dilyn cyfnod o astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, Sheffield a Middlesex fe fu鈥檔 gweithio hyd at yn ddiweddar fel ymchwilydd ym myd iechyd yn Ysgol Feddygol, Prifysgol Caerdydd. Ffrwyth ei hymchwil yn y maes a鈥檌 dealltwriaeth o fyd iechyd yng Nghymru fu鈥檔 sail i鈥檙 adroddiad ar Hanesion Ansicrwydd: Agweddau rhieni i鈥檙 Brechlyn HPV ar gyfer eu merched gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011. Fel un sy鈥檔 siarad Ffrangeg yn rhugl, bu鈥檔 byw am gyfnod yn Aix-en-Provence ac yn ninas Rouen yn Ffrainc ac yn gweithio fel darlithydd ym myd Cymdeithaseg yno ym Mhrifysgolion Aix-Marseille II a Phrifysgol Rouen.
Dywed Myfanwy: 鈥楳i fydd y cyfle i weithio mewn Ysgol Gwyddor Cymdeithas sydd wedi sicrhau bri rhyngwladol yn her i mi, ond rwy鈥檔 edrych ymlaen at gael bod yn rhan o鈥檙 bywyd Cymreig yn y gogledd ac i fanteisio ar arbenigedd cyd-weithwyr yn yr adran arbennig hon鈥�.
Mae鈥檙 penodiad hwn, y pedwerydd mewn cyfres o naw darlithyddiaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn ystod y misoedd nesaf, yn gyfrwng cryn gyffro yn y sefydliad. Cafwyd penodiadau eisoes ym myd Cerddoriaeth Boblogaidd, Cerddoriaeth a Ffilm ac Ieithoedd Modern a鈥檙 gobaith yw y bydd modd llenwi鈥檙 swyddi eraill ym maes Gwyddor Iechyd, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd yn fuan.
Dywed Yr Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: 鈥楳ae鈥檔 fraint o鈥檙 mwyaf i ni gael darparu cartref ar gyfer yr ysgolheigion ifanc hyn ym Mhrifysgol Bangor. Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae鈥檙 cyfleodd ar eu cyfer yn dda a鈥檙 argoelion ar gyfer datblygiadau ym myd dysgu ac ymchwil ym Mangor yn eithriadol o obeithiol鈥�.
Fe fydd modd astudio Polisi Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 鈥楳ae'r penodiad yma yn brawf pellach fod academyddion o'r radd flaenaf yn cael eu denu i'r swyddi a gyllidir gan y Coleg. Bydd penodiadau pellach yn cael eu cyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Morgannwg ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Rydym yn llongyfarch Dr Myfanwy Davies ar ei llwyddiant ac yn dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd ym Mangor, a hynny o fewn adran sydd eisoes yn gwneud cyfraniad allweddol i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Gwyddorau Cymdeithas鈥�.
Bydd Myfanwy yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Hydref eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011