Bydd y cyflwynydd teledu a fforiwr, Steve Backshall yn dod i Brifysgol Bangor i siarad am fenwm a鈥檙 wyddoniaeth y tu 么 i docsinau ofnadwy mewn natur mewn sgwrs yn Saesneg, 鈥�Venom; the science of terrible toxins in nature鈥� fel rhan o rhan o 糯yl Wyddoniaeth Bangor.!
**Bydd tocynnau ar gael o wefan Pontio neu trwy ffonio'r linell docynnau ar 01248 38 28 28 o 1pm dydd Gwener 23 Chwefror**
Ymunwch 芒鈥檙 fforiwr, naturiaethwr a鈥檙 seren deledu Steve Backshall am daith gyfareddol i fyd hudolus gwenwyn.
Gyda鈥檌 ddawn a鈥檌 angerdd nodweddiadol, bydd yr enillydd gwobr BAFTA sydd yn uwch ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor, yn ymchwilio i鈥檙 dirgelion y tu 么l i鈥檙 tocsinau grymus sy鈥檔 cael eu defnyddio gan rai o greaduriaid mwyaf diddorol y byd, o nadroedd gwenwynig a phryfed cop i鈥檙 organebau morol mwyaf peryglus.
Bydd Steve yn archwilio arwyddoc芒d esblygiadol gwenwyn, gan ddatgelu sut mae'r cymysgeddau cryf hyn wedi esblygu fel arfau dyfeisgar ar gyfer goroesi. Bydd yr awdur enwog yn defnyddio ei brofiadau ei hun i ddatrys y wyddoniaeth y tu 么l i gemeg gymhleth gwenwyn ac yn egluro beth sy鈥檔 gwneud y tocsinau hyn mor aruthrol o rymus, a鈥檙 r么l hanfodol y maent yn ei chwarae yn y byd naturiol.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg
Mae Steve Backshall MBE yn un o gyflwynwyr, naturiaethwyr, awduron ac anturiaethwyr byd natur mwyaf adnabyddus y byd teledu. Mae鈥檔 ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn dysgu myfyrwyr Bangor am gadwraeth, s诺oleg a鈥檙 diwydiant ffilmio bywyd gwyllt. Mae darlithoedd Steve ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd ac mae cynlluniau ar y gweill i wneud ffrydiau byw o leoliadau ffilmio a theithiau maes Steve. Derbyniodd radd anrhydeddus am wasanaethau i addysg ym mis Gorffennaf 2023.