Byddwn yn croesawu Tim Haines i Brifysgol Bangor i draddodi darlith gyhoeddus o鈥檙 enw 鈥淢aking Monsters鈥� fel rhan o 糯yl Wyddoniaeth Bangor.
Dechreuodd Tim weithio fel newyddiadurwr cyn mynd i weithio fel cynhyrchydd ar 鈥淭omorrow's World鈥� a 鈥淗orizon鈥�.
Yn y BBC, creodd gyfres nodedig a enillodd nifer o wobrau BAFTA ac Emmy, sef 鈥淲alking with Dinosaurs鈥�, ym 1998, ac yna鈥檙 gyfres ddilynol 鈥淲alking with Beasts鈥� a鈥檙 ddrama 鈥淭he Lost World鈥�. Sefydlwyd Impossible Pictures yn 2002 dan arweiniad Tim ac mae wedi mynd ymlaen i greu amrywiaeth fawr o raglenni ffeithiol a drama arbenigol boblogaidd i鈥檙 BBC, Channel 4, Sky, Discovery a Nat Geo yn cynnwys 鈥淪ea Monsters鈥�, 鈥淧rehistoric Park鈥�, 鈥淧rimeval鈥�, 鈥淪pace Odyssey鈥�, 鈥淪inbad鈥� a 鈥淏litz Street鈥�. Yn 2013, gwnaed Tim yn gyfarwyddwr creadigol ITV Studios Drama yn gyfrifol am 鈥淏eowulf鈥� a 鈥淭he Loch鈥�. Fel cyfarwyddwr creadigol 鈥淚mmersive Escapes鈥�, cynhyrchodd Tim hefyd y profiad trochol 鈥淒inosaurs in the Wild鈥� ac yna yn 2019 sefydlodd Loud Minds, cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu sydd ar hyn o bryd yn gwneud cyfres wyddoniaeth nodedig i NBCU o鈥檙 enw 鈥淪urviving Earth鈥�.
Graddiodd Tim Haines o Brifysgol Bangor ym 1981 gyda BSc mewn S诺oleg Gymhwysol. Yn 2002, derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Noddir G诺yl Wyddoniaeth Bangor yn hael gan Gronfa Waddol Tom a Raj Parry Jones. Sefydlwyd y Gronfa yn 2002 i annog pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd ac entrepreneuriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae'r gronfa yn cefnogi rhaglenni ar draws y Brifysgol, gan gynnwys yr 糯yl Wyddoniaeth hon.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg