Gwaddol yn Cefnogi Effaith Merched Project Tannahill: Merched. Gwybodaeth. Effaith.
Drwy rodd hael gan鈥�Yr Athro David Jones,鈥�mae gwaddol wedi'i sefydlu ym鈥�Mhrifysgol Bangor鈥�i greu menter drawsddisgyblaethol sy'n hyrwyddo ac yn dathlu cyfraniadau merched i gymdeithas a'r byd ehangach.
Mae merched wedi chwarae rhan arwyddocaol drwy gydol hanes y Brifysgol. Gan adeiladu ar yr etifeddiaeth hon, mae鈥�Project Tannahill鈥�yn canolbwyntio ar rymuso merched nawr ac yn y dyfodol trwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus, ymchwil ac addysgu.
Mae'r project wedi'i ysbrydoli gan鈥�Dr Mabel Tannahill,鈥�diweddar wraig y rhoddwr, a oedd yn seiciatrydd ymgynghorol uchel ei pharch ac yn hyrwyddwr blaenllaw dros iechyd meddwl yng Nghymru.
Bywyd wedi'i Ymroddi i Wasanaeth a Dysgu Dr Mabel Tannahill
Roedd Dr Mary Mabel Tannahill yn seiciatrydd ymgynghorol uchel ei pharch, yn academydd ac yn hyrwyddwr gydol oes dros iechyd meddwl, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb merched. Wedi'i geni yn Glasgow yn 1932, roedd ei bywyd a'i gyrfa'n cwmpasu'r Alban, Llundain a Chymru, lle gwnaeth gyfraniad parhaol i ymarfer seiciatrig, addysg feddygol a gofal iechyd meddwl cymunedol.
Roedd gwaith Dr Tannahill yn cyfuno rhagoriaeth glinigol ag ymrwymiad cryf i addysg, ymchwil a chydweithio rhyngwladol. Chwaraeodd ran arwyddocaol wrth gryfhau cysylltiadau rhwng y GIG a phrifysgolion, helpodd i ddatblygu gwasanaethau seiciatrig yng ngogledd Cymru, a chefnogodd genedlaethau o weithwyr iechyd proffesiynol drwy addysgu, archwilio a mentora. Mae ei diddordebau diwylliannol a deallusol ehangach 鈥� gan gynnwys llenyddiaeth, y celfyddydau a hyrwyddo llwyddiannau merched 鈥� yn parhau i lunio ei gwaddol parhaus.
Nid rhywbeth a fydd yn digwydd i ferched yw鈥檙 dyfodol 鈥� bydd y dyfodol yn cael ei greu gan ferched.
鈥� Victoria Bateman