Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae angen brys i gefnogi gallu i gynhyrchu trydan drwy ddatblygu technolegau carbon isel. Mae'r m么r yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Gellid ei ddefnyddio fel math o gynhyrchu trydan carbon isel, ac mae llawer o weithgarwch masnachol yn y sector ynni hwn yn ogystal 芒 gwaith ymchwil a datblygu. Nod y radd MSc hon yw rhoi'r sgiliau i fyfyrwyr sydd eu hangen i nodi a mesur potensial rhanbarthau ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy'r m么r, gyda phwyslais ar adnodd, dadansoddi cyfres amser, modelu rhifiadol, a'r sialensiau a wynebir wrth roi rhesi o ddyfeisiadau cynhyrchu ynni yn amgylchedd y m么r.
Cysylltiadau 芒 Diwydiant
Mae gennym gysylltiadau helaeth 芒 diwydiant ynni adnewyddadwy'r m么r, a bydd llawer o'r projectau ymchwil mewn cydweithrediad 芒 diwydiant. Byddwch hefyd yn dod i gysylltiad 芒'r diwydiant trwy siaradwyr diwydiannol gw芒dd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Caiff dau semester cyntaf y rhaglen eu cyflwyno drwy fodiwlau a addysgir yn y dosbarth - sy鈥檔 cyflwyno myfyrwyr i ffiseg y cefnfor ac i鈥檙 ffyrdd y gellir defnyddio amgylcheddau morol i gynhyrchu trydan. Rhoddir pwyslais ar dod i ddeall technolegau trosi ynni tonnau a llanw, ochr yn ochr 芒 systemau gwynt ar y m么r, a hynny oll yng nghyd-destun ehangach, sef nodweddu adnoddau a lleihau effeithiau amgylcheddol. Mae鈥檙 modiwlau鈥檔 ymdrin 芒 theori eigionegol a鈥檌 chymhwysiad, yn ogystal 芒 modelu rhifiadol ac eigioneg ymarferol. Mae鈥檙 elfen ymarferol yn cynnwys cyflwyniad i offer o鈥檙 radd flaenaf a modelu rhifiadol, ynghyd 芒 phrofiad ymarferol ar long ymchwil 35 metr o hyd y Brifysgol, sef yr RV Prince Madog. Mae鈥檙 cwrs hefyd yn cynnwys modiwl ar arolygu geoffisegol, sy鈥檔 addysgu鈥檙 technegau a ddefnyddir i arolygu safleoedd addas ar gyfer lleoli tyrbinau gwynt ar y m么r, teclynnau ynni tonnau neu ynni鈥檙 llanw. Asesir cyflawniad myfyrwyr ar y cwrs drwy gyfuniad o asesu parhaus ac arholiadau modiwl.
Yn ystod yr ail semester, bydd myfyrwyr yn dechrau canolbwyntio ar agweddau penodol ar y pwnc drwy gynnal adolygiad llenyddiaeth helaeth, ac yna ymgymryd 芒 phrosiect ymchwil unigol. Dewisir y prosiect ymchwil, sy鈥檔 elfen bwysig o鈥檙 cwrs, mewn ymgynghoriad agos 芒鈥檙 myfyriwr er mwyn sicrhau ei fod yn uniongyrchol berthnasol i鈥檙 math o waith y mae鈥檔 bwriadu ei wneud yn y dyfodol.
Mae gan Ysgol Gwyddorau Eigion gysylltiadau helaeth 芒鈥檙 sector ynni adnewyddadwy ar y m么r, a bydd llawer o鈥檙 prosiectau鈥檔 cael eu cynnal mewn cydweithrediad 芒 diwydiant. Anogir myfyrwyr rhyngwladol i ddatblygu prosiectau cadarn sy鈥檔 seiliedig ar ymchwiliadau sy鈥檔 cael eu cynnal mewn sefydliad yn eu mamwlad.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ynni Adnewyddadwy Alltraeth MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, mae gan ymgeiswyr llwyddiannus radd Anrhydedd is-radd dda mewn maes pwnc perthnasol, neu maent yn disgwyl cael gradd o'r fath. Anogir ymgeiswyr o feysydd pwnc eraill, neu sydd 芒 phrofiad o waith cyflogedig perthnasol, i wneud cais, ar yr amod eu bod yn gallu dangos lefelau uchel o gymhelliant a phrofiad yn eu Datganiad Personol a'u CV, a chyda sylfaen addas mewn mathemateg.
IELTS: Gofynnir am 6.0 (heb gynnwys yr un elfen o dan 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd galw mawr am raddedigion ar draws sector ynni adnewyddadwy'r m么r, gan weithio i ddatblygwyr dyfeisiau fel dadansoddwyr adnoddau, mynd i mewn i ymgynghoriaethau eigioneg sy'n gweithio ar astudiaethau yn y fan a'r lle, ac astudiaethau modelu ar gyfer y diwydiant tonnau a llanw, arolygu geoffisegol i'r diwydiant, cyfleoedd i weithio ar isadeiledd grid (Natoinal Grid) a cheblau, cyrff prydlesu fel Yst芒d y Goron, a gweithio i gyrff amgylcheddol a noddir gan y llywodraeth fel Asiantaeth yr Amgylchedd, yn asesu effeithiau amgylcheddol.