Cydweithio gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol
Mae astudio'r rhaglen BA Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig llwybr unigryw i fyfyrwyr. Wedi ei ddylunio ar y cyd gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru mae'r rhaglen yn cynnig nodweddion unigryw a darparu profiad ardderchog i rheini sy'n edrych i ddatblygu fel athrawon Addysg Grefyddol.
Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru wedi bodoli mewn diwyg amrywiol ers 1979, pan y鈥檌 sefydlwyd gyntaf gan Rheinallt Thomas. Gyda threigl y blynyddoedd, mae鈥檙 Ganolfan wedi esblygu wrth i gymdeithas newid a gwahanol agweddau eu hamlygu eu hunain. Bellach, mae dau ddarlithydd o Brifysgol Bangor wedi eu penodi鈥檔 gyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan, sef Dr Joshua Andrews (darlithydd Moeseg a Chrefydd) a Dr Gareth Evans-Jones (darlithydd Athroniaeth a Chrefydd).
Meddai Dr Gareth Evans-Jones: 鈥楳ae鈥檙 Ganolfan wedi鈥檌 sylfaenu ar barchu鈥檙 fath amrywiaeth sy鈥檔 nodweddu ein cymdeithas. Mae newidiadau sylweddol wedi bod yn y nifer o bobl sy鈥檔 arddel gwahanol grefyddau, a gwelwyd bob math o ddatblygiadau hefyd mewn moeseg gymdeithasol, athroniaeth, a gwerthoedd. Am hynny, rydan ni鈥檔 awyddus i hyrwyddo鈥檙 fath agwedd sy鈥檔 cydnabod yr amrywiaeth helaeth yma, sy鈥檔 ei pharchu, ac sy鈥檔 annog pobl i ofalu bod gwerthfawrogiad a goddefgarwch yn nodweddu eu hymwneud ag eraill yn ein cymdeithas. Mae rhai sy鈥檔 dilyn crefydd, mae rhai sydd ddim. Mae gan rai safbwyntiau penodol, ac eraill rai gwahanol. Ond rydan ni gyd yn bobl yn byw yn yr un gymdeithas, a dyna sy鈥檔 werth ei gofio.鈥�
Byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau 芒 chyrff eraill, yn lleol, yn genedlaethol, a thu hwnt, gan gynnwys cymunedau ffydd a mudiadau ieuenctid, grwpiau CYSAG, ac RE Hubs UK, i wella'r ddarpariaeth a datblygu dealltwriaeth o wahanol draddodiadau crefydd, gwerthoedd, moeseg ac athroniaeth. Craidd y cwrs yw astudiaethau o chwe chrefydd ar draws y byd. Mae'r modiwlau wedi ei ddatblygu i gyd-fynd 芒鈥檙 cwricwlwm Addysg Grefyddol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Caiff ein myfyrwyr cyfle i edrych yn fanwl ar y grefydd yma a bydd y cwrs yn rhoi hyder iddyn nhw fynd ymlaen i allu dysgu crefydd o addysg gynradd hyd at lefel A.
Mae dewis astudio鈥檙 rhaglen BA Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor yn fuddsoddiad mewn taith addysgol unigryw. Mae ein llwybr arloesol, a luniwyd gan gydweithrediad ag awdurdod blaenllaw mewn addysg grefyddol, yn gosod y llwyfan i ddarpar athrawon nid yn unig ragori yn academaidd ond hefyd ffynnu fel addysgwyr sy鈥檔 cael effaith ym mywydau eu myfyrwyr. Ymunwch 芒 ni ym Mhrifysgol Bangor a byddwch yn rhan o raglen sy鈥檔 mynd y tu hwnt gan eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus a llwyddiannus mewn Addysg Grefyddol.