Prifysgol Bangor yn cael ei chydnabod am ei hymchwil sydd gyda'r orau yn y byd
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn cael effaith o bwys ledled y byd yn 么l asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil () a gyhoeddwyd heddiw.
Cydnabu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai 鈥済yda鈥檙 orau yn y byd鈥 neu 鈥測n cael ei chydnabod yn rhyngwladol鈥. Ar sail cyflwyniad y brifysgol mewn 14 Uned Asesu cafodd 77% o'r ymchwil ei gosod yn y ddwy haen uchaf o ran ansawdd ymchwil, sydd yn uwch na'r cyfartaledd ymysg holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.
Ymchwil yn Ysgolion Gwyddor Chwaraeon; Ieithoedd Modern; Cymraeg; Addysg; Ieithyddiaeth; Seicoleg; Gwyddorau Gofal Iechyd; Gwyddorau Meddygol; Gwyddorau Cymdeithas; Gwyddorau Eigion; Gwyddorau Biolegol ac Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth i gyd wedi eu gosod yn yr 20 uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r ffeithiau canlynol yn tanlinellu enw da Prifysgol Bangor fel prifysgol ymchwil gyda'r orau yn y byd:
- Gosodwyd Bangor y 39ain safle yn y DU (heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig).
- Enillodd wyth o'n 14 o gyflwyniadau sg么r GPA (sydd yn mesur ansawdd yr ymchwil) oedd yn fwy na 3.0 allan o uchafswm o 4.0.
Meddai'r Athro David Shepherd, y Dirprwy i鈥檙 Is-ganghellor sydd yn gyfrifol am ymchwil: "Dyma berfformiad rhagorol gan Fangor ac rydw i'n arbennig o falch o'r effaith fawr mae ein hymchwil yn cael ei chael ar draws y byd. O'r cyfraniad sylweddol a wnawn at wella gofal iechyd a lles, dwyieithrwydd ac amddiffyn yr amgylchedd, mae'n eglur bod gwaith ymchwil academyddion Bangor yn cael effaith economaidd sylweddol yn ogystal ag effaith ar fywydau pobl o gwmpas y byd.
"Rydw i'n falch hefyd ein bod wedi dyblu maint yr ymchwil 4* a gyflawnwyd ers cynnal y dadansoddiad diwethaf.
Meddai'r Is-ganghellor yr Athro John G Hughes: "Mae'r perfformiad ymchwil eithriadol hwn yn dod ychydig fisoedd yn unig ar 么l ein canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr lle daeth Prifysgol Bangor i'r brig yng Nghymru ac i鈥檙 seithfed lle yn y Deyrnas Unedig o ran boddhad myfyrwyr.
Mae鈥檙 ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Bangor, sydd gyda'r orau yn y byd, ynghyd 芒'r lefel uchel o foddhad myfyrwyr a'r projectau adeiladu newydd pwysig sydd ar y gweill gennym yn gwneud y brifysgol hon yn lle unigryw a hynod atyniadol i astudio a gweithio."
"Hoffwn i ddiolch i'r holl staff sydd wedi cymryd rhan yn y broses hon a gallwn fod yn falch iawn o'r ymchwil o safon uchel sydd yn cael ei gwneud ym Mhrifysgol Bangor."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014