Mae Cronfa Bangor wedi galluogi myfyrwyr fferylliaeth sy'n perfformio'n dda yn gynnar yn eu cwrs yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn profiad datblygu academaidd a phroffesiynol sy鈥檔 cael ei gydnabod yn genedlaethol. Mae hyn yn fodd o wobrwyo rhagoriaeth a meithrin hyder yn gynnar yn eu hastudiaethau. Mae Cronfa Bangor yn dibynnu ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Prif amcan y gronfa ydy darparu elfen ychwanegol at brofiad y myfyrwyr.
Cafodd chwech o fyfyrwyr, tri o'r Flwyddyn Sylfaen a thri o Flwyddyn 1, eu dewis i gymryd rhan mewn ymweliad academaidd a diwylliannol i Lundain dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Roedd y rhaglen yn cyfuno gweithgareddau a g芒i eu cynnal yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn y Llyfrgell Brydeinig gyda mynychu鈥檙 symposiwm 鈥楳astering MedChem X鈥� a gafodd ei drefnu gan Gymdeithas Cemeg Feddyginiaethol Prydain a鈥檌 gynnal ym mhencadlys y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Mae'r fenter yn nodedig gan ei bod yn canolbwyntio ar gydnabod rhagoriaeth academaidd ymhlith myfyrwyr fferylliaeth yn y flwyddyn sylfaen a鈥檙 flwyddyn gyntaf trwy eu cael i gymryd rhan mewn cynhadledd wyddonol genedlaethol o bwys. Cysylltir cyfleoedd o鈥檙 fath fel arfer 芒 chyfnod diweddarach o astudiaethau israddedig neu astudiaethau 么l-radd. Drwy gyflwyno myfyrwyr i amgylcheddau ymchwil effaith uchel yn gynnar yn eu taith academaidd, nod y rhaglen yw cryfhau dyhead, hunaniaeth broffesiynol ac ymwybyddiaeth y myfyrwyr o鈥檙 llwybrau ymchwil a fydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
Dywedodd y myfyrwyr fod y profiad wedi gwneud iddynt deimlo鈥檔 fwy cyfforddus mewn digwyddiad gwyddonol el卯t o鈥檙 fath ac wedi cynyddu eu hyder wrth ymgysylltu ag ymchwilwyr blaenllaw a gwyddonwyr o ddiwydiant. Nododd sawl un fod ganddynt bellach ymdeimlad cryfach o berthyn o fewn y pynciau STEM a mwy o eglurder ynghylch gyrfaoedd posibl ym meysydd ymchwil, cemeg feddyginiaethol a darganfod cyffuriau.
Rhannodd Adesewa Adebiy, myfyriwr MPharm blwyddyn gyntaf:
Fel myfyriwr fferylliaeth, roeddwn yn ymwybodol bod meddyginiaethau鈥檔 cael eu datblygu ymhell cyn iddynt gael eu defnyddio gyda chleifion, ond daeth y gynhadledd hon 芒鈥檙 realiti hwnnw鈥檔 fyw go iawn, gan ddangos i mi fod fferylliaeth yn dechrau yn y labordy gyda chwilfrydedd, creadigrwydd a gwyddoniaeth drylwyr. Cefais fy syfrdanu hefyd gan ba mor groesawgar ac agored oedd yr ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a oedd yn barod i rannu eu profiadau鈥檔 hael a gwneud y profiad dysgu hyd yn oed yn fwy effeithiol.
Dywedodd Dr Hadia Almahli, sy鈥檔 ddarlithydd mewn gwyddorau fferyllol:
Hoffwn estyn fy niolch diffuant i鈥檙 cyn-fyfyrwyr hael sydd wedi cyfrannu at Gronfa Bangor ac sydd wedi gwneud y fenter hon yn bosibl. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn allweddol er mwyn galluogi cyfleoedd sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn grymuso gwyddonwyr y dyfodol.
Mae Hadia yn bwriadu adeiladu ar y model hwn yn y blynyddoedd nesaf drwy ymweld 芒 sefydliadau ymchwil-ddwys eraill, gan gynnwys prifysgolion Rhydychen, Caergrawnt a Sussex, gan helpu i godi proffil y Brifysgol o fewn rhwydweithiau gwyddonol cenedlaethol.
Dysgwch ragor am Gronfa Bangor