O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Llanuwchllyn ac yn dal yn Llanuwchllyn.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Hanes datblygiad St芒d Glan-llyn a鈥檙 effaith a gafodd ei gafael llwyr ar yr ardal.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Ar 么l graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn Cymraeg a Hanes Cymru, fe dreuliais flwyddyn yn ymchwilio ychydig i St芒d Glan-llyn dan oruchwyliaeth J Beverley Smith. Ond yn 1984 cyrhaeddais Brifysgol Bangor i ddilyn y cwrs Diploma mewn Gweinyddu Archifau. Arweiniodd hyn at swydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, lle b没m yn catalogio casgliad anferth Maxwell Fraser ac yna yn gweithio ar restr fanwl o鈥檙 cofnodion anghydffurfiol sydd yn y Llyfrgell ac mewn casgliadau eraill. Yn 1991 gadewais staff y Llyfrgell i ofalu am y plant. Arweiniodd hynny at newid cyfeiriad yn fy ngyrfa a dechrau cyfieithu. B没m ar staff Cwmni Trosol am gyfnod cyn geni fy nhrydedd ferch. Wedi cyfnod yn gweithio i Fenter a Busnes, penderfynais fynd yn llawrydd a gweithio fel cyfieithydd o gartref. Dyna fu fy ngwaith o hynny ymlaen. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael cyhoeddi dau lyfr 鈥� Merched Gwyllt Cymru ac yna Mamwlad. Yn 2010 aethum yn 么l i鈥檙 Brifysgol ym Mangor i ddilyn cwrs MA Astudiaethau Cyfieithu ac wedi llwyddo ynddo daethum yn Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae achau a hanes lleol wedi bod yn ddiddordebau ysol ar hyd fy oes. Cyhoeddais dair erthygl yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, ar Rhys Jones o鈥檙 Blaenau, Rowland Vaughan, Caer-gai ac yna ar Dai unnos y Garneddwen.
O ran Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru cefais y fraint o roi darlith ar hanes canrif olaf St芒d Glan-llyn mewn cynhadledd a drefnwyd yng Nglan-llyn ei hun. Felly roedd yn naturiol i mi droi at y Sefydliad pan benderfynais ei bod yn bryd tynnu鈥檙 hyn a ddysgais hyd yn hyn am y St芒d at ei gilydd. Mae'r prosiect yn cychwyn ym mis Medi 2025.
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae'r Sefydliad yn gymdeithas glos sy鈥檔 tynnu pobl 芒 diddordebau tebyg at ei gilydd, mae hyn yn amhrisiadwy gan ei fod yn cynnig llwybrau ymchwil newydd a ffyrdd newydd o edrych ar wahanol agweddau o鈥檙 hanes.
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Na, dim hoff gyfnod, wedi gwirioni ar bob agwedd ar hanes a phob cyfnod.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Cwm Cynllwyd, y cwm lle cefais fy ngeni a lle鈥檙 wyf yn byw ers bron i 40 mlynedd.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Wrthi yn darllen Tir gan Carwyn Graves sy鈥檔 ddifyr iawn ac yn esbonio llawer am ymlyniad y Cymry wrth dir a lle.
Beth yw eich hob茂au neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Mae achau wedi bod yn uchel iawn ar y rhestr ers pan oeddwn yn ifanc iawn. Erbyn hyn mae gennyf sawl coeden ar Ancestry, a鈥檙 brif un yn cynnwys cannoedd lawer o enwau.
Cysylltwch 芒 Beryl:
brg25vqs@bangor.ac.uk