Mae Prifysgol Bangor ar ei ffordd i Lantwd, Sir Benfro, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026, o ddydd Sadwrn 1 Awst tan ddydd Sadwrn 8 Awst. Bydd y digwyddiad eleni yn dathlu 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf erioed yn 1176.
Ymunwch â ni ar gyfer ein haduniad rheolaidd o gyn-fyfyrwyr ar stondin Prifysgol Bangor 1.30 – 2.30pm ar ddydd Mercher, 5 Awst 2026.
Byddwch yn cael eich croesawu gan Emma Marshall, Pennaeth Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, a fydd yn son am rai o’r datblygiadau sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Yna, rydym yn falch iawn o gyflwyno Emyr Afan (Cymraeg, 1985), cynhyrchydd gweithredol teledu enillodd BAFTA, cyfarwyddwr amlw-gamera, ac arweinydd creadigol fel ein siaradwr gwadd. Enillodd Emyr OBE yn 2024 ac yn Fusnes y Flwyddyn Caerdydd yn 2023, yn ogystal ag Entrepreneur y Flwyddyn (2024). Yn ddiweddar, penodwyd ef yn Llysgennad Busnes ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ac mae hefyd yn arloeswr gwyrdd, gan ennill gwobr arloesi cenedlaethol am ei system batri o'r enw Nessa. Fel Prif Weithredwr Afanti - un o gwmnïau cynhyrchu teledu hynaf a mwyaf llwyddiannus Cymru - mae hefyd yn cadeirio elusennau cerddoriaeth i bobl ifanc ac yn cynrychioli Cymru ar PACT. Bydd yn rhannu sut y lluniodd ei gyfnod ym Mangor ei daith i ddod yn ffigwr blaenllaw ym myd busnes ac arloesi Cymru.
Yna fydd digon o amser i ddal i fyny hefo’ch cyd cyn-fyfyrwyr a staff. Mae drwg gennym nad ydym yn gallu cynnig lluniaeth fel rydan ni wedi gwneud yn y gorffennol.
Bydd stondin Prifysgol Bangor yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau, sesiynau, dadleuon, lansiadau a chyflwyniadau drwy gydol yr wythnos, felly cofiwch dod draw!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd yn ôl i'r Eisteddfod!