Darlith Arbennig ar Gastell Sain Ffagan
Ymunwch 芒 Dr. Bethan Scorey am ddarlith arbennig yng Nghastell Sain Ffagan i ddathlu rhyddhau ei llyfr newydd, , sydd wedi'i addasu o'i thraethawd doethurol a gwblhawyd yma yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Bydd dwy sesiwn: un am 11:00鈥�12:30 ac un arall am 13:30鈥�15:00. Bydd y ddarlith, o'r enw 'A Faire Howse Within the Old Walls of a Castle', yn para am oddeutu 50 munud, gyda chyfle i ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaeth wedyn. Bydd cyfle hefyd i brynu copi o'r llyfr, wedi'i lofnodi.
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu tocyn o flaen llaw: defnyddiwch y ddolen a ddarperir.
Wedi'i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, dyma鈥檙 astudiaeth cynhwysfawr cyntaf o'r plasty Gradd I, Elisabethaidd yng nghanol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Yn y ddarlith hon, bydd Bethan yn rhoi trosolwg diddorol o hanes y Castell o'r ddeuddegfed ganrif i'r ugeinfed ganrif, gan drafod hanes pensaern茂ol, hanes gerddi a hanes chymdeithasol. Byddwch yn dysgu am Dr. John Gibbon, y cyfreithiwr bonheddig lleol a adeiladodd y t欧, a sut y gwnaeth sblas fel un o'r tai cymesur cyntaf yng Nghymru. Byddwch yn clywed am y tair cenhedlaeth olynol o fenywod Windsor-Clive a siapiodd y t欧 a'r gerddi yn y cyfnod Fictoraidd. Byddwch yn darganfod unwaith ac am byth pam y gelwir y t欧 hwn yn 'Gastell'.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gastell Sain Ffagan, gyda prosiect ail-doi mawr ar y gweill a fydd yn rhoi gwedd newydd iddo. Mae'r adeilad hwn mor gyfarwydd i gynifer ohonom, ond rydych chi'n sicr o adael y ddarlith hon gyda gwerthfawrogiad hollol newydd ohono.
Hanesydd pensaern茂ol o Gaerdydd ydy Dr. Bethan Scorey. Cwblhaodd ei PhD yma yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor y llynedd, ac mae'n parhau i weithio fel Aelod Cyswllt Ymchwil ac Ymgysylltu. Nawr gallwch ddod o hyd iddi yn cyd-gyflwyno cyfres S4C 鈥楥artrefi Cymru鈥�, sy鈥檔 dod 芒 hanes pensaern茂ol Cymru i gynulleidfaoedd newydd. Bu Bethan yn gweithio fel Gofalwr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am ddegawd, yn dehongli鈥檙 adeiladau hanesyddol i ymwelwyr, o Dai Crwn Oes yr Haearn Bryn Eryr i鈥檙 Prefab o鈥檙 1940au. Dyma sylfaen ei hunaniaeth fel hanesydd pensaern茂ol, ac mae hi wrth ei bodd yn dychwelyd i gyflwyno ei hymchwil diweddaraf.
Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth gyda Sefydliadau Ymchwil Ystadau Cymru a Gwasg Prifysgol Cymru.