成人VR视频

Fy ngwlad:
Student smiling sat in front of a laptop in the colab space in Pontio

Graddau Economeg Israddedig

Mae astudio Economeg ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi'r sgiliau, y profiad a'r gefnogaeth i ti lwyddo. Mi fyddi鈥檔 archwilio materion byd go iawn, megis effaith Brexit a chwyddiant ar yr economi. Mi fyddi鈥檔 astudio maes llafur a gydnabyddir yn fyd-eang ac yn ennill profiad ymarferol o ddefnyddio offer safonol y diwydiant ar ein Llawr Masnachu. Gyda chefnogaeth bersonol o'r diwrnod cyntaf, mi fyddi鈥檔 graddio'n barod i wneud gwahaniaeth yn dy yrfa.

Ar y dudalen hon:
Cyrsiau Economeg

Darganfod y cwrs Economeg i ti

Economeg - BSc (Anrh)
Dadgodiwch gyfundrefnau cyllid y byd. Mae'r cwrs Economeg yn dadansoddi marchnadoedd, polis茂au a thueddiadau byd-eang. Lluniwch ddyfodol i chi eich hun mewn busnes, cyllid, neu ymchwil.
Cod UCAS
L110
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Economeg (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Dadgodiwch gyfundrefnau cyllid y byd. Mae'r cwrs Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen yn dadansoddi marchnadoedd, polis茂au a thueddiadau byd-eang. Lluniwch ddyfodol i chi eich hun mewn busnes, cyllid, neu ymchwil.
Cod UCAS
L10F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Economeg a Chyllid - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1N3
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Economeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg gyda'r cwrs blwyddyn sylfaen hwn. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1NF
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL
Dau fyfyriwr yn cerdded drwy adeilad modern Pontio ym Mhrifysgol Bangor, yn gwenu. Mae graffig tarian goch a'r testun 鈥淵sgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor鈥� yn dangos.
Trawsgrifiad fideo: Ysgol Fusnes Albert Gubay

[DISGRIFIAD SAIN] Golygfa eang o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor ar ddiwrnod clir. Mae myfyrwyr yn astudio'n dawel yn llyfrgell y Brifysgol wrth i ddarlithydd annerch y camera.

[TROSLAIS] Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd anrhagweladwy, a gall fod yn anodd i bobl ddeall sut y gallant byth wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae Prif Adeilad y Celfyddydau yn sefyll ar ochr bryn, wedi'i amgylchynu gan goed. Y tu mewn, mae myfyrwyr yn mynychu darlith ac yn ysgrifennu nodiadau. Darlithydd yn siarad yn uniongyrchol i'r camera.

[TROSLAIS] Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, ein cred greiddiol yw y gellwch ysgogi newid cadarnhaol, ar draws y byd gyda鈥檙 addysg gywir a鈥檙 set sgiliau gywir.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn siarad 芒 darlithydd mewn caffi, gan drafod eu gwaith.

[TROSLAIS] Rydym yn hyderus o hyn oherwydd bod ein staff ymchwil, a'n graddedigion, yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd, gan fynd i'r afael 芒 heriau busnes y byd go iawn.

[DISGRIFIAD SAIN] Ar y Llawr Masnachu, mae myfyrwyr yn gweithio mewn terfynellau Bloomberg wrth i ddarlithydd esbonio data ar sgrin fawr. Mae lluniau byr yn dangos Llundain, strydoedd y ddinas, gwaith cynaliadwyedd, a gweithgarwch ymchwil.

[TROSLAIS] Boed hynny'n defnyddio dadansoddeg data i yrru effeithlonrwydd stryd fawr leol, datblygu polis茂au cynaliadwy pendant ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r perthnasoedd rhwng brandiau a sbwriel, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy'n well i'w hiechyd a'r amgylchedd.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae dau fyfyriwr yn cerdded gyda'i gilydd drwy'r Prif Adeilad, yna'n gweithio ar liniadur yn Neuadd Pritchard Jones.

[TROSLAIS] Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae golygfeydd o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau yn ymddangos, gyda mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri yn y pellter. Mae myfyrwyr yn gweithio ar y Llawr Masnachu ac yn Llyfrgell Shankland.

[TROSLAIS] Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, mae traddodiad yn cwrdd ag arloesedd, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, megis ein terfynellau Bloomberg, ychydig funudau ar droed o Ddarllenfa Shankland.

[DISGRIFIAD SAIN] Dangosir yr Hen Goleg ar ddiwrnod clir, wedi'i amgylchynu gan wyrddni. Mae academydd yn siarad 芒'r camera. Mae ffotograff hanesyddol o'r Brifysgol yn ymddangos.

[TROSLAIS] Nid damwain yw twf a datblygiad yr ysgol fusnes, rydym yn un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn cyfarfod 芒 staff academaidd i drafod eu haseiniadau.

[TROSLAIS] Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn defnyddio terfynellau Bloomberg. Mae golygfeydd o'r awyr yn dangos Bangor, dinas yn y Deyrnas Unedig a dinas ryngwladol. Dangosir addysgu, cefnogaeth un-i-un, a gwaith cydweithredol. Yn M鈥慡Parc, mae cyflogwyr yn gweithio mewn gofod modern, ac mae penset rhithrealiti yn cael ei arddangos.

[TROSLAIS] Heddiw, rydym yn gweithio gyda busnesau, llywodraeth ac elusennau yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd, i wella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd i ddarparu addysg ragorol trwy deithiau maes ac amlygiad i arbenigedd amrywiol yn y diwydiant, gan ddarparu'r sgiliau y mae cyflogwyr wir eu heisiau.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae Prif Adeilad y Celfyddydau yn ymddangos eto. Mae dau fyfyriwr yn eistedd ar y glaswellt y tu allan, yn darllen gyda'i gilydd.

[TROSLAIS] Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn fwy na dim ond lle i astudio.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn siarad ac yn chwerthin yn yr awyr agored. Staff academaidd yn annerch y camera.

[TROSLAIS] Dyma lle caiff arweinwyr y dyfodol eu creu, lle mae arloesedd yn ffynnu, a lle mae heriau byd-eang yn cael eu datrys yn arloesol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae lluniau cyflym yn dangos myfyrwyr yn dysgu ar draws darlithoedd, gwaith gr诺p a chyfleusterau arbenigol. Mae'r ffilm yn gorffen gyda golygfa o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau, wedi'i gorchuddio ag arfbais y Brifysgol ac enw'r ysgol.

[TROSLAIS] Rydym yn creu arweinwyr busnes y dyfodol, a byddem wrth ein bodd yn dy groesawu i ymuno 芒 ni i lywio鈥檙 dyfodol.

Camu i Mewn i'n Hystafell Fasnachu

Mae ein Hystafell Fasnachu鈥檔 darparu amgylchedd diogel a chefnogol lle cei gyfle i gymhwyso theori i ymarfer gan ddefnyddio data byw a thechnoleg safonol y diwydiant. 

Gan ddefnyddio offer proffesiynol, gan gynnwys terfynellau Bloomberg, efelychu portffolio Stocktrak a meddalwedd dadansoddi ystadegol Stata, byddi di'n datblygu'r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ar draws economeg, cyllid, ymgynghori a pholisi cyhoeddus.

Charles Vogt a former student of Bangor Business School

Charles Vogt O Raddedig Bangor i Ddadansoddwr Buddsoddi

Beth oedd nesaf ar 么l graddio? 

Cefais swydd fel Dadansoddwr Buddsoddiadau gyda chwmni Arrow Global Ltd ar 么l graddio. Mae鈥檙 cwmni, sydd wedi ei leoli ym Manceinion, yn un o鈥檙 prif gwmn茂au buddsoddi a rheoli asedau yn Ewrop.

Pam Bangor? 

Fe ddarllenais i fod nifer o raddedigion yr ysgol wedi mynd yn eu blaen i weithio i sefydliadau yn y farchnad ariannol ryngwladol.

Sut wnaeth Bangor helpu dy gyflogadwyedd?

Cefais gefnogaeth, gofal ac anogaeth gan fy narlithwyr, ac fe roddodd hynny hyder i mi lwyddo a dod o hyd i waith. Mae darlithwyr yn poeni am eich perfformiad yn yr ystafell ddosbarth, ond maen nhw hefyd yn poeni am sut y byddwch chi'n llwyddo yn y dyfodol.

Astudiodd Charles radd israddedig mewn Economeg Ariannol gyda'r Ysgol Fusnes cyn symud yn ei flaen i wneud gradd 么l-raddedig mewn Bancio a Chyfraith ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd y cwrs yn wych, gyda darlithwyr gwybodus a chefnogol. Roedd y modiwlau wedi'u strwythuro fel bod yr hyn a ddysgais yn berthnasol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn, roedd y cynnwys yn ymarferol ac yn berthnasol. Roedd y cyfuniad o wybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol yn dod a'r pwnc yn fyw ac fe agorodd gyfleoedd i mi ddilyn gyrfa yn y maes sydd o ddiddordeb i mi.

Norra Tengcharoensuk,  Graddedig Economeg

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol

Swgrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Economeg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Economeg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Economeg ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Darlun pensaer o Ysgol Busnes Albert Gubay

Rhodd o 拢10.5 miliwn i sefydlu 鈥榊sgol Fusnes Albert Gubay鈥� ym Mhrifysgol Bangor

Mae鈥檔 bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o 拢10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.

Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.