Mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn Adeilad Brambell yn arddangos sbesimenau o gasgliadau s诺oleg a daeareg y brifysgol. Mae hyn yn cynnwys sgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, cyrn, entomoleg, molysgiaid, sbesimenau wedi'u cadwoli mewn jariau hylif, ffosiliau a mwynau.
Mae'r casgliadau hyn yn rhan o Gasgliadau Prifysgol Bangor ac wedi cyflawni achrediad Amgueddfeydd, sef y safon i amgueddfeydd. Caiff y casgliad s诺oleg hefyd ei ddefnyddio at ddibenion addysgu ac mae'r casgliad rhyfeddol hwn yn parhau i ysbrydoli'r brifysgol a'r gymuned ehangach.
Mae uchafbwyntiau'n cynnwys cyrn elc 7,500 oed o Iwerddon, sgerbwd cythraul Tasmania, oen gyda dau ben, amrywiaeth o adar o Seland Newydd, a chrwban o鈥檙 Galapagos.
Public Opening Times:
路 11:00am 鈥� 11:45am
路 12:00pm 鈥� 12:45pm
路 2:00pm 鈥� 2:45pm
Rhaid archebu lle ymlaen llaw: Er mwyn gwella profiad yr ymwelwyr a sicrhau bod yr arddangosfeydd yn weladwy, nifer penodol o bobl fydd yn cael bod yn bresennol bob awr. Bydd angen archebu slot ymlaen llaw drwy鈥檙 wefan. Am resymau iechyd a diogelwch, dim ond am yr amser rydych wedi'i archebu y bydd eich tocyn yn ddilys, a bydd pob ymweliad yn gyfyngedig i 45 munud.
Dewch 芒'ch chwilfrydedd a'ch creadigrwydd i ddarganfod bwystfilod bach rhyfeddol byd natur a chael eich ysbrydoli ganddynt!
Ariennir y digwyddiadau hyn drwy gyllid grant gan Lywodraeth Cymru drwy D卯m Amgueddfeydd yr Adran Ddiwylliant, a chan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Diogelu'r Gorffennol. Ysbrydoli'r Dyfodol.
