Mae angen i’r holl fyfyrwyr gofrestru â Meddyg Teulu lleol a dylent wneud hynny cyn gynted ag y bo modd yn ystod eu tymor cyntaf ym Mangor. Cysylltwch â’ch meddyg teulu ar gyfer materion meddygol.
Mae eich clinig iechyd ymroddedig agosaf yn Ysbyty Gwynedd.
Sut i gofrestru gyda meddyg teulu
Rydych yn rhydd i ddewis y feddygfa y dymunwch gofrestru ynddi ac, wrth gwrs, os ydych eisoes yn byw yn lleol, efallai y dewiswch ddal yn gofrestredig â’ch meddyg persennol. Awgrymwn yn gryf eich bod yn cofrestru gyda ni gynted ag y bo modd ar ô lichi gyrraedd.
Dod o hyd i'ch meddygfa teulu agosaf ar
Ymennydd
Mae gwybod symptomau llid yr ymennydd a septisemia yn un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn yn erbyn y clefyd, gan gynnwys:
- tymheredd uchel
- dwylo a thraed oer
- chwydu
- dryswch
- anadlu'n gyflym
- poen yn y cyhyrau a'r cymalau
- croen golau, brith neu flotiog
- brech
- cur pen
- gwddf anystwyth
- atgasedd o oleuadau llachar
- bod yn gysglyd iawn neu'n anodd i ddeffro
- ffitiau (trawiadau)
Gellir trin llid yr ymennydd a septisemia â gwrthfiotigau pwerus, ac mae'r driniaeth hon yn gweithio orau os caiff ei rhoi cyn gynted â phosibl. Dyna pam ei bod ynbwysig gwybod beth i gadw llygad amdano a chael cymorth meddygol yn gyflym. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Llid yr Ymennydd cysylltwch â'ch meddygfa.
Pwy ddylai gael y brechlyn MenACWY
Argymhellir y brechlyn MenACWY i bob plentyn yn ei arddegau. Fel arfer, rhoddir ef i blant pan fyddant yn 13 neu 14 oed (blwyddyn ysgol 9).
Os gwnaethoch chi fethu cael y brechlyn pan oeddech chi yn yr ysgol, gallwch chi ei gael hyd at 25 oed.
Os ydych chi o dan 25 oed ac nad ydych chi wedi cael y brechlyn MenACWY o'r blaen, dylech chi ei gael o leiaf pythefnos cyn dechrau yn y coleg neu'r brifysgol yn ddelfrydol.
Os ydych chi eisoes wedi dechrau yn y coleg neu'r brifysgol, ceisiwch y brechlyn cyn gynted â phosibl. Gofynnwch i'ch meddyg teulu am gael eich brechu.
Clwy’r Pennau
Dylai myfyrwyr blwyddyn gyntaf edrych beth yw statws eu brechiad MMR gyda’u meddyg teulu gartref cyn iddynt ddechrau blwyddyn academaidd.
Ydych chi wedi cael eich brech frech goch, clwy’r pennau rwbela?
Ydych chi wedi cael y ddau ddos llawn sydd wedi’i argymell?
Holwch eich meddygfa heddiw!
Gwiriwch gyda’ch rhieni/gwarcheidwaid os gafoch y brechiadau cyn mynd i’r ysgol? Maent fel arfer yn cael eu rhoi o 12/13 mis gydag ail ddos yn 3–4 oed.