Arweinir y project gan Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth a Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor a Hannah Eccles-Westbury, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Dr Lowri Hughes, Canolfan Bedwyr a Chyngor Gwynedd.
Gofynnir i bobl sy'n byw yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys M么n ar hyn o bryd gwblhau arolwg byr i helpu gyda'r ymchwil - waeth a ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio, a waeth pa mor hir y maent wedi byw yma.
Nid yw'n gyfrinach fod y Gymraeg yn iaith dan fygythiad. Er gwaethaf cynnydd yn y boblogaeth o 2.6 miliwn i 3.1 miliwn, mae niferoedd y siaradwyr wedi haneru fwy neu lai yn y cyfnod hwn, gan ostwng i鈥檞 niferoedd isaf ym 1981. Mae ymdrechion i warchod ac adfywio鈥檙 iaith wedi gweld llwyddiant amrywiol 鈥� mae tua ~250,000 o siaradwyr ychwanegol erbyn hyn o鈥檌 gymharu 芒 chyfrifiad 1981, ac eto bu canran poblogaeth gyffredinol y siaradwyr yn gostwng yn gyson.
Dywedodd Hannah Eccles-Westbury,
鈥淢ae hyn yn golygu, er gwaethaf agweddau diwylliannol ac ieithyddol cadarnhaol cyffredinol yng Nghymru, y gall yr iaith fod yn wynebu dyfodol ansicr. Tra bod ymdrechion hyd yma wedi arafu ei dirywiad, nid ydynt wedi bod yn gwbl lwyddiannus yn eu hamcanion 鈥� mae angen mwy, ac mae angen inni ddeall yn well pa ran sydd gan yr iaith ym mywydau pobl mewn gwirionedd.
I rai pobl, gall y Gymraeg gael ei chyfyngu i beuoedd arbennig 鈥� efallai teulu a ffrindiau, efallai addysg. I eraill, mae鈥檙 Gymraeg yn rhan ganolog o鈥檜 hunaniaeth ac yn perthyn yn agos i dreftadaeth ac ymlyniad lle. Ond i eraill, efallai y teimlir bod diwylliant dwyieithog yn her.鈥�
Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio y bydd y project yn eu helpu nhw ac eraill i hybu ac annog mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd yng Ngwynedd, yn enwedig wrth ddefnyddio gwasanaethau'r Cyngor gan gynnwys cyswllt wyneb yn wyneb, galwadau ff么n a gwasanaethau ar-lein.
Dywedodd Llywela Owain o Uned Iaith a Chraffu Cyngor Gwynedd,
鈥淢ae鈥檙 arolwg hwn yn un pwysig gan y bydd yn rhoi data i ni am ddefnydd iaith mewn amrywiol gyd-destunau gan gynnwys y gwasanaethau cyhoeddus y mae Cyngor Gwynedd yn eu darparu. Bydd hefyd gobeithio yn rhoi syniad i ni o ba fath o bethau sydd angen i ni fel Cyngor ystyried eu gwneud yn y dyfodol er mwyn gweld mwy o鈥檔 trigolion yn defnyddio鈥檙 Gymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.鈥�
Ychwanegodd Thora Tenbrink,
鈥淏ydd ein harolwg yn archwilio nid yn unig statws yr iaith ac agweddau pobl yn gyffredinol, ond yn fwy penodol r么l y Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau, a pha strategaethau y mae pobl yn teimlo fyddai鈥檔 eu helpu. Anogir cyfranogwyr sy鈥檔 byw yn Ynys M么n, Gwynedd a Chonwy (boed yn barhaol neu dros dro), ac o bob cefndir ieithyddol (gan gynnwys y di-Gymraeg) i鈥檞 gwblhau.鈥�
Arolwg iaith newydd i ofyn sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yng Ngwynedd, Ynys M么n a Chonwy
Mae Prifysgol Bangor yn ymchwilio i agweddau pobl tuag at y Gymraeg, ei defnydd mewn amrywiol gyd-destunau a sut y gellir hybu ei defnydd ymhellach yng ngogledd orllewin Cymru.