Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae Llais Plant yn ganolog i Gwricwlwm Cymru ac i Hawliau Plant. Yn y diwrnod hwn o ddysgu proffesiynol, rydym yn archwilio beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i ymgorffori llais plant yn ein gwaith mewn ysgolion. Yn ystod y sesiynau ar-lein, byddwn yn trafod y cysylltiadau rhwng llais plant, dysgu a lles, ac yn archwilio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ymgorffori llais plant yng nghyd-greu'r cwricwlwm. Byddwn yn cyflwyno dull o gefnogi plant i arwain a chynnal eu hymchwil eu hunain yn eu cymuned i gefnogi asiantaeth ac ymgysylltiad plant mewn addysg.
I bwy mae'r cwrs yn addas?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer athrawon, cynorthwywyr addysgu, arweinwyr ysgolion, llywodraethwyr a staff cymorth ysgolion.
Pam astudio鈥檙 cwrs hwn
Bydd y cwrs hwn yn trafod sut i addasu egwyddor llais plant i ymarfer effeithiol. Bydd yn datblygu eich dealltwriaeth o beth mae llais plant yn ei olygu mewn gwirionedd yn ymarferol, gan symud y tu hwnt i ymgynghori er mwyn creu partneriaeth wirioneddol. Pan fydd plant yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, mae eu cymhelliant, eu lles a'u perthnasoedd yn cael eu cryfhau. Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r heriau o fewnosod llais plant mewn ymarfer a sut i gydbwyso cyfrifoldeb proffesiynol ag asiantaeth disgyblion. Byddwch yn gadael gyda dull ar gyfer cyd-greu'r cwricwlwm a fydd yn cefnogi plant i deimlo'n gysylltiedig 芒'u hysgol a chryfhau eu 'cynefin' - eu hymdeimlad o berthyn i'w hysgol, eu diwylliant a'u cymuned leol.
Hyd y cwrs
Cynhelir y dysgu proffesiynol ar-lein hwn mewn tair sesiwn ar y dyddiadau canlynol:
Sesiwn 1: 4ydd Mehefin 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 2: 11eg Mehefin 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 3: 18fed Mehefin 2026: 4pm-6pm
Tiwtor:
Arwyn Roberts
Arwyn Roberts yw Cyfarwyddwr y Cwrs ar gyfer Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn Ysgol Addysg Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor. Mae ganddo brofiad helaeth mewn ymchwil gyfranogol gyda phlant a phobl ifanc 7-25 oed. Mae Arwyn yn angerddol am greu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, gyda ffocws penodol ar lais disgyblion a hawliau plant.
Cyd-greodd Arwyn Plant fel Ymchwilwyr (Funky Dragon, 2009), gan gefnogi pobl ifanc i arwain eu hymchwil eu hunain a dylanwadu ar newid. Mae ei daith broffesiynol yn cynnwys saith mlynedd gyda Funky Dragon (Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru) a gwaith gydag Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant. Mae Arwyn hefyd yn arwain Uwchgynadleddau Ieuenctid Bangor sydd yn rhoi lle i blant a phobl ifanc leisio eu barn ar y gwaith a wneir gan academyddion ar y materion sy'n effeithio arnynt.
Cost y Cwrs
拢60 y pen
Gwneud Cais
Cofrestrwch eich diddordeb isod a byddwn mewn cysylltiad 芒 chi gyda fw o wybodaeth