Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
"Rydym mor falch o orffen y flwyddyn ar nodyn uchel drwy ddathlu llwyddiannau ein graddedigion newydd yn ystod ein seremon茂au graddio'r wythnos hon. Rydym yn dymuno'r gorau i'n alumni newydd gyda'u hymdrechion yn y dyfodol.
Wrth i'r flwyddyn dynnu tua鈥檌 therfyn, hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydym am ein rhwydwaith anhygoel o gyn-fyfyrwyr ledled y byd sy'n parhau i ysbrydoli a chefnogi Prifysgol Bangor. Eich profiadau, eich llwyddiannau, a'ch cefnogaeth barhaus chi sy鈥檔 gwneud ein cymuned ni yn un fywiog a chryf ac rydym yn ddiolchgar i chi am gadw Bangor yn agos at eich calon, ni waeth i ble y mae bywyd wedi mynd 芒 chi.
Oddi wrth bob un ohonom ym Mhrifysgol Bangor, dymunwn i chi Nadolig llawen a blwyddyn newydd lewyrchus a gwerth chweil."
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Graddau er Anrhydedd Rhagfyr 2025
Tra bod ein alumni newydd yn derbyn eu graddau yn ystod seremoni graddio'r wythnos hon, mae Prifysgol Bangor hefyd wedi dyfarnu graddau er anrhydedd i bedwar unigolyn eithriadol am eu cyfraniad i fywyd cyhoeddus.
Mae Gradd Er Anrhydedd yn un o wobrau mwyaf mawreddog Prifysgol Bangor, a roddir i unigolion sydd wedi gwneud argraff nodedig yn eu disgyblaeth academaidd a/neu gyfraniad parhaus at fywyd y brifysgol, yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.
Mae dau o'r unigolyn yn gyn-fyfyrwyr o Fangor; Benjamin Pritchard PLY (Y Gyfraith, 2013), Rhwyfwr Paralympaidd, sydd wedi cael ei gydnabod am ei gyflawniadau eithriadol a鈥檌 daith ysbrydoledig a Dr Leanne Cullen-Unsworth, gwyddonydd morol ac arweinydd cadwraeth, sydd wedi cael ei chydnabod am ei gwaith arloesol ym maes cadwraeth a chynaliadwyedd morwellt. Hefyd wedi cael eu gwobrwyo mae Mr David Jones FRCS, RCS Ed (Orth), Llawfeddyg orthopaedig ac arweinydd meddygol, a Judith Batchelar OBE sydd wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad at ysgolheictod, arloesi ac arweinyddiaeth ym meysydd bwyd, ffermio a chynaliadwyedd.
Darllen mwy am ein Cymrodorion er Anrhydedd newydd yma.
Rhoddion gan alumni yn cefnogi 15 o brojectau newydd i fyfyrwyr
Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni wedi dyfarnu grantiau o Gronfa Bangor i 15 o brojectau a mentrau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ym mlwyddyn academaidd 2025鈥26. Nod y mentrau hyn yw ychwanegu gwerth at y profiad myfyrwyr, gan adlewyrchu creadigrwydd, uchelgais a chydweithrediad ar draws y Brifysgol.
Drwy roddion hael gan ein cyn-fyfyrwyr i Gronfa Bangor, mae projectau a gefnogir eleni yn cynnwys bwrsariaethau teithio, weithgareddau cyflogadwyedd, addysg drochol i helpu myfyrwyr di-Gymraeg i brofi鈥檙 Gymraeg a Sesiynau llesiant cynhwysol.
Arolwg gyrfaoedd i gyn-fyfyrwyr Rhyngwladol
Dyma alw ar ein cyn-fyfyrwyr rhyngwladol!
Mae Prifysgol Bangor yn falch o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr rhyngwladol a byddem wrth ein boddau鈥檔 cael tynnu sylw at eich llwybrau gyrfa chi fel ffordd o鈥檔 helpu ni i ysbrydoli myfyrwyr newydd i astudio ym Mangor. Mae clywed am eich profiadau bywyd yn hynod werthfawr ac yn ysbrydoliaeth i'n myfyrwyr rhyngwladol a鈥檔 darpar fyfyrwyr rhyngwladol.
Byddem wrth ein boddau鈥檔 cael gweithio gydag unrhyw gyn-fyfyrwyr rhyngwladol sy鈥檔 fodlon rhannu eich profiadau o astudio yma a rhannu eich llwybrau gyrfa, gan gynnwys sut y daethoch o hyd i swydd ac unrhyw heriau yr ydych wedi eu hwynebu. Gallai cefnogaeth o鈥檙 fath olygu darparu proffil ohonoch fel cyn-fyfyriwr ar ein gwefan, cwrdd 芒 darpar fyfyrwyr mewn digwyddiadau yn y cnawd neu ar-lein, a/neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cyflogadwyedd a drefnir gan y Brifysgol.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan gyn-fyfyrwyr y noddwyd eu fisa i astudio neu weithio yn y Deyrnas Unedig.
Pe bai gennych ddiddordeb bod o gymorth i'ch hen brifysgol fel hyn, ac fe ddown i gysylltiad 芒 chi i drafod y manylion. Mae croeso i chi anfon e-bost at alumni@bangor.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiwn.
Fe'ch gwahoddir: Diwrnod cofio'r Holocost
Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2026
10.30 - 11.30 am
Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG
Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o鈥檙 gymuned leol a鈥檙 cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, T卯m y Gaplaniaeth, a staff y Brifysgol.
鈥楶ontio鈥檙 Cenedlaethau鈥 yw thema Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost 2026, sydd yn alwad i weithredu. Mae Pontio鈥檙 Cenedlaethau yn amlygu r么l hollbwysig y genhedlaeth nesaf wrth gadw鈥檙 cof am yr Holocost yn fyw a鈥檌 drosglwyddo i鈥檙 cenedlaethau nesaf. Mae鈥檔 dangos pa mor bwerus yw deialog rhwng y cenedlaethau, gwrando ar bobl a ddaeth o鈥檔 blaenau a rhannu鈥檙 straeon hyn gyda鈥檙 cenedlaethau a ddaw ar ein holau. Wrth wneud hynny, nid yn unig ein bod yn cadw cof am y pethau hyn yn fyw, rydym hefyd yn eu cysylltu 芒鈥檙 presennol. Mae鈥檙 thema鈥檔 ein gwahodd i anrhydeddu pob bywyd, ac i anrhydeddu鈥檙 rhai nad oes ganddynt deulu i fedru dwyn y gynhysgaeth hon yn ei blaen.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond os gwelwch yn dda.
Fe'ch gwahoddir: UMCB 50 - Dafydd Meirion Roberts: Atgofion drwy Gerddoriaeth
UMCB 50 Dafydd Meirion Roberts: Dyddiau Coleg - Atgofion drwy Gerddoriaeth
17 Ionawr 2026, 2.00pm - 3.30pm
Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT
Gyda鈥檙 band gwerin Ar Log yn dathlu hanner can mlynedd ers ei sefydlu yn 1976, mae鈥檔 fraint cael croesawu Dafydd Meirion Roberts i rannu ei atgofion drwy gerddoriaeth o鈥檌 gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, a dathlu sefydliad Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yr un flwyddyn.
Bydd y sgwrs yn gyfle i glywed atgofion Dafydd o鈥檌 gyfraniad i ddiwylliant byrlymus cerddoriaeth Cymraeg tra roedd yn fyfyriwr. Bydd y daith gerddorol yma yn dechrau gyda Dafydd yn ymuno hefo鈥檌 frawd Gwyndaf yn y band roc trwm Cristnogol, Yr Atgyfodiad, yn canu鈥檙 ffliwt. Yn dilyn hyn ymunodd gyda鈥檙 gr诺p Br芒n, gyda John Gwyn, Nest Howells, a鈥檌 frawd, Gwyndaf. Tra鈥檔 fyfyriwr, chwaraeodd Dafydd yn un o sioeau teithiol cyntaf Theatr Gwynedd, Harping Around, cyn dod yn gerddor amlwg yn sesiynau recordio Sain yn eu stiwdio yng Ngwern Afalau.
Bydd y sgwrs hefyd yn trafod cyfraniad Dafydd, fel myfyriwr, i鈥檙 ymgyrch am statws yr iaith yn y Brifysgol, cyn ffurfio'r band gwerin poblogaidd Ar Log.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond os gwelwch yn dda.
Pontio: BULK (15) + Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r cyfarwyddwr Ben Wheatley
Dydd Sadwrn 31 Ionawr, 2.30pm
Sinema Pontio
Mae Ben Wheatley yn sefyll fel un o wneuthurwyr ffilmiau gorau Prydain yn yr 21ain ganrif, gan symud o'i ddechreuad indie gyda chlasuron modern fel Kill List a Sightseers i gydnabyddiaeth ehangach o High-Rise a hyd yn oed The Meg 2. Rhwng ei brosiectau stiwdio, mae Wheatley yn dychwelyd yn gyson at egni crai, dyfeisgar gwneud ffilmiau annibynnol, ac mae ei greadigaeth ddiweddaraf, Bulk, yn ysbrydoliaeth ac yn deyrnged galonnog i ethos DIY.
