Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Cyflwynir y cwrs meistr rhan-amser tair blynedd hwn yn gyfan gwbl ar-lein. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer pobl sydd eisiau meithrin sgiliau cryf wrth ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar gyda hyder, ac sydd eisiau defnyddio鈥檙 hyn a ddysgir mewn ffyrdd ystyrlon yn eu gwaith.
Mae'r cwrs yn ddefnyddiol ar gyfer sawl maes, gan gynnwys:
- addysg
- gofal iechyd
- llesiant
- gwaith cymunedol
- y gweithle
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau i chi ddysgu dulliau myfyriol mewn ffyrdd sy'n ystyriol o drawma, sy鈥檔 ddiogel, yn gynhwysol, ac yn addas ar gyfer sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Mae'r cwrs yn cyfuno:
- dysgu academaidd
- eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eich hun
- profiad dysgu dan gyfarwyddyd
Byddwch yn meithrin sgiliau mewn:
- arwain grwpiau
- dysgu drwy fyfyrio a thrafod
- cyfathrebu clir
- ymarfer sy'n sensitif i drawma
- dysgu dulliau ymwybyddiaeth ofalgar mewn sefyllfaoedd cymhleth yn y byd go iawn
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn ffordd broffesiynol a chyfrifol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs yn gyfan gwbl ar-lein, felly gallwch astudio o amgylch eich gwaith ac ymrwymiadau eraill.
Byddwch chi'n dysgu drwy:
- sesiynau ar-lein byw
- darlithoedd wedi鈥檜 recordio
- gweithdai
- trafodaethau gr诺p
- sesiynau dysgu ymarferol (dysgu鈥檔 么l)
- tiwtorialau un-i-un
Beth fyddwch yn ei astudio:
Blwyddyn 1:
- Sylfeini Ymarfer
- Hanfodion Addysgu
Blwyddyn 2:
- Addysgu Cymhwysol
Blwyddyn 3:
- Project Addysgu (yn cynnwys encil hyfforddi athrawon ar-lein 8 diwrnod)
Bob blwyddyn, gallwch hefyd ddewis mynychu encil myfyrdod sawl diwrnod o hyd ym Mhrifysgol Bangor, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein 鈥 ffordd wych o ddyfnhau eich ymarfer.
Nid oes arholiadau traddodiadol ar y cwrs hwn gan fod pwyslais y cwrs ar feithrin sgiliau go iawn y gallwch eu defnyddio. Cewch eich asesu drwy gyfuniad o draethodau academaidd ac adfyfyriol, cyflwyniadau, a thrwy ac arddangos eich arferion dysgu ymwybyddiaeth ofalgar.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dulliau Myfyriol Cymhwysol: Ymwybyddiaeth Ofalgar a Thosturi.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Additional costs may also be charged as follows: Enhanced DBS check (approx. 拢65).
Gofynion Mynediad
- Fel arfer mae angen gradd israddedig neu 么l-radd. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd 芒 phrofiad proffesiynol, ymarferol neu brofiad bywyd perthnasol, a ystyrir yn unigol.
- Wedi cwblhau cwrs ymwybyddiaeth ofalgar dan gyfarwyddyd, lle dysgir arferion myfyrdod dros gyfnod o 6-8 wythnos. Derbynnir cyrsiau dwys (e.e., dros gyfnod o sawl diwrnod) hefyd.
- Ymarfer myfyrdod rheolaidd am o leiaf chwe mis cyn dechrau'r rhaglen.
Gofynion TG: rhaid i fyfyrwyr gael cyfrifiadur sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda a mynediad at gysylltiad rhyngrwyd cryf a'r sgiliau TG sydd eu hangen i ddefnyddio'r systemau hyn.
Mae croeso mawr i fyfyrwyr rhyngwladol wneud cais, a gofynnwn am sg么r IELTS o 6.0
Gyrfaoedd
Mae galw cynyddol am arferion myfyriol fel ymwybyddiaeth ofalgar mewn sawl maes.
Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i weithio yn y meysydd canlynol:
- addysg
- gofal iechyd
- y gweithle
- sefydliadau cymunedol
Byddwch yn graddio gyda:
- profiad addysgu gwirioneddol
- hunanymwybyddiaeth gref
- sgiliau ymarferol, y mae galw mawr amdanynt
Yn bwysicaf oll, byddwch yn gadael yn barod i gyflwyno dulliau ymwybyddiaeth ofalgar sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn gallu cyfrannu at y maes llesiant ac ymarfer myfyriol, sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflym.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn sefydliad hyfforddi athrawon cysylltiedig gyda鈥檙 British Association of Mindfulness-Based Approaches (BAMBA). Mae'r cwrs yn dilyn safonau cenedlaethol BAMBA
Gwneud Cais
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Er bod cyrsiau ar agor drwy gydol y flwyddyn i wneud cais, mae dyddiad cau o ddechrau mis Gorffennaf ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi'r un flwyddyn. Er enghraifft, os ydych chi'n ceisio dechrau'r cwrs hwn ym mis Hydref 2027, rhaid i chi wneud cais erbyn dechrau mis Medi 2027.
Ymgeiswyr rhyngwladol: Sylwch fod y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein ac yn rhan-amser ac nad yw'n galluogi myfyrwyr i gael fisa myfyriwr i'r DU. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n gwneud cais drefnu fisa eu hunain i ganiat谩u iddynt fynychu'r encil myfyrdod dewisol yn yr haf.
If we fill the course for a particular year we will then close applications for that year and make that clear on our website.