Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr dysgu cyfunol lefel 7 mewn Presgripsiynu ar gyfer Fferyllwyr NHS-4259
Bydd y modiwl yn dechrau ar 17 Medi 2026 yn semester 1 o flwyddyn academaidd 2026-2027.
Ategir y modiwl heriol, ond gwerth chweil, hwn gan , a fydd yn eich paratoi i fod yn bresgripsiynydd annibynnol cymwys a hyderus.
Mae鈥檙 modiwl presgripsiynu hwn wedi ei gynllunio鈥檔 benodol i ddiwallu anghenion dysgu fferyllwyr, gyda phwyslais ar sgiliau clinigol megis cymryd hanes meddygol, archwilio a rhesymu diagnostig.
Bydd agweddau ar yr addysgu yn cael eu cyflwyno ar y cyd 芒鈥檙 cwrs Presgripsiynu Annibynnol. Mae natur aml-broffesiynol y modiwl hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i weithwyr proffesiynol profiadol rannu eu gwybodaeth a'u sgiliau a datblygu gwahanol safbwyntiau ar bresgripsiynu. Bydd y dysgu rhyngbroffesiynol yn annog dull cydweithredol o ddysgu a gweithio mewn t卯m. Yn seiliedig ar hyn, bydd disgwyl i chi chwarae rhan weithredol mewn dysgu rhyngbroffesiynol yn ystod y cwrs trwy rannu eich arbenigedd a'ch safbwynt proffesiynol.
Bydd y cwrs yn sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag egwyddorion cyffredinol presgripsiynu sy鈥檔 rhaid i chi eu defnyddio yn eich maes ymarfer clinigol eich hun. Bydd testunau'n cael eu cyflwyno mewn arddull generig a bydd y siaradwyr yn cyfeirio at eu profiad clinigol eu hunain i ddarparu enghreifftiau clinigol, ond gellir cymhwyso'r egwyddorion a drafodir i bob maes ymarfer. Bydd y modiwl yn caniat谩u i chi ymhelaethu ar eich gwybodaeth a'i chymhwyso i egwyddorion presgripsiynu. Bydd hyn yn darparu sylfaen ar gyfer eich datblygiad fel presgripsiynydd annibynnol/atodol sydd newydd gymhwyso.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae鈥檙 modiwl presgripsiynu hwn wedi ei anelu鈥檔 benodol at fferyllwyr cofrestredig sy鈥檔 dymuno bod yn bresgripsiynwyr annibynnol ac sydd wedi nodi sut bydd bod yn bresgripsiynydd annibynnol o fudd i ofal cleifion.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Yn y modiwl heriol, ond gwerth chweil hwn, byddwch yn dysgu鈥檙 sgiliau clinigol sydd eu hangen i gefnogi eich ymarfer presgripsiynu. Bydd yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol fferyllydd presgripsiynu. Bydd y wybodaeth a鈥檙 sgiliau a ddysgir yn y modiwl hwn yn eich grymuso i fabwysiadu dull sy鈥檔 canolbwyntio ar yr unigolyn o bresgripsiynu yn y cwmpas ymarfer a nodwyd gennych.
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion a pharafeddygon, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso dull amlbroffesiynol o ymdrin 芒 phresgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y cwrs ar ddydd Iau ar ein campws ym Mangor rhwng Medi 2026 - Mawrth 2027. Cyflwynir y sesiynau bob wythnos i ddechrau, ac yna bob pythefnos:
- Medi 17, 24 2026
- Hydref 1, 8, 15 2026
- Tachwedd 5, 19, 26 2026
- Rhagfyr 17 2026
- Ionawr 14 2027
- Chwefror 4 2027
- Mawrth 4 2027
Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 90 awr mewn ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth ymarferydd presgripsiynu dynodedig.
Tiwtor
Ffion Simcox
Ffion yw arweinydd y cyrsiau presgripsiynu ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal ag arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch.鈥�&苍产蝉辫;
Mae Ffion hefyd yn ddirprwy gadeirydd o Rhwydwaith Addysgwyr Ymarfer Uwch Cymru (WAPEN).鈥�&苍产蝉辫;
Cymhwysodd Ffion fel nyrs gofrestredig yn 1996 ac fel presgripsiynydd annibynnol yn 2011. Cwblhaodd ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2012 a gweithiodd fel ACP mewn meddygaeth ac铆wt am 6 mlynedd cyn ymuno 芒'r Brifysgol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Yn y modiwl heriol, ond gwerth chweil hwn, byddwch yn dysgu鈥檙 sgiliau clinigol sydd eu hangen i gefnogi eich ymarfer presgripsiynu. Bydd yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol fferyllydd presgripsiynu. Bydd y wybodaeth a鈥檙 sgiliau a ddysgir yn y modiwl hwn yn eich grymuso i fabwysiadu dull sy鈥檔 canolbwyntio ar yr unigolyn o bresgripsiynu yn y cwmpas ymarfer a nodwyd gennych.
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion a pharafeddygon, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso dull amlbroffesiynol o ymdrin 芒 phresgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.
Trefnir y cwrs hwn yn unedau dysgu a fydd yn ymdrin 芒'r meysydd pwnc canlynol:
- sgiliau ymgynghori
- sgiliau archwilio
- rheoli risg
- rhesymu diagnostig
- cadw cofnodion
- stiwardiaeth gwrthficrobaidd a chyfrifoldebau iechyd cyhoeddus y presgripsiynydd
- dibresgripsiynu
- gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gwneud penderfyniadau ar y cyd
- presgripsiynu ar sail tystiolaeth.
- fframweithiau cyfreithiol ac atebolrwydd
- materion moesegol
- llywodraethu presgripsiynu
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o鈥檙 cwrs?
Ar y modiwl hwn, cewch eich dysgu gan bresgripsiynwyr annibynnol a meddygol profiadol o wahanol gefndiroedd proffesiynol. Cefnogir yr addysgu gan glinigwyr arbenigol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol i ymarfer clinigol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu deall ac arddangos y wybodaeth a鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i fod yn bresgripsiynydd annibynnol diogel ac effeithiol, gyda phwyslais ar ofal unigol, fel yr amlinellir yn adroddiad y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, .鈥�&苍产蝉辫;
Ar 么l cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cofnodi eu statws fel presgripsiynydd annibynnol/atodol gyda鈥檙 Cyngor Fferyllol Cyffredinol.鈥�&苍产蝉辫;
Cost y Cwrs
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn darparu cyllid ar gyfer y cwrs hwn i ymgeiswyr sy'n gweithio yng Nghymru.
Os ydych yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cysylltwch 芒'r fferyllydd arweiniol addysg a hyfforddiant i wneud cais am gyllid gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Os nad ydych yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cysylltwch 芒 HEIW.Pharmacy@wales.nhs.uk i wneud cais am gyllid.
Dylech wneud cais am gyllid ac absenoldeb astudio ar yr un pryd 芒'ch cais prifysgol.
Gofynion Mynediad
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni鈥檙 meini prawf canlynol:
- wedi eu cofrestru fel fferyllydd gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu Gymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI).
- ar delerau da gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu Gymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) a heb unrhyw gyfyngiadau ar ymarfer.
- meddu ar brofiad perthnasol mewn fferyllfa yn y Deyrnas Unedig ac yn gallu adnabod, deall a chyfleu鈥檙 sgiliau a鈥檙 priodoleddau sydd eu hangen ar bresgripsiynydd
- ymarfer mewn amgylchedd lle mae angen defnyddio presgripsiynu annibynnol neu bresgripsiynu atodol yn rheolaidd
- wedi nodi maes ymarfer clinigol neu therapiwtig i ddatblygu ymarfer presgripsiynu annibynnol:
- wedi sicrhau ymarferydd presgripsiynu dynodedig 芒 chymwysterau addas sydd wedi cytuno i oruchwylio eu dysgu wrth ymarfer.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Cysylltwch 芒 Helen Charles (hsp23f@bangor.ac.uk) neu Ffion Simcox (f.simcox@bangor.ac.uk) i gael canllaw manwl ar sut i gwblhau'r cais llawn.
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
*Pwysig: Ar 么l i chi gwblhau鈥檙 cais hwn, bydd y tiwtor derbyniadau yn cysylltu 芒 chi i ofyn ichi lenwi ffurflen gais atodol sy鈥檔 benodol i鈥檙 cwrs hwn.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio 脭l-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Presgripsiynu ar gyfer Fferyllwyr : y cod yw NHS-4259. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
(nid oes angen darparu manylion yma) Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥� * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥� i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol