Cronfa Bangor yn cefnogi podlediad newydd lle mae alumni yn rhannu sut y bu astudio yn y Gymraeg o gymorth i'w gyrfaoedd
Rhannwch y dudalen hon
Mae Cronfa Bangor, sy'n cynnwys rhoddion oddi wrth gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei rheoli gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, wedi cefnogi Canolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor i gynhyrchu cyfres o bodlediadau. Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bango yn rhannu sut y bu i astudio'r Gymraeg ym Mangor ddylanwadu ar eu gyrfaoedd. Mae hynny鈥檔 cynnwys cyfleoedd proffesiynol a datblygu arbenigedd, ac mae'r cyn-fyfyrwyr yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar r么l y Gymraeg yn eu bywydau proffesiynol.
Cafodd pennod gyntaf y podlediad newydd - (Bangor 鈥� what鈥檚 next) 鈥� ei lansio. Dros bum podlediad, bydd cyn-fyfyrwyr yn rhannu sut maen nhw wedi elwa o astudio pwnc neu fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol, ac yn eu gyrfaoedd. Huw Gwynn, Swyddog Hyrwyddo Addysg Uwch yn y Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr sy鈥檔 cyflwyno. Dyma bodlediad Cymraeg sy鈥檔 anelu at ysbrydoli myfyrwyr chweched dosbarth a鈥檙 brifysgol trwy rannu profiadau cyn-fyfyrwyr, gan dynnu sylw at fanteision astudio cyrsiau a modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod y gyfres, bydd Huw yn sgwrsio 芒 gwesteion adnabyddus Cymraeg ac yn gofyn am y gwahanol ffyrdd y mae'r iaith wedi eu helpu ar 么l iddynt gwblhau eu haddysg. Ymhlith y cyfranwyr mae Sioned Dafydd, aelod o鈥檙 band Cymraeg Fleur De Lys, Huw Harvey, a鈥檙 chwaraewr rygbi Teleri Davies.
Fel rhan o鈥檙 cyffro, bu鈥檙 cyn-fyfyriwr a galwr Telethon Cronfa Bangor, Liam Evans 鈥� sydd bellach yn newyddiadurwr ac yn gyflwynydd p锚l-droed gyda鈥檙 BBC, yn rhannu ei brofiadau.
Doedd fy Nghymraeg i ddim ar ei gorau cyn i mi ddod i鈥檙 Brifysgol, ond mi roddodd astudio drwy鈥檙 Gymraeg y seilwaith cadarn yna i fi benderfynu mynd ymlaen i swyddi, yn hyderus i siarad yr iaith.
Mae 鈥榥a alw am sgiliau Cymraeg. Dwi鈥檔 darlledu鈥檔 ddwyieithog y rhan fwyaf o鈥檙 amser. Ond faswn i byth wedi cael y cyfle hwnnw heblaw fy mod i鈥檔 siarad Cymraeg. Faswn i byth wedi cael fy nhroed i mewn gyda鈥檙 BBC heb fy mod i鈥檔 ddwyieithog.
Dwi wir wedi mwynhau sgwrsio gyda gwesteion hynod ddifyr ac amrywiol dros yr wythnosau diwethaf a dod i wybod sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw yn eu gyrfaoedd. O wybod sut mae'r Gymraeg wedi cyfrannu at siapio gyrfaoedd llewyrchus, y gobaith ydi y bydd hynny yn ysbrydoli myfyrwyr a darpar-fyfyrwyr i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn fynegi fy niolch i Gronfa Bangor y Brifysgol am ariannu datblygu'r podlediad ac i Aled Jones, o gwmni Y Pod am gynhyrchu'r penodau.