Adeiladu rhagolygon gyrfa cryf yng Nghymru a thu hwnt
Mae gradd 么l-radd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn rhywbeth y mae galw mawr amdani o blith cyflogwyr ledled Cymru a thu hwnt. Mae graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd yn y meysydd canlynol:
- Addysg
- Iechyd
- Gweinyddiaeth gyhoeddus
- Polisi
- Diwylliant
- Y 鈦燾yfryngau
- Ymchwil
Rhoddir gwerth mawr ar y sgiliau y byddwch yn eu hennill mewn sectorau lle mae gallu dwyieithog a chymwysterau uwch yn hanfodol. Gall eich gallu i weithio鈥檔 hyderus ac yn broffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg greu cyfleoedd i gael swyddi arweinyddiaeth ac arbenigol ar draws y sectorau cyhoeddus, diwylliannol a phroffesiynol.
Addysgu ac Ymchwil Cyfrwng Cymraeg
Mae addysgu 么l-radd cyfrwng Cymraeg ym Mangor yn seiliedig ar arbenigedd ymchwil staff academaidd ar draws y brifysgol. Defnyddir y Gymraeg fel iaith addysgu, goruchwylio ac ysgolheictod, gan gefnogi ymchwil gwreiddiol ac astudiaeth uwch ar draws disgyblaethau.
Mae gan Fangor ymrwymiad hirsefydlog i addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg, gan wneud Cymru, ei hiaith a'i chysylltiadau byd-eang yn rhan greiddiol o astudiaeth academaidd a pharatoi graddedigion i gyfrannu'n ystyrlon at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.