Trosglwyddo gwybodaeth am Seicoleg i鈥檙 gweithle
Pobl sydd wrth wraidd busnesau llwyddiannus 鈥� ac mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn gwahodd pobl i ddarganfod sut y gellir defnyddio seicoleg yn y gweithle i ryddhau potensial a chyflawni dyheadau unigolion.
Fel y dywedodd trefnydd yr achlysur, Dr Val Morrison, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol (Trosglwyddo Gwybodaeth) a seicolegydd iechyd siartredig: 鈥�I鈥檙 rhai ohonom sy鈥檔 gweithio neu sydd eisiau gweithio, mae deall beth sy鈥檔 ysgogi perfformiad neu ymddygiad, sy鈥檔 dylanwadu ar p鈥檜n a ydym yn arweinwyr neu reolwyr da neu wael, ac sy鈥檔 effeithio ar y ffordd rydym yn delio ag unrhyw straen yn y gweithle, yn debygol o fod 芒 manteision i les a pherfformiad pob aelod staff, rheolwr neu gyflogwr. Mae ymchwil seicolegol a wnaed ym Mangor yn rhoi sylfaen o dystiolaeth y mae unigolion a sefydliadau鈥檔 gweithredu arni. Trwy ddisgrifio cydweithio, hyfforddiant a rhaglenni ymyrryd cyffrous rhwng academia a byd busnes, a gyflwynir yn genedlaethol a rhyngwladol, rydym yn gobeithio y bydd yr achlysur yma鈥檔 dangos faint y gall seicoleg ei gynnig i chi ar garreg eich drws."
Gan adeiladu ar lwyddiant Dyddiau Trosglwyddo Gwybodaeth y ddwy flynedd ddiwethaf, mae鈥檙 Ysgol Seicoleg yn cynnal trydydd achlysur ddydd Gwener, 26 Tachwedd yn Neuadd Powis ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Bydd y Diwrnod Trosglwyddo Gwybodaeth yn tynnu sylw at eu harbenigedd a鈥檜 gwaith yn ymwneud 芒 seicoleg yn y gweithle.
Agorir y diwrnod gydag anerchiad gan yr Athro Y Fonesig Carol Black, Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Iechyd a Gwaith. Bydd y rhaglen yn cynnwys sgyrsiau a sesiynau rhyngweithiol ar y canlynol:
- Seicoleg defnyddwyr
- Adnabod gweithwyr gyda dyslecsia a鈥檜 cefnogi
- Seicoleg bositif
- Defnyddio seicoleg wybyddol wrth recriwtio
- Arweinyddiaeth
- Dulliau wedi eu seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar i helpu i leddfu straen mewn gwaith
- Cyfleoedd ar gyfer partneriaethau busnes-academaidd
- Darparu ymyriadau yn y gweithle i rai gyda phroblemau alcohol
- Gwasanaethau iechyd a rhoi ymchwil ar waith
Gall pobl sydd 芒 diddordeb gymysgu gyda gweithwyr proffesiynol eraill a chlywed gan arweinwyr yn eu maes sut y gall seicoleg fod o fudd iddynt yn y gwaith.
Ewch cyn 12 Tachwedd i archebu lle ar y diwrnod. Codir t芒l o 拢20, sy鈥檔 cynnwys cinio a the/choffi. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly archebwch r诺an rhag cael eich siomi.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch ktday10@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2010