Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Archwiliwch sut mae trosedd a chyfiawnder yn gweithredu ar draws ffiniau. Mae Prifysgol Bangor yn asesu diddordeb mewn cynnig y modiwl 20 credyd hwn ar Lefel 7 fel micro-gymhwyster annibynnol.
Mae鈥檔 ymdrin 芒 throseddau trawswladol, cyfiawnder troseddol cymharol ac ymatebion rhyngwladol i derfysgaeth, troseddu cyfundrefnol, masnachu pobl, e-droseddu, cosbi, fictimeiddio a chyfiawnder rhyngwladol.
Statws presennol
Mae Prifysgol Bangor wrthi鈥檔 asesu鈥檙 galw dros gynnal y cwrs Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang. Ar hyn o bryd, nid yw鈥檙 micro-gymhwyster ar agor ar gyfer ceisiadau nac ymrestru. Nid yw cwblhau鈥檙 ffurflen Cofrestru Eich Diddordeb yn gyfystyr 芒 gwneud cais ac nid yw鈥檔 gwarantu y caiff y cwrs ei gynnig nac y cewch le arno.
Yngl欧n 芒鈥檙 micro-gymhwyster hwn
Mae Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang yn fodiwl 20 credyd ar Lefel 7 y mae Prifysgol Bangor yn ystyried ei gynnig fel micro-gymhwyster annibynnol. Os caiff ei gynnig, bydd yn cael ei gyflwyno鈥檔 rhan-amser yn ystod Semester 2. Mae鈥檔 archwilio gweithgarwch troseddol trawswladol, systemau cyfiawnder troseddol cymharol ac ymatebion rhyngwladol i droseddau.
Ar gyfer pwy mae鈥檙 micro-gymhwyster hwn?
Gallai鈥檙 micro-gymhwyster hwn fod yn addas i ddysgwyr sydd 芒 diddordeb mewn troseddeg, y gyfraith, plismona, seicoleg, cymdeithaseg, cyfiawnder troseddol, cysylltiadau rhyngwladol neu feysydd cysylltiedig.
Gallai hefyd fod yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy鈥檔 gweithio mewn meysydd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 throsedd, cyfiawnder, polisi, diogelu鈥檙 cyhoedd neu faterion rhyngwladol, neu sy鈥檔 dymuno datblygu eu gwybodaeth yn y meysydd hyn. Gallai hyn gynnwys pobl sy鈥檔 gweithio ym maes plismona, cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cyfreithiol, cyfiawnder ieuenctid, diogelwch cymunedol, y gwasanaeth prawf, sefydliadau鈥檙 trydydd sector, swyddi polisi, llywodraeth leol neu genedlaethol, neu wasanaethau cyhoeddus cysylltiedig.
Pam astudio鈥檙 micro-gymhwyster hwn?
Mae鈥檙 modiwl yn rhoi cyfle ichi archwilio trosedd a chyfiawnder mewn cyd-destun byd-eang. Mae鈥檔 ystyried gwahanol fathau o droseddau trawswladol a sut mae asiantaethau, sefydliadau a systemau cyfiawnder troseddol yn ymateb mewn gwahanol wledydd a rhanbarthau.
Byddwch yn myfyrio鈥檔 feirniadol ar ddulliau cymharol o ymdrin 芒 chyfiawnder troseddol, gan gynnwys plismona, llysoedd, cosbi, polisi cosbi, fictimeiddio a chyfiawnder rhyngwladol. Mae鈥檙 modiwl hefyd yn cyflwyno dadleuon allweddol ynghylch terfysgaeth, troseddau鈥檙 wladwriaeth a throseddu cyfundrefnol, ac yn ystyried yr heriau methodolegol sy鈥檔 gysylltiedig ag ymchwilio i drosedd a chyfiawnder byd-eang.
Drwy astudio鈥檙 modiwl, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut mae cyd-destunau cenedlaethol, diwylliannol a rhyngwladol yn llunio trosedd, cyfiawnder a systemau cyfiawnder troseddol.
Sut caiff y micro-gymhwyster hwn ei gyflwyno?
Disgwylir i鈥檙 micro-gymhwyster gael ei gynnal o鈥檙 wythnos sy鈥檔 dechrau 25 Ionawr 2027 hyd at yr wythnos sy鈥檔 dechrau 3 Mai 2027. Caiff yr addysgu ei gyflwyno drwy 12 gweithdy wythnosol dwy awr, gydag wythnos ddarllen yn ystod yr wythnos sy鈥檔 dechrau 1 Mawrth 2027. Bydd dysgwyr hefyd yn ymgymryd ag astudio annibynnol gan ddefnyddio adnoddau a ddarperir drwy Blackboard.
Caiff dyddiadau ac amseroedd penodol y gweithdai eu cadarnhau cyn ymrestru.
Tiwtor
Dr Tim Holmes
Mae Dr Tim Holmes yn Uwch Ddarlithydd ac mae ei waith addysgu鈥檔 canolbwyntio ar ddamcaniaeth droseddegol, troseddau trawswladol, carcharu a chosbi. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys troseddau sy鈥檔 seiliedig ar dwyll, fictimeiddio mewn cymunedau gwledig ac agweddau鈥檙 cyhoedd tuag at adeiladu carchardai.
