Mae cwrs e-ddysgu rhyngweithiol newydd, o'r enw 鈥楤yw Gyda Straen ac Atal Chwythu Plwc鈥 bellach ar gael i staff Prifysgol Bangor. Datblygwyd a threialwyd y fenter hon gyda chydweithwyr prifysgol yn yr Ysgol Addysg, dan arweiniad dau seicolegydd clinigol profiadol, sef Dr Steve Noone a Dr Elizabeth Burnside, a Dr Amy Hulson-Jones sy鈥檔 ymchwilydd addysg. Mae datblygiad y cwrs wedi'i gefnogi gan gyllid 鈥淕well Iechyd Meddwl鈥 y mae'r brifysgol yn ei dderbyn gan Medr/HEFCW.
Mae鈥檙 cwrs yn seiliedig ar y syniadau diweddaraf ar sut i ddod yn fwy hyblyg yn seicolegol, sy鈥檔 cynnig opsiwn amgen i arferion meddwl di-fudd a strategaethau osgoi a all ddraenio adnoddau personol ac atal cyfleoedd i ymgysylltu 芒 gwerthoedd personol.
Mae hyblygrwydd a lles seicolegol yn eu hanfod yn gyfres o sgiliau y mae angen eu hymarfer 鈥 bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi i ddatblygu鈥檙 mewnwelediadau a鈥檙 sgiliau i gadw鈥檆h hun yn iach yn y gwaith, yn ystod cyfnod heriol.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 grwpio o amgylch pum thema graidd:
- Sut ydw i?
- S么n am straen yn y Gwaith
- Newid ein safbwynt ar feddwl negyddol
- Bod yn glir ynghylch gwerthoedd
- Ac yn olaf, os bydd arwyddion o chwythu plwc yn ymddangos, beth i'w wneud yn ei gylch.