Richard Alun Williams
(Biocemeg, 1998)
Mae Prifysgol Bangor, Prifysgol Cymru, Bangor gynt, wedi bod yn rhan allweddol o鈥檓 bywyd. Cefais fy magu mewn tref fechan (pentref bryd hynny) o'r enw Porthysgewin yn ne Cymru (rhwng Cas-gwent a Chasnewydd) lle'r oedd y byd yn fach iawn, ond symudais i Gaer i wneud fy Lefel A ar 么l i鈥檓 tad gael swydd newydd yno. Penderfynais astudio am fy ngradd Baglor (1995-98) ym Mangor oherwydd nad oedd Bangor yn rhy bell ar y tr锚n o Gaer, felly gallwn fynd adref yn hawdd pe bai angen - yn ffodus, nid oedd rhaid gwneud hynny鈥檔 aml a chefais flas ar bopeth oedd gan fywyd prifysgol i鈥檞 gynnig ym Mangor!
Dechreuais astudio am radd BSc cydanrhydedd mewn bioleg y m么r a biocemeg, ond ar 么l diwedd y flwyddyn gyntaf, sylweddolais fod fy ymennydd yn llawer mwy addas ar gyfer biocemeg, felly newidiais i astudio biocemeg yn unig dros wyliau'r haf - roedd fy nhiwtoriaid academaidd yr Athro Deri Tomos a Dr John Gaunt yn allweddol yn hwyluso'r newid hwn. Yn wir, arweiniodd cysylltiadau鈥檙 Athro Tomos 芒 Chaergrawnt yn y pen draw at gael fy recriwtio i wneud doethuriaeth yn Adran Gwyddor Planhigion Prifysgol Caergrawnt ar 么l y seremoni raddio ym Mangor ym mis Gorffennaf 1998, lle cefais hefyd Wobr Goffa William Charles Evans am y marciau uchaf yn y garfan.
Gwnaeth blwyddyn gyntaf fy noethuriaeth yng Nghaergrawnt (1998-99) i mi sylweddoli, er fy mod wrth fy modd yn dysgu am fiocemeg, nad oedd hyn yn rhywbeth roeddwn eisiau ei wneud fel gyrfa, felly ysgrifennais draethawd hir MPhil yn fy ail flwyddyn a symudais i Brifysgol Caint yng Nghaergaint i wneud MSc mewn cyfrifiadureg (Medi 2000) i ddysgu set newydd o sgiliau a fyddai'n gymorth i mi symud i ddiwydiant. Yna cefais fy recriwtio gan Oracle Corporation i鈥檞 rhaglen hyfforddi i raddedigion, fel ymgynghorydd technoleg cymwysiadau yn y lle cyntaf (2001-2004) ac yna rheolwr project (2004-2009).
Roedd bywyd yn Oracle yn anhygoel, ond ar 么l gormod o nosweithiau yn aros mewn gwestai a theithio ar awyrennau, trenau ac mewn ceir, penderfynais fynd yn 么l i鈥檙 brifysgol i newid gyrfa a mynd i weithio yn y byd academaidd. Oherwydd fy addysg mewn biocemeg ym Mangor a chyfrifiadureg yng Nghaergaint, penderfynais astudio am MRes mewn bioleg gyfrifiadurol i ddefnyddio鈥檙 ddwy set o sgiliau a gwybodaeth (2009-2010 yn Adran Bioleg Prifysgol Efrog), yna gwnes ddoethuriaeth mewn imiwnoleg gyfrifiadurol. (2010-2013, Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Efrog). Roedd dod o hyd i swydd fel ymchwilydd 么l-ddoethurol mewn bioleg gyfrifiadurol yn anodd ar ddechrau鈥檙 2010au, felly gwnes gais am gymrodoriaeth ymchwil iau arbennig mewn rheolaeth/busnes a ariannwyd gan yr ESRC, a oedd yn targedu pobl oedd eisiau newid gyrfa i fynd i weithio yn y byd academaidd ac a oedd hefyd yn meddu ar ddoethuriaeth mewn disgyblaeth ac eithrio busnes/rheolaeth. Felly ymunais ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Caerhirfryn (yr Adran Wyddor Rheolaeth) ym mis Hydref 2013 fel cymrawd ymchwil iau ac rwyf bellach wedi cael dyrchafiad i fod yn uwch ddarlithydd.
Bydd y dyrchafiad nesaf i fod yn athro llawn ychydig yn anos serch hynny, oherwydd bod fy noethuriaeth mewn imiwnoleg gyfrifiadurol yn cael ei weld yn aml (yn anghywir yn fy marn i, ond mae honno'n stori hir) ychydig yn rhy bell oddi wrth fusnes/rheolaeth. Felly, ynghyd 芒 chanolbwyntio ar fy ymchwil i systemau cymdeithasol a chymdeithasol-dechnegol cymhleth, rwyf bellach yn dechrau meddwl o ddifrif am wneud cais am ddoethuriaeth yn Ysgol Busnes Bangor trwy ddull E (a elwid gynt yn Ddoethuriaeth trwy Waith Cyhoeddedig). Bydd rhaid i mi gyhoeddi 1-2 yn fwy o bapurau ar fy mhroject presennol ar wrthdaro mewn projectau peirianneg meddalwedd mawr, a hefyd cydweithio ag aelodau academaidd yn Ysgol Busnes Bangor, ond mae meddwl am 鈥榙dod adref鈥� fel petai yn bosibilrwydd cyffrous iawn. Y llwybr rwy'n ei ddewis yw rhan-amser am flwyddyn er mwyn datblygu trosolwg/dadansoddiad beirniadol o 5,000-10,000 o eiriau鈥檔 seiliedig ar y 6-7 cyhoeddiad y byddaf yn eu cyflwyno fel tystiolaeth o'm sgiliau a'm cymhwysedd ymchwil. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn agor nifer o ddrysau i ddyrchafiadau yn y dyfodol a swyddi newydd diddorol.
Yn olaf, ac o ran diddordeb, mae clogyn academaidd Bangor hefyd yn llawer mwy cyffyrddus na chlogyn academaidd Efrog!