Roedd Prifysgol Bangor wrth ei bodd yn derbyn mainc a roddwyd gan y cyn-fyfyriwr Lynn James (Celfyddydau, 1967) fis diwethaf ar gyfer safle Meysydd Chwaraeon Treborth.
Rhoddodd Lynn y fainc i goff谩u Hen S锚r P锚l-droed Prifysgol Bangor 鈥� cyn-chwaraewyr t卯m p锚l-droed myfyrwyr Prifysgol Bangor. Fel myfyriwr, Lynn oedd Is-gapten y clwb p锚l-droed rhwng 1966 a 1967, a gwasanaethodd fel Capten rhwng 1967 a 1968, a nodir gan blac ar y fainc.
Mae plac i gyn-gyd-chwaraewr Lynn, John Young (Ieithoedd Modern, 1970), hefyd yn cael ei arddangos, ynghyd ag un arall sy'n gwahodd Hen S锚r P锚l-droed eraill sydd wedi dychwelyd am benwythnos yr Hen S锚r ers dros 10 mlynedd i ddilyn esiampl Lynn a John ac ychwanegu eu manylion eu hunain.
Mae Lynn wedi bod yn gefnogwr brwd o waith y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr dros y blynyddoedd, gan gynnal cysylltiad 芒'r brifysgol drwy fynychu digwyddiadau a rhoi rhoddion i Gronfa Bangor. Mae Lynn, John a nifer o Hen S锚r p锚l-droed eraill yn dychwelyd i Fangor ddechrau mis Mai bob blwyddyn ar gyfer penwythnos yr Hen S锚r, ac mae wedi bod yn wych croesawu'r gr诺p am aduniad ychwanegol ym mis Medi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Lynn:
Mae mainc "Hen S锚r" Prifysgol Bangor yn fynegiant bach iawn o'r ddyled sydd arnaf i'm profiad chwaraeon ac academaidd ym Mhrifysgol Bangor o 1964 - 8. Dim ond 2,000 o fyfyrwyr oedd gan y brifysgol bryd hynny, ond roedd ganddi 5 t卯m p锚l-droed. Ni fyddai dim yn fy mhlesio'n fwy na chlywed bod y brifysgol yn dychwelyd at y lefel honno o gyfranogiad.
Rydw i wedi gweithio mewn sawl prifysgol yn y Deyrnas Unedig a Gogledd America, ac nid wyf erioed wedi dod o hyd i - na chlywed am - unman lle mae cyn-fyfyrwyr chwaraeon yn dychwelyd bob blwyddyn i gynnal y traddodiad gorau o chwarae g锚m "gyfeillgar" flynyddol yn erbyn timau o fyfyrwyr presennol. Hir oes i hyn, a gobeithio y bydd yn parhau i gael ei gefnogi fel y mae ar hyn o bryd gan staff y brifysgol a'r cyn-fyfyrwyr.
Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Rydym mor ddiolchgar i Lynn am roi鈥檙 fainc Hen S锚r i goff谩u ei gyfnod yn y brifysgol. Mae'r fainc yn ychwanegiad gwych i safle Treborth ac yn atgof gwych i'n timau presennol o hanes clybiau chwaraeon y brifysgol. Mae teyrngarwch Lynn i Brifysgol Bangor yn beth rhyfeddol ac rydym yn diolch iddo am ei frwdfrydedd dros chwaraeon Prifysgol Bangor dros y blynyddoedd, y mae鈥檙 fainc newydd yn ddathliad perffaith ohono.
Mae rhoddion i'r brifysgol gan ein cyn-fyfyrwyr trwy gyfrwng Cronfa Bangor yn helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn elwa ar gyfleusterau a gwasanaethau rhagorol ochr yn ochr 芒鈥檜 haddysg.
Mae Cronfa Bangor, a wnaed o roddion caredig gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, wedi cefnogi nifer o brojectau sy'n gysylltiedig 芒 chwaraeon dros y blynyddoedd, gan gynnwys uwchraddio fflyd y clwb cychod, prynu chwe dingi hwylio ail-law ar gyfer Clwb Hwylio Prifysgol Bangor, darparu offer deifio hanfodol i鈥檙 Clwb Deifio Tanddwr a phrynu dau fwrdd sg么r awyr agored newydd, ar gyfer safle meysydd chwarae Treborth a鈥檙 cae hoci ar safle Ffriddoedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r brifysgol drwy Gronfa Bangor, cymerwch gip ar ein gwefan, neu e-bostiwch Persida Chung, Swyddog Datblygu.