Cysylltu drwy Iaith: Academydd o Prifysgol Bangor yn Ysbrydoli Myfyrwyr yn Beijing!
Cymerodd 30 o fyfyrwyr ran yn y cwrs Caffael Iaith Gydol Oes ym Mhrifysgol Gwyddor Gwleidyddol a鈥檙 Gyfraith Tsieina rhwng 20 a 29 Gorffennaf 2026. Cynlluniwyd a chyflwynwyd y cwrs gan Dr Eirini Sanoudaki o Brifysgol Bangor am yr ail flwyddyn yn olynol, fel rhan o鈥檙 cydweithrediad academaidd parhaus rhwng y ddwy brifysgol.
Cyflwynodd y cwrs y myfyrwyr i feysydd allweddol ym maes ieithyddiaeth, gan gynnwys datblygiad seiniau lleferydd a gramadeg, manteision dwyieithrwydd, dysgu iaith yn ystod plentyndod ac oedolaeth, ac iaith ymhlith unigolion 芒 chyflyrau datblygiadol a chaffaeledig.
Bu鈥檙 myfyrwyr hefyd yn archwilio鈥檙 ymchwil ddiweddaraf gan Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol Bangor, yn rhannu eu profiadau ieithyddol a diwylliannol eu hunain, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol. Creodd trafodaethau agored a chyfnewid syniadau amgylchedd dysgu croesawgar lle鈥檙 oedd y myfyrwyr yn teimlo鈥檔 gyfforddus yn gofyn cwestiynau ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd.
Dywedodd un myfyriwr:
鈥淢ae ein dosbarth yn llawn trafodaethau a chyfnewid barn... mae hynny鈥檔 wych! Nid wyf erioed wedi gwneud hyn mewn dosbarth o鈥檙 blaen.鈥
Tynnodd myfyriwr arall sylw at ddimensiwn diwylliannol y cwrs:
鈥淢ae鈥檙 trafodaethau yn y dosbarth yn fy ngalluogi i ddeall yn well a dod i gysylltiad ag amrywiaeth ehangach o ddiwylliannau. Rwy鈥檔 mwynhau eich dosbarth yn fawr iawn!鈥
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Dr Sanoudaki, Darllenydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd) yn Ysgol y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau.:
鈥淩oedd meithrin cysylltiadau gwirioneddol 芒鈥檙 myfyrwyr a鈥檜 gweld yn mwynhau鈥檙 dosbarthiadau ac yn elwa arnynt yn brofiad gwerth chweil. Dysgais lawer hefyd gan y myfyrwyr am ddiwylliant ac ieithoedd Tsieina, a mwynheais hynny鈥檔 fawr. Roedd yn bleser meithrin cysylltiadau newydd ac ailgysylltu ag wynebau cyfarwydd, gan gynnwys myfyrwyr o ymweliad y llynedd a chydweithwyr o Swyddfa Tsieina Prifysgol Bangor. Mae mentrau fel hyn yn helpu i gryfhau ein partneriaethau rhyngwladol, ac rwy鈥檔 ddiolchgar i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor am drefnu鈥檙 cyfnewidiadau gwerthfawr hyn.鈥
Wrth s么n am y cwrs, dywedodd Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor:
鈥淩ydym wrth ein bodd bod Dr Sanoudaki wedi dychwelyd i Brifysgol Gwyddor Gwleidyddol a鈥檙 Gyfraith Tsieina am yr ail flwyddyn. Mae ei chwrs yn enghraifft wych o鈥檙 cydweithrediad academaidd ehangach rhwng ein dwy brifysgol ac mae鈥檔 adlewyrchu llwyddiant parhaus ein partneriaeth. Drwy fentrau fel hyn, rydym yn parhau i ymrwymo i greu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer cyfnewid academaidd a diwylliannol.鈥
Hwyluswyd y cwrs gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor fel rhan o鈥檌 waith i gryfhau鈥檙 bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddol a鈥檙 Gyfraith Tsieina.