Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 modiwl / dyfarniad Addysgu Ymarfer wedi鈥檌 gynllunio i baratoi gweithwyr cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cynnig lleoliad dan asesiad i fyfyriwr gwaith cymdeithasol. Gall hyn fod o fewn rhaglenni cymhwyso proffesiynol ar lefel israddedig neu 么l-raddedig/meistr. Comisiynir y modiwl drwy bartneriaeth chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys M么n). Cydlynir y modiwl gan Brifysgol Bangor, gyda phartneriaeth addysgu ychwanegol gan Brifysgol Wrecsam.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn benodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru sydd ag o leiaf 3 mlynedd o brofiad ymarfer 么l-gymhwyso. Bydd cyflogwyr yn sicrhau y neilltuir myfyriwr gwaith cymdeithasol i ymgeiswyr ar y modiwl hwn i ddarparu lleoliad. Mae鈥檙 lleoliadau yma yn lleiafswm o 80 diwrnod.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i addysgu ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal 芒 gwybodaeth am gynllunio a rheoli lleoliad cyfan, archwilir cysyniadau dysgu ac addysgu oedolion, ystyrir ffactorau sydd yn creu amgylchedd ffafriol i fyfyrwyr ddysgu, datblygu sgiliau a hyder wrth asesu cymhwysedd, darparu adborth effeithiol ar ymarfer a chofnodion ysgrifenedig, adnabod anghenion a chyfleoedd dysgu pellach ac adnabod pan fo myfyrwyr yn cael trafferth.
Mae鈥檙 modiwl wedi鈥檌 gymeradwyo gan . Wrth gwblhau鈥檙 cwrs yn llwyddiannus, caiff ei ystyried fel cymhwyster asesydd cydnabyddedig o fewn y Fframwaith ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru (2023).
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
- 3 diwrnod llawn, wyneb-yn-wyneb (lleoliad i'w drefnu)
- Sesiynau cefnogaeth ychwanegol ar-lein
Bydd Carfan 1 yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb ar y dyddiadau canlynol:
- 13 Tachwedd 2026
- 10 Rhagfyr 2026
- 21 Ionawr 2027
- 25 Chwefror 2027
Bydd Carfan 2 yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb ar y dyddiadau canlynol:
- 15 Ionawr 2027
- 4 Chwefror 2027
- 18 Chwefror 2027
- 4 Mawrth 2027
Bydd sesiynau galw heibio ar-lein dewisol yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
- 8 Ebrill 2027
- 20 Ebrill 2027
- 13 Mai 2027
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr sy'n ymuno 芒'r modiwl hwn fod yn weithwyr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig.
Rhaid i'r cyflogwr gefnogi'r enwebiad.
Rhaid i gyflogwyr gadarnhau y bydd ymgeiswyr enwebedig yn gallu mynychu'r diwrnodau hyfforddi, sydd yn 3 diwrnod llawn, wyneb-yn-wyneb, yn ogystal 芒 sesiynau cefnogaeth ychwanegol ar-lein.
Bydd cyflogwyr hefyd yn sicrhau y neilltuir myfyriwr gwaith cymdeithasol i ymgeiswyr i ddarparu lleoliad o 80 diwrnod o leiaf ar eich cyfer.
Gwneud Cais
I gael lle ar y cwrs yma mae鈥檔 ofynnol i gyflogwyr (awdurdodau lleol fel arfer) enwebu a chymeradwyo aelodau addas o鈥檙 gweithlu ar gyfer y cwrs. Nid yw鈥檔 bosib i unigolion wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Bangor am le ar y cwrs / modiwl hwn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch 芒 Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr y Cwrs: g.prysor@bangor.ac.uk