Rydym ni yn Sinema Pontio wrth ein bodd ein bod yn cael croesawu'r dyn ei hun ar gyfer dangosiad arbennig o Bulk, ac yna sesiwn holi ac ateb wyneb yn wyneb.
Tocynnau:
Prifysgol Bangor yn dal ei gafael yn y wobr dosbarth cyntaf
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod unwaith eto am ei hymrwymiad eithriadol i gynaliadwyedd, wrth iddi lwyddo i ddal ei gafael yn y Wobr Dosbarth Cyntaf yng nghynghrair prifysgolion . Dyma'r seithfed flwyddyn yn olynol i'r brifysgol lwyddo i wneud hynny.
Mae Prifysgol Bangor bellach yn safle 25 allan o 147 o brifysgolion ym maes cynaliadwyedd yn y tabl cynghrair ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
Ymhlith y llwyddiannau nodedig mae cyrraedd y 12fed safle yn genedlaethol am Reoli Carbon, ac er nad oes is-gategor茂au penodol ar gyfer Ymgysylltiad Staff a Myfyrwyr a Staff ac Adnoddau Dynol, mae Prifysgol Bangor yn parhau i sgorio'n uchel yn y meysydd hynny hefyd.
Ymgynghorydd Myfyrwyr Bangor yn ennill wobr Aelod Staff y Flwyddyn genedlaethol
Llongyfarchiadau i Dr Marcel Clusa, sy鈥檔 gweithio fel Ymgynghorydd Myfyrwyr, ar ennill gwobr Aelod Staff y Flwyddyn yng ngwobrau #WeAreInternational 2025. Mae cael y fath gydnabyddiaeth genedlaethol yn arwydd o鈥檙 effaith a gaiff Marcel ar brofiad myfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor.
Cafodd ei ddewis gan y beirniaid am fod ag ymagwedd drylwyr, gyfannol ac arloesol wrth gefnogi myfyrwyr rhyngwladol. Gwelir yn ei waith ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei werthfawrogi a'i rymuso i ffynnu. Marcel yw鈥檙 pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr sydd ag ymholiadau cymhleth am fewnfudo neu sydd angen cefnogaeth llesiant hanfodol ac wrth wneud hynny mae'n cyfuno arbenigedd technegol gydag empathi, gofal a sicrwydd emosiynol.
Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o groesawu myfyrwyr rhyngwladol i'r Deyrnas Unedig. O gydlynu鈥檙 gwaith o groesawu myfyrwyr rhyngwladol sy鈥檔 cyrraedd mewn meysydd awyr i gyflwyno rhaglenni cynefino er mwyn atal unigedd ac annog trochi diwylliannol, mae Marcel yn sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr yn teimlo'n unig yn ystod eu cyfnod ym Mangor.
Llongyfarchiadau mawr i Marcel!
Prifysgol Bangor yn 7fed yn arolwg cynhwysiant LGBTQ+ y DU
Mae'r Brifysgol wedi'i rhestru'n 7fed yn y Deyrnas Unedig am gynhwysiant LGBTQ+, yn 么l arolwg cenedlaethol diweddar a gyhoeddwyd gan Erobella, ar y cyd 芒 Pollfish.
Holwyd dros 2,000 o fyfyrwyr rhwng 18鈥24 oed ar draws 79 o brifysgolion, gan ofyn pa mor gyfeillgar i LGBTQ+ mae eu campws yn teimlo. Sgoriodd Bangor 7.5 allan o 10, gan osod y Brifysgol ymhlith y sefydliadau mwyaf cynhwysol ledled y wlad.
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Brifysgol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae dull gweithredu'r Brifysgol yn cael ei gefnogi gan bolis茂au megis y Polisi Aflonyddu ar Fyfyrwyr a'r Polisi Cydraddoldeb Myfyrwyr Traws, ochr yn ochr 芒 gwaith y Rhwydwaith LGBTQ+.
Dywedodd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor, "Rydym yn hynod falch o weld Bangor yn cael ei chydnabod ymhlith y prifysgolion mwyaf cynhwysol i LGBTQ+ yn y Deyrnas Unedig. Mae'r safle hwn yn perthyn i'n cymuned gyfan, ac yn enwedig i waith ysbrydoledig ein Rhwydwaith LGBTQ+, sydd 芒'u hymdrechion diflino yn parhau i wella gwelededd, cydraddoldeb a phrofiadau bob dydd ein myfyrwyr a'n staff."
