Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr drama gyda mewnwelediad a phrofiad yn y diwydiant
Diolch i gefnogaeth gan Gronfa Bangor, mae myfyrwyr drama wedi cael mynediad gwerthfawr i ddiwydiannau creadigol y Deyrnas Unedig trwy gyfres o brofiadau ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio proffesiynol.
Dros y mis diwethaf, bu鈥檙 myfyrwyr yn rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant ym maes drama, teledu, sgriptio a chynhyrchu theatr dechnegol. Roedd y profiadau hyn wedi'u cynllunio i gryfhau cyflogadwyedd a datblygu hyfforddiant aml- lwyfan yn seiliedig ar sgiliau mewn perfformio, cyfarwyddo, dweud straeon, a sgiliau technegol - meysydd sy'n adlewyrchu galw cyfredol y diwydiant.
Cydweithiodd staff drama broffesiynol y diwydiant gydag Academi Sgrin Cymru, Red Planet Pictures, Cwmni Theatr Fran Wen, a'r sgriptiwr enwog, Tony Jordan (Eastenders, Life on Mars, Death in Paradise, Hustle) i ddarparu hyfforddiant yn seiliedig ar sgiliau i raddedigion y dyfodol.
Dywedodd Daf Palfrey, darlithydd mewn ysgrifennu ar gyfer y sgrin, 鈥淩oedd yn wych cael y meistr ar ysgrifennu ar gyfer y sgrin, Tony Jordan, yn rhoi adborth, cyngor a doethinebau i fyfyrwyr ar fodiwl Ystafell yr Awduron ym Mhrifysgol Bangor. Y prif bwyntiau ymhlith miliwn o rai gwych oedd cadw鈥檙 syniad yn syml, yn rymus ac 鈥渆wch amdani!鈥.
Bu Ffion Haf Evans, uwch ddarlithydd mewn perfformio, yn cydweithio 芒 Rheolwr Academi鈥檙 Sgrin, Carol Jones, i gynllunio a threfnu dosbarth meistr dros hanner diwrnod mewn cyfarwyddo ac actio i鈥檙 camera gydag Aria Film Studios a Rondo Media. Cynhaliwyd y dosbarth ar setiau mewnol pwrpasol , ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan gyfarwyddwyr ac actorion y sioe.














Mae'r cyfleoedd hyn yn rhan o ymdrech ehangach i alinio addysgu ag arfer y diwydiant. Nid yn unig yr ydym yn mynd 芒 myfyrwyr i ofodau proffesiynol, rydym yn ymgorffori mewnwelediad byd go iawn yn ein cwricwlwm.
Ffion Haf Evans, Uwch Darlithydd Mewn Perfformio
Dyma gyfleoedd gwych sy鈥檔 rhoi cipolwg inni ar sut mae鈥檙 diwydiant yn gweithio a鈥檙 gofynion a ddisgwylir ar 么l graddio.
Owen Roberts, Myfyriwr y drydedd flwyddyn ym maes y cyfryngau a drama,
Dyma gyfleoedd gwych o ansawdd uchel yr ydym yn falch o鈥檜 cynnig i鈥檙 myfyrwyr i鈥檞 paratoi at ddyfodol yn y celfyddydau creadigol. Hoffwn ddiolch i alumni Bangor am y gefnogaeth ariannol ar gyfer y cyfle i gyfoethogi profiadau myfyrwyr dros y tymor diwethaf.
Yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith