³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:

Ceisiadau ar agor ar gyfer Medi 2026

Mae’r wybodaeth yma ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud cais i astudio gradd israddedig ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer mynediad ym Medi 2026.

Os ydych yn dal i ystyried eich opsiynau prifysgol ar gyfer mis Medi – peidiwch â phoeni, nid yw'n rhy hwyr i wneud cais i Brifysgol Bangor. I’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir, mae holl wybodaeath fydd ei angen arnoch am astudio ym Mhrifysgol Bangor ar gael yma.

Grŵp o dri myfyriwr yn cerdded ar safle Ffriddoedd, mae dau fyfyriwr arall yn sgwrsio

Sicrwydd o Lety o'r radd flaenaf

Rydym yn sicrhau  ystafell mewn llety Prifysgol i bob myfyriwr israddedig amser llawn newydd. Mae ein neuaddau’n fodern ac wedi’u lleoli’n gyfleus, felly nid yw’n syndod ein bod yn cael ein graddio’n gyson ymhlith y gorau yn y DU. Mae ein llety wedi’i raddio’n 12fed yn y DU ac yn 1af yng Nghymru gan University Compare 2026, ac yn 13eg yn y DU yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr What Uni 2025.
Dewch o hyd i’ch ystafell berffaith.

 

 

Cwestiynnau Cyffredin: Ceisiadau ar gyfer Medi 2026

Ydyn. Mae rhai cyrsiau ym Mhrifysgol Bangor yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer mynediad ym Medi 2026. Edrychwch ar ein cyrsiau israddedig.
 

I weld pa gyrsiau sy’n derbyn ceisiadau ar hyn o bryd, edrychwch ar ein cyrsiau a gwiriwch dudalen y cwrs perthnasol.

Gallwch wneud cais tan 30 Mehefin 2026, ond rydym yn argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl 30 Mehefin 2026 yn mynd yn awtomatig i’r broses Clirio, yn hytrach na chael eu hystyried yn y cylch ymgeisio prif lif.
 

I wneud cais am le israddedig mewn prifysgol, mae angen i chi wneud cais drwy (Universities and Colleges Admissions Service). Wrth wneud eich cais UCAS i Brifysgol Bangor, defnyddiwch y cod: B06.

Os ydych yn gwneud eich cais UCAS cyntaf ar gyfer mynediad i’r brifysgol y mis Medi hwn, gwnewch eich cais i Brifysgol Bangor cyn gynted â phosibl. Mae digon o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am y broses ymgeisio ar wefan UCAS.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais drwy UCAS ar gyfer mynediad i’r brifysgol y mis Medi hwn, ond nad ydych yn dal nrhyw gynigion, efallai y byddwch yn gallu ychwanegu dewis arall drwy wasanaeth Mae’r gwasanaeth hwn ar eich cyfer os ydych wedi derbyn penderfyniadau gan bob un o’r pum prifysgol neu goleg ac heb gael eich derbyn, neu os ydych wedi gwrthod y cynigion a gawsoch. Mae Extra yn wasanaeth am ddim sy’n caniatáu i chi wneud cais i un cwrs ar y tro rhwng 26 Chwefror a 30 Mehefin. Os yw Extra ar gael i chi, bydd yn ymddangos fel opsiwn pan fyddwch yn mewngofnodi i weld eich cais UCAS.
 

 

Gallwch sgwrsio â staff a myfyrwyr am y cwrs drwy blatfform Unibuddy neu gysylltu â thîm Derbyniadau Prifysgol Bangor.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd