Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r gweithdy deuddydd hwn ar gyfer athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sy'n dymuno dysgu mwy am grwpiau a sut i gefnogi manteision mawr gwaith gr诺p yng nghyd-destun ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r model hyfforddi yn seiliedig ar Fodel Gr诺p Addysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar Tu Chwith Allan (IOG) (Bartley & Griffith, 2022)
Mae llawer ohonom ni wedi dod i'r gwaith hwn gyda chefndir mewn gwaith un-i-un. Bydd gan y sgiliau rydym ni wedi'u caffael lawer o fanteision uniongyrchol i'r ffordd rydym ni鈥檔 dysgu ymwybyddiaeth ofalgar. Fodd bynnag, efallai y cawn ein bod yn parhau i ddysgu mewn dull un-i-un, er mewn gr诺p.
Byddwn yn archwilio sut i ddod 芒鈥檙 dimensiwn gr诺p hwn i bob agwedd ar ein gwaith o ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar 鈥 gan gynnwys y broses gyfeirio ac asesu; arwain arferion; arwain ymholiadau; a hwyluso ymarferion a thrafodaethau gr诺p. Wrth wneud hyn, byddwn yn dysgu sut i fod yn ymwybodol o鈥檙 tri dimensiwn yn y gr诺p: dimensiwn fi fy hun fel athro neu athrawes; dimensiwn y cyfranogwr unigol; a dimensiwn y gr诺p cyfan.
Byddwn yn archwilio gwahanol gamau'r gr诺p 鈥 sef ffurfio, cynnal, a dod 芒'r gr诺p i ben 鈥 a sut orau allwn ni fel arweinwyr gr诺p gefnogi arferion dysgu ein cyfranogwyr yn y cyd-destun gr诺p hwn.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sydd 芒 phrofiad blaenorol o ddysgu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBIs) mewn lleoliadau gr诺p. Fe'i bwriedir ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau cwrs MBSR neu MBCT wyth wythnos, sydd 芒 phractis ymwybyddiaeth ofalgar personol, ac sydd wedi ymgymryd 芒 hyfforddiant athrawon sylfaenol, megis hyfforddiant Hanfodion y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar neu'r hyn sy'n cyfateb iddo.
Dylai cyfranogwyr fod 芒 rhywfaint o brofiad o gyflwyno ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ar ddull gr诺p a bod 芒 diddordeb gweithio'n fwy medrus gyda grwpiau. Mae'r cwrs yn arbennig o addas i'r rhai sy'n ceisio gwella eu sgiliau hwyluso gan ddefnyddio'r Inside Out Group Model (Bartley & Griffith, 2022), sy'n waith ddarllen paratoadol a argymhellir.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
- dysgu sut i hwyluso鈥檆h grwpiau fel eu bod yn ddiogel ac yn gynhwysol
- meithrin presenoldeb addysgu corfforedig a hyddysg
- archwilio ffyrdd o arwain, cynnal ac ymwneud 芒'r broses o addysgu grwpiau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar fel y gall y rhai sydd ar ein cwrs wireddu'r potensial dysgu sylweddol sydd gan waith gr诺p i鈥檞 gynnig.
- canfod ffyrdd o ddatrys rhai o'r heriau cyffredin wrth arwain grwpiau, gan gynnwys rheoli: cyfranogwr sy'n tra-arglwyddiaethu; rhywun sy'n cyrraedd yn hwyr yn gyson; rhywun sy'n agored amheus; a/neu gyfranogwr sy'n dweud ychydig iawn
- ystyried y gwahanol ddulliau sy'n gysylltiedig 芒 dysgu grwpiau gwahanol iawn eu maint.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs deuddydd hwn ei gyflwyno ar-lein ar 7-8 Ebrill 2027, rhwng 9.30am a 5.30pm.
Tiwtor
Dr Sophie Sansom
Sophie yw cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Fel uwch ddarlithydd, mae Sophie yn addysgu ar y rhaglen meistr ac mae'n frwd dros fentrau cymdeithasol ac amgylcheddol ar 么l cyd-ddatblygu'r rhaglen Inner Change Works (ICW) yn ddiweddar. Fel sylfaenydd SiTT (Support for Integrity in Teaching and Training) mae Sophie wedi sefydlu fframweithiau ar gyfer datblygu cymunedol a safonau proffesiynol yn y maes. Ar 么l cydweithredu i ddatblygu dull arloesol o gael cydnabyddiaeth i鈥檙 cwricwla MBP newydd, Sophie sydd bellach yn cadeirio panel cydnabyddiaeth rhyngwladol yr European Association of Mindfulness-based Approaches (EAMBA). Gan ei bod yn arwain o ran ysgolheictod ac yn datblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mae gwaith academaidd Sophie yn archwilio ffyrdd o gefnogi arloesedd a hygyrchedd addysgeg gan gynnal ansawdd ac uniondeb; mae hyn yn rhan allweddol o鈥檌 gwaith fel cadeirydd y British Association of Mindfulness-based Approaches (BAMBA).
Cost y Cwrs
Y ffi ar gyfer Ebrill 2027 fydd 拢377.00 (yn cynnwys TAW).
Gofynion Mynediad
- profiad personol o gwrs wyth wythnos MBCT neu MBSR
- yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn bersonol ers tro byd
- wedi dilyn hyfforddiant Essentials y Mindfulness Network neu hyfforddiant cyfatebol
- bod 芒 rhywfaint o brofiad o ddysgu Ymyriadau/Cyrsiau ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn grwpiau.
Darllen a argymhellir - Bartley, T. & Griffith, G. (2022). Teaching Mindfulness-Based Groups: The Inside Out Group Model. Pavilion Publications
Gwneud Cais
I gofrestru ar gyfer y cwrs, cliciwch ar y ddolen isod: