Deallusrwydd Artiffisial (AI) i Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PGRs) ym Mangor: Beth y Gallwch (a’r Hyn na Allwch) Ei Ddefnyddio (Sesiwn Orfodol ar Ganllawiau Deallusrwydd Artiffisial)(Sesiwn Wyneb yn Wyneb)
Rhannwch y dudalen hon
Mae offer AI yn dod yn rhan gynyddol gyffredin o ymchwil a gwaith academaidd, ond mae’n bwysig gwybod beth sy’n cael ei ganiatáu. Bydd y sesiwn orfodol hon yn cyflwyno Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PGRs) i’r defnydd cyfrifol a derbyniol o offer AI, gan ymdrin â’r rheolau allweddol, y risgiau, uniondeb academaidd, cyfrinachedd ac arferion da. Byddwch yn gadael gyda dealltwriaeth glir o’r hyn y gallwch ddefnyddio AI ar ei gyfer, yr hyn y dylech ei osgoi, a sut i ddefnyddio’r offer hyn heb beryglu eich ymchwil na’ch cyfrifoldebau fel ymchwilydd.