Cyflwyno We Care: Sgrinio Serfigol Tosturiol yn ymarferol
Mae sgrinio serfigol yn achub bywydau. Er hynny, i lawer o ferched, yn enwedig y rhai sydd wedi profi trais a chamdrinaeth rhywiol gall mynychu gofal sgrinio personol deimlo鈥檔 anodd. Gall y profiadau hyn siapio sut mae sgrinio鈥檔 cael ei ganfod a鈥檌 fynychu.
Mae We Care yn brosiect ymchwil sy鈥檔 archwilio sut y gellir darparu sgrinio serfigol mewn ffyrdd tosturiol, sensitif ac ymatebol i anghenion amrywiol merched. Gan dynnu ar ymchwil rhyngwladol yng Nghymru, Lloegr, Sweden ac Awstralia, mae鈥檙 prosiect yn dod 芒 phrofiad byw, mewnwelediad ymarferwyr, a safbwyntiau鈥檙 system ynghyd i ddeall beth sy鈥檔 cefnogi menywod i deimlo鈥檔 ddiogel ac yn cael eu parchu, a beth all fod yn rhwystr i gyrchu gofal sgrinio serfigol.
Beth mae鈥檙 dystiolaeth yn ei ddweud?
Mae corff sylweddol o dystiolaeth academaidd yn dangos bod cyfranogiad mewn sgrinio serfigol yn cael ei siapio nid yn unig gan ymwybyddiaeth a mynediad, ond gan sut mae鈥檙 gofal yn cael ei brofi. Mae merched sydd 芒 hanes o drais a cham-drin rhywiol yn adrodd lefelau uwch o ofn, rhagdybiaeth o boen, colli rheolaeth ac osgoi sgrinio. Mae astudiaethau hefyd yn tynnu sylw at effaith arddull cyfathrebu, sensitifrwydd ymarferwyr, parhad gofal, hyblygrwydd apwyntiadau a chyfleoedd i ddewis. Mae dulliau sensitif, apwyntiadau hirach, esboniadau clir ac arferion darparu caniatad penodol wedi鈥檜 cysylltu 芒 gwell cysur ac ymddiriedaeth. Mae鈥檙 dystiolaeth hon yn bwysig oherwydd mae cyfraddau sgrinio is yn gysylltiedig 芒 diagnosis canser yn hwyrach a chanlyniadau gwaeth. Felly mae gwella ansawdd a thosturi gofal sgrinio serfigol nid yn unig yn fater moesegol ac pherthnasol, ond yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus sy鈥檔 gallu cryfhau mynediad ar sail cydraddoldeb mewn ffordd ataliol. Gellir atal canser serfigol ac mae modd ei ddileu鈥檔 deg ar draws cymunedau amrywiol.
Pam mae鈥檙 Prosiect hwn yn Bwysig
Mae merched sydd wedi profi trais a chamdriniaeth rhywiol yn aml yn disgrifio sgrinio serfigol fel rhywbeth sy鈥檔 heriol yn gorfforol ac yn emosiynol. Gall strwythurau apwyntiadau safonol, diffyg dewisiadau, pwysau amser, ac arddulliau cyfathrebu danseilio teimladau o ddiogelwch ac urddas.
Ar yr un pryd, mae systemau iechyd dan bwysau cynyddol i ddangos effaith, gwerth a chynaliadwyedd. Felly mae鈥檔 rhaid i welliannau mewn gofal fod yn dosturiol, wedi鈥檜 canoli ar y person ac wedi鈥檜 llywio gan dystiolaeth. Mae鈥檙 prosiect We Care yn dod 芒鈥檙 blaenoriaethau hyn ynghyd ac yn archwilio:
- Sut olwg sydd ar ofal sgrinio serfigol tosturiol yn ymarferol?
- Beth sy鈥檔 helpu merched i deimlo鈥檔 ddiogel ac yn cael eu parchu wrth gyrchu gofal sgrinio agos?
- Pa alluogwyr a rhwystrau sy鈥檔 bodoli o fewn systemau presennol?
- Sut y gellir ail-ddylunio gwasanaethau i ymateb yn fwy effeithiol drwy ddull tosturiol o ofal?
Astudiaeth Ryngwladol Aml-ffrwd
Mae鈥檙 prosiect yn tynnu ar ymchwil ar draws Cymru, Lloegr, Sweden ac Awstralia. Mae鈥檔 cyfuno dulliau meintiol ac ansoddol, ochr yn ochr 芒 chyd-gynhyrchu gyda menywod ac ymarferwyr.
Mae鈥檙 astudiaeth yn cynnwys:
- Archwilio derbynioldeb hunan-samplu HPV ymhlith menywod 芒 phrofiad byw
- Cyfweliadau a grwpiau ffocws manwl 芒 merched mewn pedair gwlad
- Cyfweliadau ag ymarferwyr i archwilio galluogwyr a rhwystrau system
- Gweithdai cyd-gynhyrchu i ddatblygu model gofal tosturiol drafft a phecyn cymorth i ymarferwyr
Adeiladu Model Gofal Tosturiol
Yn ganolog i鈥檙 prosiect yma mae datblygu model gofal tosturiol ar gyfer sgrinio serfigol. Trwy arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai cyd-gynhyrchu, mae merched 芒 phrofiad byw o drais a cham-drin rhywiol ac ymarferwyr yn gweithio gyda鈥檌 gilydd i nodi gwelliannau ymarferol ar draws taith sgrinio serfigol.
Nid yw鈥檙 ymchwil hwn yn ymwneud 芒 gwrando yn unig, ond 芒 thrawsnewid mewnwelediadau鈥檔 newid mesuradwy. Mae鈥檙 prosiect yn defnyddio dulliau economeg iechyd a gofal i asesu effaith a gwerth, gan helpu dangos sut y gall model tosturiol o ofal wella profiadau ac ar yr un pryd gefnogi gofal sgrinio ataliol cynhwysol, cynaliadwy a chost isel.
Ymunwch
Rydym yn croesawu ymgysylltiad gan ferched 芒 phrofiad byw, ymarferwyr ac arweinwyr polisi sydd 芒 diddordeb mewn cryfhau gofal sgrinio serfigol.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyfranogiad, cydweithio a diweddariadau鈥檙 prosiect ar wefan y prosiect a鈥檙 gyfres bodlediad:/cheme/we-care-womens-empowerment-cervical-screening-access-recovery-and-empathy
Mae gan ofal tosturiol y potensial i siapio ymddiriedaeth, mynediad a chanlyniadau. Trwy ymchwil, partneriaeth a dysgu cydfuddiannol, mae We Care yn ceisio cyfrannu at wasanaethau sgrinio serfigol lle mae pob merch yn teimlo鈥檔 ddiogel, yn cael ei pharchu, ac yn cael ei chlywed.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch 芒鈥檙 arweinydd prosiect:
Dr Ceryl Teleri Davies, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor: ceryl.davies@bangor.ac.uk