Myfyrwyr yn Archwilio Diwylliant Tsieina yn Serendipity!
Cafodd myfyrwyr newydd gyfle i archwilio iaith a diwylliant Tsieina gyda Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn nigwyddiad Serendipity, gan gwrdd 芒鈥檔 tiwtoriaid a dysgu am yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Mae鈥檙 Sefydliad yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol sy鈥檔 rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu, bod yn greadigol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Yn Serendipity, cafodd myfyrwyr flas ar y gweithgareddau hyn drwy roi cynnig ar galigraffeg Tsieineaidd. Buont yn defnyddio brwsh i ymarfer llunio cymeriadau Tsieineaidd ac yn darganfod celfyddyd sy鈥檔 cyfuno iaith a chreadigrwydd. I lawer, dyma oedd eu profiad cyntaf o galigraffeg.
Roedd ein tiwtoriaid wrth eu bodd yn cwrdd 芒 chymaint o fyfyrwyr newydd ac yn clywed am yr ieithoedd maent yn eu siarad, y pynciau maent yn eu hastudio a鈥檙 hyn yr hoffent ei archwilio yn ystod eu cyfnod ym Mangor. Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i holi am ddysgu Mandarin ac am gymryd rhan yng ngweithgareddau鈥檙 Sefydliad yn y dyfodol.
Roedd Serendipity yn ddechrau bywiog i鈥檙 flwyddyn academaidd. Diolch i bawb a ddaeth i鈥檔 gweld ac a gymerodd ran. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ragor o weithgareddau Sefydliad Confucius drwy gydol y flwyddyn.