Gwobr i egin academydd am ymchwil PhD ar brofiad athletwyr byddar
Mae Dr Libby Steele, a gwblhaodd ei doethuriaeth mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Bangor, wedi ennill Wobr STEM Ifanc yn y 鈥楥ommunity Sport and Recreation Awards: Youth Edition 2025.鈥
Canolbwyntiodd traethawd doethurol Libby ar brofiad athletwyr byddar a'r rhai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith gyntaf wrth gystadlu mewn athletau. Wrth gystadlu ochr yn ochr ag athletwyr, mae athletwyr byddar fel arfer yn wynebu arwyddion amrywiol o ran pryd i gychwyn, megis goleuadau, baneri a bandiau braich sy'n dirgrynu, sy'n cael eu cyfuno 芒 sain. Nod hyn yw annog cynhwysiant. Fodd bynnag, canfu'r astudiaeth fod diffyg cysondeb o ran technolegau a fabwysiadwyd wedi arwain at gyfleoedd anghyfartal ar gyfer amseroedd ymateb cyflym rhwng athletwyr byddar a rhai sy'n clywed.
Coronwyd Libby mewn dathliad arbennig a gynhaliwyd gan y Gynghrair Chwaraeon a Hamdden ym Mhalas Sant Iago. Cyflwynwyd ei thlws iddi gan Lywydd y Gynghrair, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.
Y Clinig Cyngor Cyfreithiol yn ennill gwobr fawreddog yng Ngwobrau Pro Bono
Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC) wedi ennill gwobr ymdrech orau yng Nghymru yng Ngwobrau Pro Bono LawWorks. Derbyniodd y clinig ganmoliaeth uchel yng nghategori鈥檙 gweithgarwch orau hefyd.
Mae鈥檙 gwobrau blynyddol yn dathlu鈥檙 gweithgareddau cyfreithiol pro bono gorau a wneir gan sefydliadau ac unigolion a鈥檙 effaith gadarnhaol y maent wedi鈥檌 chael ar y rhai a gafodd gymorth. Mae鈥檙 clinig yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd, gan gynnig profiad cyfreithiol ymarferol i fyfyrwyr dan oruchwyliaeth staff cymwysedig. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymrwymiad y Clinig i fynediad at gyfiawnder a'i effaith gynyddol yn nhirlun cyfreithiol Cymru.
Dywedodd Tracey Horton, Cyfarwyddwr Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol, 鈥淩ydym wrth ein bodd i ennill y wobr yn erbyn cystadleuaeth ffyrnig. Mae cael ein cydnabod ar 么l cyfnod mor fyr yn anrhydedd go iawn. Mae poblogrwydd y Clinig yn dystiolaeth o鈥檙 angen mawr am fynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gobeithio mynd o nerth i nerth鈥.
Ymchwil newydd yn datgelu effaith ddifrifol ffliw adar ar forloi eliffant deheuol
Mae t卯m o wyddonwyr o'r Arolwg Antarctig Prydeinig (BAS), gan gynnwys Dr Phil Hollyman o Brifysgol Bangor, wedi dogfennu effaith ddifrifol ffliw adar (HPAI) ar forloi eliffant deheuol yn Ne Georgia. Mae'r ymchwil yn datgelu gostyngiad o 47% mewn morloi eliffant benywaidd sy'n bridio ar ynys is-Antarctig De Georgia, yn dilyn achos dinistriol o ffliw adar.
Mae鈥檙 ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn , yn dangos bod poblogaeth fwyaf y byd o forloi eliffant deheuol 鈥 sy'n cyfrif am dros hanner y boblogaeth fyd-eang o oedran bridio 鈥 wedi dioddef colledion digynsail yn dilyn dyfodiad y straen HPAI H5N1 o ffliw adar i'r ynys is-Antarctig anghysbell ddiwedd 2023.
Astudiaeth yn datgelu effaith dad-ddiwydiannu ar iechyd meddwl yng Nghymru
Mae astudiaeth gan Brifysgol Bangor wedi taflu goleuni newydd ar ganlyniad egr dad-ddiwydiannu yng Nghymru a'i effaith ar iechyd meddwl pobl.
Canfu鈥檙 papur gan Dr Christopher Saville ac a gyhoeddwyd yn y bod trigolion ardaloedd yng Nghymru lle bu mwy o waith glo yn dioddef o iechyd meddwl gwaeth.
Canfu hefyd fod canlyniadau iechyd meddwl yn amrywio rhwng grwpiau oedran, gyda'r cysylltiad cryfaf yn y cenedlaethau a oroesodd ddirywiad y diwydiant mwyngloddio. Mae'r astudiaeth hefyd yn awgrymu bod canlyniadau dad-ddiwydiannu ar iechyd meddwl yn effeithio ar fenywod o leiaf cymaint 芒 dynion, er gwaethaf y ffaith bod mwyngloddio yn ddiwydiant gwrywaidd iawn ei natur.