Cynnwys y Cwrs
Nod y modiwl yw eich galluogi i:
- drafod y materion methodolegol sy鈥檔 gysylltiedig ag ymchwilio i droseddeg drawswladol
- ddangos gwybodaeth fanwl am achosion penodol o droseddau trawswladol ac ymchwil gysylltiedig ym maes troseddeg a chyfiawnder troseddol
- ddatblygu dealltwriaeth o wahanol grwpiau terfysgol a grwpiau troseddu cyfundrefnol; a
- chymhwyso dulliau dadansoddi cymharol wrth astudio troseddau trawswladol
Byddwch yn astudio materion allweddol ym maes trosedd a chyfiawnder byd-eang ac yn ystyried sut mae systemau cyfiawnder troseddol yn amrywio rhwng gwledydd a diwylliannau. Byddwch hefyd yn archwilio sut yr ymchwilir i droseddau byd-eang, sut y c芒nt eu deall a sut yr ymdrinnir 芒 hwy.
Rhan 1: Troseddau byd-eang
- Patrymau byd-eang o weithgarwch troseddol
- Terfysgaeth
- Troseddu cyfundrefnol
- Mewnfudo anghyfreithlon a masnachu pobl
- Masnachu arfau a chyffuriau
- E-droseddu
Rhan 2: Cyfiawnder byd-eang
- Cyfiawnder troseddol cymharol
- Plismona mewn gwahanol gyd-destunau
- Erlyn, llysoedd a chyfiawnder ieuenctid
- Cosbi a pholisi cosbi ledled y byd
- Dioddefwyr, fictimeiddio a chyfiawnder troseddol
- Dibenion cyfiawnder troseddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol
- Terfysgaeth, troseddau鈥檙 wladwriaeth a chyfiawnder troseddol rhyngwladol
- Cyfiawnder adferol a chomisiynau gwirionedd
Mae鈥檙 asesiad yn cynnwys dwy elfen:
- cyflwyniad unigol 10 munud wedi鈥檌 recordio, sy鈥檔 cyfrif am 50% o鈥檙 marc cyffredinol, i鈥檞 gyflwyno erbyn 8 Mawrth 2027; a
- gwaith cwrs sy鈥檔 cymharu un agwedd ar gyfiawnder troseddol mewn dwy wlad, sy鈥檔 cyfrif am 50% o鈥檙 marc cyffredinol, i鈥檞 gyflwyno erbyn 10 Mai 2027.
Rhoddir arweiniad yn ystod y sesiynau addysgu a thrwy Blackboard. Rhaid ichi gytuno ar ffocws eich cyflwyniad gydag arweinydd y modiwl cyn i chi ei baratoi.
Ar 么l cwblhau鈥檙 micro-gymhwyster yn llwyddiannus, gan gynnwys y ddwy elfen asesu, dyfernir 20 credyd i chi ar Lefel 7 gan Brifysgol Bangor. Nid yw鈥檙 credydau hyn gyfwerth 芒 chymhwyster.
Cost y Cwrs
Os bydd y micro-gymhwyster yn cael ei gynnig, y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 fydd 拢1,168.
Ewch i'n tudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig am ragor o wybodaeth.
Tudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig
Gofynion Mynediad
Rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion a gweithwyr proffesiynol profiadol.
Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr un o鈥檙 canlynol:
- gradd anrhydedd israddedig 2:2 neu uwch, neu gymhwyster cyfatebol, mewn troseddeg, plismona, y gyfraith, cyfiawnder troseddol neu bwnc cysylltiedig; neu
- brofiad proffesiynol perthnasol, cymwysterau proffesiynol amgen, neu gyfuniad o鈥檙 ddau, mewn maes sy鈥檔 ymwneud 芒 throseddu, cyfiawnder, plismona, y gyfraith, polisi, diogelu鈥檙 cyhoedd neu faes cysylltiedig.
Caiff ceisiadau sy鈥檔 seiliedig ar brofiad proffesiynol eu hystyried yn unigol, gan ystyried eich profiad ac unrhyw astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol sy鈥檔 dangos eich bod yn barod i astudio ar Lefel 7.
Cyflwynir y cwrs yn Saesneg. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf gyflwyno tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg sy鈥檔 cyfateb i IELTS 6.0, heb unrhyw elfen unigol yn is na 5.5.
Gwneud Cais
Mae Prifysgol Bangor wrthi鈥檔 asesu diddordeb mewn cynnig Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang fel micro-gymhwyster annibynnol 20 credyd ar Lefel 7. Nid yw鈥檙 cwrs wedi鈥檌 gadarnhau ar hyn o bryd ac nid yw ar agor ar gyfer ceisiadau nac ymrestru.
Cwblhewch y ffurflen fer os hoffech gofrestru eich diddordeb. Byddwn yn defnyddio鈥檙 wybodaeth a ddarperir gennych i asesu鈥檙 galw ac i gysylltu 芒 chi os daw rhagor o wybodaeth am argaeledd, ffioedd a threfniadau ymgeisio neu ymrestru ar gael.
Nid yw cwblhau鈥檙 ffurflen yn gyfystyr 芒 gwneud cais ac nid yw鈥檔 gwarantu y caiff y cwrs ei gynnig nac y cewch le arno.