³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Chwaraeon
Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
Dysgwch am Wyddoniaeth Iechyd a Pherfformiad Dynol: Cyfres Gweminar Gwyddorau Chwaraeon

Lleoedd Ar Gael Ar Gyfer Medi 2026!

Barod i ymuno â ni yn yr Hydref? Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau yn y maes pwnc yma yn cychwyn ym Medi 2026.

Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Nawr Am Gwrs Clirio Disgwyl Am Ganlyniadau? Cofresrwch Ddiddordeb Mewn Clirio

5 rheswm i astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor

Astudiwch wyddor chwaraeon ac ymarfer corff lle mae mynyddoedd, y môr ac antur yn rhan o fywyd bob dydd y myfyriwr. Nid dim ond golygfeydd yw ein hamgylchedd awyr agored a chyfleusterau chwaraeon mwyaf y Gogledd-orllewin – maent yn dod yn ystafell ddosbarth i chi.

Ble bynnag y byddwch yn dechrau, byddwn yn eich herio ac yn eich cefnogi i lwyddo.
Gweledigaeth – chi, yn raddedig sydd wedi'i baratoi ar gyfer y dyfodol.
Her – chi, yn datblygu i fod y gorau y gallwch fod.
Cefnogaeth – mentora tuag at eich nodau bywyd.

Nid dim ond darllen y gwerslyfrau y mae ein darlithwyr yn eu gwneud - maen nhw'n eu hysgrifennu. Fel ymchwilwyr ac ymarferwyr gweithredol, maen nhw'n dod â phrofiad gwirioneddol yn y diwydiant i bob modiwl, tra byddwch chi'n meithrin y meddwl beirniadol y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi trwy gwblhau eich prosiect ymchwil eich hun. Trwy ein partneriaethau â sefydliadau fel y BCE, Dinas Manceinion, Chwaraeon Cymru, Achub Mynydd Lloegr a Chymru, a'r GIG, byddwch chi'n cael dealltwriaeth wirioneddol o'r hyn sy'n gwneud amgylchedd perfformiad uchel yn gweithio. Yna mae modiwlau lleoliad hyblyg yn caniatáu ichi roi hyn ar waith, gan roi profiad gweithle go iawn i chi sy'n cyd-fynd â'ch amserlen.

Mae dosbarthiadau bach a champws unigol yn golygu bod eich darlithwyr yn gwybod eich enw. Mae ein cymhareb darlithwyr-i-fyfyrwyr ymhlith y gorau yn y sector, felly rydych chi'n cael mwy o amser wyneb yn wyneb, nid llai, yn ogystal â sesiynau galw i mewn a thiwtorialau un-i-un pan fydd eu hangen arnoch. Mae cyfleusterau a rennir ar gyfer addysgu, ymchwil a gwaith labordy cymhwysol yn golygu bod gwaith ymarferol yn ategu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu mewn darlithoedd yn uniongyrchol.

Ym Mangor, byddwch yn teimlo angerdd Cymru dros chwaraeon ym mhob dim a wnewch, o ddiwrnodau gêm i fywyd ar y campws. Byddwch yn ymuno â myfyrwyr o 75 o wledydd sy'n rhannu cariad at chwaraeon ac iechyd, mewn cymuned sy'n ymrwymedig i degwch: mae ein hymchwil i iechyd menywod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ym myd chwaraeon a'r gweithle.

Fideo Swyddogol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Bangor

Siot o gwfn gwlad eryri a'r mynyddoed gwyrdd, awyr las, a Llyn Nantlle yn y gwaelod

Graddau Israddedig

Rydym wedi cynllunio ein graddau o amgylch yr hyn rwyt ti am ei gyflawni. Yn angerddol am addysgu? Mae ein gradd Chwaraeon ac Addysg Gorfforol yn dy baratoi'n berffaith ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion i addysgu Addysg Gorfforol Safon Uwch. Caru'r awyr agored? Mae Gwyddorau Chwaraeon Antur yn rhoi i ti sgiliau technegol a'r gallu i addysgu mewn disgyblaethau ar y dŵr ac yn y mynyddoedd.

