Diancha: Darganfod Celf Chwisgio Te!
Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd!
Ymunwch â’n Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd i ddarganfod diancha, y grefft draddodiadol o chwisgio te! Archwiliwch draddodiad te sy’n gysylltiedig â llinach Song Tsieina, rhowch gynnig ar chwisgio ewyn te a darganfyddwch batrymau cain chabaixi.
Am ddim ac yn agored i bawb, gyda hyd at 10 lle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin..
Darganfyddwch ffordd wahanol o baratoi a gwerthfawrogi te gyda Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno diancha, traddodiad paratoi te sy’n gysylltiedig â llinach Song Tsieina. Gwyliwch arddangosiad, yna rhowch gynnig ar ddefnyddio chwisg bambŵ i greu haen fân o ewyn te. Byddwch hefyd yn archwilio chabaixi, sef yr arfer o greu patrymau cain ar wyneb yr ewyn.
Gorffennwch drwy flasu te a chael cyfle i fyfyrio ar y creadigrwydd a’r gofal sy’n rhan o’r traddodiad te nodedig hwn.