Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen MA Treftadaeth Fyd-eang yn archwilio ac yn gwerthuso mesurau a mecanweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ceisio rheoli a gwarchod y dreftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth feirniadol o Safleoedd Treftadaeth y Byd - y broses enwebu, rheolaeth, a blaengynllunio: bydd pwyslais penodol ar dwristiaeth gynaliadwy a'r angen i gynnwys cymunedau lleol yn eu treftadaeth. Mae rôl treftadaeth ddiwylliannol yng nghymdeithasau'r gorffennol a chyfoes yn elfen allweddol o'r radd. Byddwch yn cael eich cyflwyno i amryw o faterion sy'n ganolog i ddadleuon cyfredol ynghylch diffiniad, amrywiaeth, a natur ddadleuol treftadaeth yn fyd-eang ac yn genedlaethol.
Mae elfen gref o hyfforddiant yn y rhaglen MA Treftadaeth Fyd-eang er mwyn hybu’r rhagolygon am yrfa. Bydd gweithdai ynghylch hanes cyhoeddus (dulliau ac ymgysylltu â'r gymuned; hanes llafar (technegau a moeseg); ffynonellau treftadaeth ddigidol; ysgrifennu i’r cyfryngau; a rheoli projectau treftadaeth - pob un yn sgil trosglwyddadwy gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth yn y sector treftadaeth. Mae dau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn agos at Brifysgol Bangor - 'Cestyll a Waliau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd' a ‘Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru' sydd newydd ei sefydlu. Maent yn gaffaeliad i'r rhaglen ac yn cynnig cyfleoedd fel astudiaethau achos i’r myfyrwyr.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Craidd a Gorfodol:
Treftadaeth Ddiwylliannol: Safbwyntiau Beirniadol - Mae'r modiwl yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i’r myfyrwyr o ddulliau damcaniaethol o ymdrin â threftadaeth ddiwylliannol a'u defnydd ymarferol. Mae'n cyflwyno’r dadleuon cyfredol ynghylch amrywiaeth a natur ddadleuol treftadaeth, yn ddiriaethol ac yn anniriaethol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae pwyslais ar sut mae treftadaeth yn siapio hunaniaeth ac ar ymdrechion i ddemocrateiddio treftadaeth drwy gynnwys cymunedau lleol a grwpiau ymylol.
Treftadaeth y Byd: Amddiffyn, Rheoli a Chynaliadwyedd - Mae'r modiwl hwn yn edrych ar gysyniad treftadaeth y byd, hanes datblygiad trefniadol ac ymdrechion parhaus i ehangu cylch gorchwyl amddiffyn i gwmpasu’r amrywiaeth sydd o ran treftadaeth y byd. Mae’n gwerthuso’n feirniadol y prosesau a ddefnyddir i arysgrifio safleoedd ar Restr Treftadaeth y Byd. Mae’n tynnu ar astudiaethau achos, mae’n rhoi dealltwriaeth fanwl o’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chynnal a rheoli Safle Treftadaeth y Byd. Rhoddir sylw hefyd i dwristiaeth gynaliadwy trwy archwilio dulliau ymarferol a damcaniaethol, ac mae pwyslais neilltuol ar gefnogi economïau lleol.
Sgiliau Ymchwil - Modiwl sgiliau lefel uwch yw hwn sy'n darparu hyfforddiant ar gychwyn projectau ymchwil; mae’n dysgu myfyrwyr i feirniadu papurau seminar ymchwil; ac mae’n meithrin sgiliau i wella cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae’n cyflwyno myfyrwyr i sgiliau amrywiol sy’n gysylltiedig ag ymchwil a dewisiadau gyrfa, gan gynnwys ysgrifennu i’r cyfryngau a llunwyr polisi, rheoli archifau, datblygu llwybrau treftadaeth, cyfweld at ddibenion hanes llafar, sgiliau Technoleg Gwybodaeth a setiau data, sgiliau addysgu, a hanes cyhoeddus.
Traethawd hir - Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau a’r adnoddau angenrheidiol i fyfyrwyr gynnal ymchwil annibynnol gan arwain at lunio traethawd ymchwil sy’n seiliedig ar bwnc sy’n ymwneud â threftadaeth fyd-eang.
Gallai'r Modiwlau Dewisol gynnwys:
Ailddehongli'r Plasty - Ar y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn archwilio ac yn ystyried themâu a chwestiynau mawr sy’n ymwneud â hanes a dylanwad plastai ac ystadau Cymru, eu perchnogion, a’r cymunedau cysylltiedig. Yn y pen draw, mae'r modiwl yn gyfle i gymhwyso sgiliau ymchwil i arferion treftadaeth yn y byd go iawn, trwy ddylunio a datblygu cynnyrch hynod o ran dehongli treftadaeth sy'n cyfrannu'n weithredol at well gwybodaeth a dealltwriaeth.
Cymru Fyd-eang: Lleoedd, y Lleol a’r Gorffennol 2024-25 - Mae Cymru Fyd-eang yn edrych ar leoedd hollbwysig a siapiodd gysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a rhannau eraill o'r byd. Mae’n canolbwyntio ar fannau o bwys yng Nghymru ac astudiaethau achos o’r tu hwnt i’w ffiniau ac yn rhychwantu’r canoloesol a’r modern. Bob wythnos bydd y myfyrwyr yn archwilio astudiaeth achos o le gwahanol – fel Wcráin, America, Patagonia, India ac, yng Ngogledd Cymru, stadiwm pêl-droed y Cae Ras, Wrecsam. Trafodir y lleoedd hynny yng nghyd-destun themâu megis hunaniaeth, trefedigaethedd, hil, ymfudo, rhyw, treftadaeth a thrawswladoliaeth.
Lleoliad Gwaith yr MA - Mae'r modiwl yn cynnig profiad gwaith ar lefel MA a bydd yn rhoi amrywiol sgiliau a phrofiadau i’r myfyrwyr y gallant eu trosglwyddo i'r gweithle.
Damcaniaeth a Dehongli mewn Archaeoleg - Ar y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn archwilio fframweithiau damcaniaethol allweddol a dadleuon cyfoes ym maes archaeoleg. Bydd y myfyrwyr yn dysgu ymgysylltu â darlleniadau beirniadol, yn datblygu eu safbwyntiau damcaniaethol eu hunain, ac yn gwella eu sgiliau ymchwil trwy drafodaethau cydweithredol.
Cofiwch y gall y modiwlau newid o flwyddyn i flwyddyn, ac mai canllaw yn unig yw’r uchod.
Gofynion Mynediad
O leiaf 2.ii mewn gradd israddedig neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (e.e. Hanes, Treftadaeth, Archeoleg, Astudiaethau Llenyddol, Astudiaethau Canoloesol/Llenyddiaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Gwyddorau Cymdeithasol, Astudiaethau Americanaidd, Y Gyfraith).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau cyfwerth a/neu brofiad perthnasol o’r diwydiant treftadaeth, a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried yn unigol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Gyrfaoedd
Bydd y myfyrwyr a fydd yn graddio â’r radd MA Treftadaeth Fyd-eang yn abl i ddilyn gyrfaoedd mewn twristiaeth, rheoli treftadaeth, curadu, cefnogaeth a gweinyddiaeth gymunedol, ac addysg allgymorth. Yn fras, gall y graddedigion fynd i gyflogaeth eang iawn sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a dealltwriaeth o'r natur ddynol. Ymhlith y swyddi mae dysgu, ymchwilio, rheoli a gweinyddu.