Swydd Athro newydd yn ymgorffori鈥檙 gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd
Yr Athro Debbie RobertsMae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ ) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor.
Cefnogir apwyntiad Debbie Roberts i鈥檙 swydd unigryw, sydd yn pontio practis clinigol a dysgu, gan y Foundation of Nursing Studies (FoNS). Yn rhinwedd ei phenodiad, mae鈥檙 Athro Roberts yn gallu gweithio 芒 myfyrwyr Prifysgol Bangor a chyda nyrsys cymwysedig a phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw ehangu a datblygu awyrgylch ddysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG ar draws gogledd Cymru.
Meddai鈥檙 Athro Debbie Roberts:
鈥淩wy鈥檔 angerddol dros addysgu a dysgu yn maes addysg nyrsio, ac yn awyddus i hybu dysgu ac ymestyn dysgu mewn practis er mwyn gwella gofal iechyd yn y rhanbarth. Mae gen i lawer o ddiddordeb mewn sicrhau ein bod yn cysylltu ymchwil, addysgu a mentergarwch gyda鈥檌 gilydd ac yn defnyddio tystiolaeth fel sail i鈥檔 addysgu.鈥�
Ers ei phenodi, mae Debbie wedi datblygu strategaeth ar gyfer dysgu practis sydd yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr nyrsio israddedig drwy fentora. Mae hi hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar erchwyn y gwely, er mwyn ehangu dysgu i鈥檙 myfyrwyr a gofal cleifion.
Meddai Dr Theresa Shaw, Prif Weithredwraig FoNS:
鈥淩wyf wrth fy modd bod y bartneriaeth arloesol hon rhwng FoNS, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi arwain at benodi yr Athro Roberts i鈥檙 swydd gyffrous hon, sy鈥檔 cefnogi a hybu dysgu yn y practis. Gyda鈥檙 gwerthoedd a鈥檙 dyheadau sydd gennym yn gyffredin, i ehangu gofal ac iechyd drwy ragoriaeth mewn addysgu a dysgu, ochr yn ochr gyda gwellhad i鈥檙 gwasanaeth, mae鈥檙 swydd yn cynnig cyfle i gryfhau amgylchoedd dysgu practis ar draws gogledd Cymru a chynnig dysgu mwy eang drwy iechyd a gofal cymdeithasol.鈥�
Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth :
鈥淩ydym yn falch o gael y cyfle i gydweithio gyda鈥檙 Athro Roberts. Mae鈥檔 hollbwysig i ni ac i鈥檙 boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ein bod yn cael gweithlu nyrsio talentog sydd wedi ei recriwtio a鈥檌 ddatblygu鈥檔 lleol. Rydym yn croesawu鈥檙 penodiad ac yn ffyddiog y bydd yr Athro Roberts yn gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth gynorthwyo datblygiad y genhedlaeth nesaf o nyrsys a bydwragedd gofalgar, talentog a medrus.鈥�
Meddai鈥檙 Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor:
鈥淩ydym wrth ein bodd i gael yr Athro Roberts yn ymuno a鈥檙 t卯m ac i fod yn gartref i鈥檙 penodiad ar y cyd blaengar hwn. Mae amcanion y swydd yn gweddu 芒鈥檔 hamcanion ni yma. Mae gennym yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth gyda鈥檙 GIG a chyda grwpiau eraill, er mwyn darparu rhaglenni is-raddedig, 么l- raddedig a doethurol sy鈥檔 cael effaith ar fyfyrwyr a gwasanaethau fel ei gilydd. Mae ein hymchwil, sydd o safon ryngwladol, ym maes gwella gofal iechyd yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau gofal iechyd cyfoes.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017