Mae鈥檙 dudalen hon yn esbonio sut i gysylltu 芒 Phrifysgol Bangor am gyngor Clirio. Gall ymgeiswyr siarad yn uniongyrchol 芒 staff am y cyrsiau sydd ar gael, sut i wneud cais, a鈥檙 camau nesaf yn ystod Clirio. Felly, os ydych yn chwilio am gwrs drwy Clirio, neu os oes gennych gwestiwn am eich lle ym Mangor, ffoniwch y Llinell Gymorth Clirio.
Oriau Agor y Llinell Gymorth Clirio
Mae ein Llinell Gymorth Clirio bellach wedi cau. Bydd oriau agor y Llinell Gymorth ar y dudalen hon yn nes at y cyfnod Clirio ym mis Gorffennaf/Awst 2027.
Sut gall y Llinell Gymorth Clirio helpu?
- Gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer Clirio
- Dod o hyd i gyrsiau sydd 芒 lleoedd ar gael drwy Clirio
- Gwneud cynnig Clirio
- Trafod eich camau nesaf ar 么l derbyn cynnig drwy Clirio
- Rhoi cyngor ar sut y gallwch ymweld 芒鈥檙 Brifysgol
- Rhoi cyngor ar pryd a sut i wneud cais am lety prifysgol
Cwestiynau Cyffredin Llinell Gymorth Clirio
Mae鈥檙 Llinell Gymorth Clirio ar gyfer ymgeiswyr:
- Nad ydynt ar hyn o bryd yn dal cynnig prifysgol (e.e. heb wneud cais o gwbl i unhyw brifysgol neu heb fodloni gofynion eu Dewis Cadarn neu Ddewis Wrth Gefn).
- Sydd wedi newid eu meddwl am eu cynnig gwreiddiol gan brifysgol arall ac sy鈥檔 dymuno gwybod mwy am y cyrsiau Clirio ym Mangor.
- A wnaeth gais i Fangor yn wreiddiol ac sydd eisiau cadarnhad o鈥檜 lle.
Pan fyddwch yn ffonio, byddwch yn siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff Prifysgol Bangor a all drafod eich opsiynau Clirio ac, yn dibynnu ar eich cymwysterau, fydd yn gallu rhoi cynnig Clirio i chi astudio ym Mhrifysgol Bangor. Os dymunwch, gall staff eich rhoi mewn cysylltiad 芒鈥檙 aelod o staff academaidd perthnasol a all ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs cyn i chi benderfynu derbyn y cynnig.
Nac oes. I drafod eich opsiynau Clirio, gallwch lenw ein Ffurflen Clirio neu, yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A, gallwch anfon neges dros Sgwrs Fyw neu WhatsApp.
Gallant. Gall ymgeiswyr sy鈥檔 ffonio o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU gysylltu 芒鈥檙 t卯m Derbyniadau ar +44 (0)1248 388320 am gyngor Clirio.
Mae鈥檙 wybodaeth ar y dudalen hon wedi鈥檌 diweddaru ar gyfer Clirio 2026.