Mae dy ddiddordebau'n llunio dy lwybr – rydyn ni'n sicrhau dy fod di'n barod amdano.

Gweld ein Cyrsiau

Graddau Rhyngosodol

Astudio meddygaeth yn barod? Rydym yn cynnig rhaglenni BSc sy'n dy alluogi i arbenigo mewn gwyddor chwaraeon neu wyddor chwaraeon clinigol. Byddi di’n ennill arbenigedd sy'n pontio meddygaeth a pherfformiad, gan agor cyfleoedd gyrfaoedd newydd.

Gweld ein Cyrsiau

Gradd Dilyniant

Mae'r radd chwaraeon hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio gradd sylfaen gysylltiedig mewn gwyddorau chwaraeon.

Gweld ein Cyrsiau

Myfyrwyr yn mesur y defnydd o ocsigen yn ystod ymarfer corff gan ddefnyddio bag Douglas

Pam Astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer?

Gwyddorau chwaraeon ac ymarfer yw lle mae angerdd yn cwrdd â phwrpas. Rydym yn defnyddio egwyddorion gwyddonol i helpu pobl i symud yn well, perfformio ar eu gorau, a byw bywydau iachach.

Mae'r maes hwn yn tyfu'n gyflym – mae'n dod yn un o'r pynciau mwyaf poblogaidd ledled y Deyrnas Unedig ac o gwmpas y byd. Mae myfyrwyr yn ei ddewis oherwydd eu bod yn gallu gweld yr effaith wirioneddol y mae'n ei chael, o berfformiad elît i lesiant beunyddiol.

Dydyn ni ddim yn astudio sut mae'r corff yn gweithio yn unig – rydyn ni'n darganfod sut i wneud iddo weithio'n well.

Fideo - astudio Gwyddorau Chwareon ac Ymarfer

Mae'r Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig gradd dwyieithog i fyfyrwyr sy'n awyddus i astudio modiwlau drwy'r Gymraeg.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Taith Rithiol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prifysgol Bangor

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Ymchwil ac Effaith Gwyddor Chwaraeon
Rydyn ni’n 1af yng Nghymru ac yn 5fed yn y Deyrnas Unedig am ymchwil mewn Gwyddorau Chwaraeon, gyda 100% o’n gwaith wedi sgorio naill ai gyda'r gorau yn y byd neu’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2021).

Nid ar bapur yn unig y mae hyn yn drawiadol – mae'n trawsnewid dy ddysgu. Byddi di'n gweithio'n uniongyrchol gydag ymchwilwyr sy'n cynghori Chwaraeon y Deyrnas Unedig, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn ystod dy radd, byddi di’n gwneud dy ymchwil dy hun dan oruchwyliaeth mewn meysydd fel Seicoleg Perfformiad Elît, Amgylcheddau Eithafol, neu Weithgarwch Corfforol a Llesiant.

Byddi di’n cyflwyno dy ganfyddiadau yn ein Cynhadledd Myfyrwyr – profiad arbennig sy'n datblygu'r sgiliau datrys problemau, dadansoddi a chyfathrebu y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Dydyn ni ddim yn dy ddysgu di am ymchwil yn unig; rydyn ni'n dy wneud di'n ymchwilydd.

Dau fyfyriwr yn rhedeg ar y trac yn Nhreborth

Cyfleusterau Chwaraeon Bangor

Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnat ti i aros yn egnïol a gwthio dy derfynau. Mae ein cyfleusterau dan do ac awyr agored yn barod ar gyfer beth bynnag sydd orau gen ti – o hyfforddiant pwysau ac aerobeg i athletau a dringo dan do.

P'un a wyt ti'n hoff o griced dan do, tenis, sboncen, neu drampolinio, neu bod well gennyt ti'r caeau awyr agored ar gyfer pêl-droed, rygbi a hoci, mi gei di hyd i dy le yma. Dyma lle byddi di'n hyfforddi, yn cystadlu, ac yn darganfod pethau newydd i fod yn frwd amdanynt

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.