Tystysgrif 脭l-radd Addysgu Mewn Addysg Uwch
Ewch ati i ennill cymhwyster addysgu a datblygu eich hun i fod yn ymarferydd adfyfyriol drwy gwblhau鈥檙 Dystysgrif 脭l-radd Addysgu mewn Addysg Uwch (PgCert THE), sydd wedi'i achredu gan yr Academi Addysg Uwch. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer:
- Aelodau staff ar gontractau dysgu academaidd ym Mhrifysgol Bangor sydd 芒 llai na dwy flynedd o brofiad addysgu di-dor mewn addysg uwch neu nad ydynt eisoes yn Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch.
- Cynorthwywyr ymchwil a myfyrwyr 么l-radd sydd 芒 chyfrifoldeb sylweddol am addysgu neu gefnogi dysgu.
- Aelodau staff sydd 芒 dros ddwy flynedd o brofiad addysgu
- Addysg Uwch ac sydd angen cefnogaeth ychwanegol
Cynnwys y Cwrs
Mae鈥檙 Dystysgrif 脭l-radd Addysgu mewn Addysg Uwch yn cynnwys dau fodiwl lefel 7, sydd werth 30 credyd yr un.
Mae Cam 1 yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol addysgu mewn Addysg Uwch i'ch helpu i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol, a bydd ei gwblhau鈥檔 arwain at statws Cymrawd Cysylltiol yr AAU (gweler isod). Mae Cam 1 yn cynnwys mynychu gweithdai datblygu rheolaidd sy'n cael eu mapio i weithgareddau academaidd. Asesir y cam hwn drwy ddatblygu portffolio dros y flwyddyn sy'n dangos ymarfer proffesiynol arloesol ac adfyfyriol sydd wedi'i ategu gan gysyniadau damcaniaethol. Bydd yn rhaid i'r portffolio ddangos tystiolaeth o 100 awr o leiaf o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysgu mewn Addysg Uwch neu gefnogi dysgu ar fodiwlau mewn Addysg Uwch sy'n amodol ar weithdrefnau Sicrhau Ansawdd Prifysgol Bangor, gan gynnwys 25 awr o gyswllt gyda myfyrwyr. Byddwch yn adeiladu ac yn cyflwyno portffolio manwl sy'n disgrifio cyd-destun eich addysgu, newidiadau i鈥檆h addysgu y bu i chi eu rhoi ar waith yn dilyn ymgysylltu 芒 theori dysgu, a gwerthusiad o'r broses. Bydd angen i chi ymgysylltu ag o leiaf dau Faes Gweithgarwch o fewn Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig yn ystod y cam hwn.
Mae Cam 2 yn canolbwyntio ar ymchwil pedagogaidd i archwilio arloesiadau newydd a datblygu eich ymarfer addysgu ymhellach, a bydd ei gwblhau鈥檔 arwain at statws Cymrawd yr AAU (gweler isod). Mae Cam 2 yn gofyn am 60 awr yn rhagor o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysgu a dangos tystiolaeth o ymgysylltu 芒 phob un o'r pum Maes Gweithgarwch o fewn Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig. Bydd y cam hwn yn cynnwys ysgolheictod annibynnol a bydd yn cael ei asesu drwy bapur academaidd, project addysgu 6,000 o eiriau sy鈥檔 seiliedig ar weithredu neu asesiad wedi'i negodi.
Trosolwg o Gymrodoriaeth yr AAU
Mae ennill Cymrodoriaeth yr AAU yn dangos eich bod yn gymwysedig i addysgu mewn Addysg Uwch a'ch ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol. Mae hon yn wobr addysgu uchel ei pharch a gydnabyddir yn genedlaethol, ac mae Prifysgol Bangor wedi'i hachredu gan Advance HE i ddyfarnu Cymrodoriaethau鈥檙 AAU i aelodau staff a myfyrwyr PhD. Mae pedwar categori o Gymrodoriaeth yr AAU i gyd-fynd 芒鈥檆h profiad, ac mae cwblhau'r Dystysgrif 脭l-radd Addysgu mewn Addysg Uwch yn arwain at statws Cymrawd Cyswllt neu Gymrawd. Os ydych yn academydd mwy profiadol, gallwch gyrraedd lefelau uwch trwy Gynllun Cydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus yr AAU.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
I ddangos ymgysylltiad a datblygiad proffesiynol parhaus, mae gofyn i chi fynychu o leiaf ddau weithdy dysgu ac addysgu ehangach yn ystod Cam 1, a phedwar gweithdy yn ystod Cam 2, ac adfyfyrio yn eu cylch. Mae CELT yn cynnal gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus perthnasol, ond gallwch hefyd ddewis mynd i ddigwyddiadau eraill ym Mhrifysgol Bangor, digwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill sy'n canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu, neu ddigwyddiadau a drefnir gan Advance HE. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 gwerthusiad o bob digwyddiad ddangos sut y mae wedi dylanwadu ar eich ymarfer.
Amserlen
Gall Cam 1 gymryd hyd at flwyddyn i鈥檞 gwblhau. Os ydych chi鈥檔 aelod staff academaidd llawn amser sydd 芒 chontract addysgu, mae鈥檔 ofynnol i chi gwblhau鈥檙 ddau gam o fewn tair blynedd. Os nad yw鈥檙 dyfarniad yn ofyniad contractol, gallwch adael ar 么l Cam 1 a dychwelyd yn ddiweddarach 鈥� mae dychwelyd o fewn dwy flynedd fel arfer yn amserlen dderbyniol.
Cofrestru
- Staff: cwblhewch y (cliciwch ar y ddolen o dan 'Staff PB') a phan ofynnir i chi uwchlwytho dogfennau i gefnogi鈥檆h cais, dim ond dogfen wag sydd angen i chi ei huwchlwytho gan nad oes arnom angen tystiolaeth o gymwysterau staff.
- Myfyrwyr 么l-radd: cwblhewch y - (bydd fersiwn Gymraeg o'r ffurflen ar gael yn fuan). Er mwyn i Gam 1 gael ei ystyried ar gyfer y cwrs, mae鈥檔 rhaid i fyfyrwyr 么l-radd hefyd ddarparu llythyr gan eu Pennaeth Ysgol yn cadarnhau eu bod wedi cwblhau o leiaf 100 awr o weithgareddau sy鈥檔 ymwneud ag addysgu ar fodiwlau sydd wedi bod drwy鈥檙 broses sicrhau ansawdd.