O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Dw i o Congleton (hen felin a thref ffermio), ac dw i wedi fy lleoli yno o hyd.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Fy nheitl yw "Hidden Pillars of Power: Women, Property, Influence, and Legacy in the Country Estates of Cheshire and North-East Wales, 1600鈥�1800".
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Rhywedd a hanesyddiaeth; hanesyddiaeth tai gwledig; rolau menywod mewn ystadau tai gwledig; dehongli treftadaeth a hanes cyhoeddus; Swydd Gaer a gogledd Cymru; a'r cyfnod 1600鈥�1800.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Astudiais Hanes, Archaeoleg, a Threftadaeth ar gyfer fy BA a Hanes ar gyfer fy MA. O ran profiad proffesiynol, treuliais 10 mlynedd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; 3 blynedd o ymgynghoriaeth gyda Chyngor Macclesfield ar ddigwyddiadau hanes cyhoeddus; a 3 blynedd (ac yn dal i weithio) fel gweithiwr casgliadau a thywysydd teithiau yn Amgueddfa Sidan Macclesfield a Paradise Mill. Ymunais a'r Sefydliad ym mis Medi 2024.
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Fy hoff beth am ISWE yw bod yn rhan o d卯m mor wych, a bod gan y t卯m hwnnw genhadaeth mor wych o adfer lleisiau a straeon Cymreig coll.
Beth yw鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Adfer a rhannu enwau, straeon a chyflawniadau menywod sydd wedi mynd ar goll neu a oedd wedi cael eu tangynrychioli yn flaenorol 鈥� yn enwedig gan fod rhai o'r cyflawniadau hyn wedi'u priodoli'n anghywir i eraill neu wedi'u hanghofio.
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Mae'r cyfnod 1600鈥�1800 yn arbennig o ddiddorol i'w astudio oherwydd ei fod yn nodi cyfnod trawsnewidiol yn hanes Prydain, pan ail-luniodd cynnwrf gwleidyddol (fel y Rhyfel Cartref a'r Chwyldro Gogoneddus), newid cymdeithasol, ac ideolegau esblygol ynghylch rhywedd, teulu ac eiddo strwythurau p诺er a bywyd domestig鈥攜n enwedig o fewn y plasty. Gwelodd gynnydd diwylliant ystadau, pwyslais cynyddol ar wella a mireinio, a gwelededd cynyddol (ac weithiau anweledigrwydd) rolau menywod wrth reoli cyfoeth, carennydd a dylanwad.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Dw i'n mynd i fod yn farus a dweud Penrhyn Ll欧n, cymaint o ddyddiau hapus yno o wyliau plentyndod i fy nghloddfa archaeolegol gyntaf erioed.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Podlediadau: Betwixt the Sheets, Bridgewater, The Curious History of Your Home, English Heritage, a Podlediad Penrhyn. Llyfrau: Rydw i wedi ail-ddarllen The Eyre Affair gan Jasper Fforde, Nightwatch gan Terry Pratchett, a The Yellow Wallpaper gan Charlotte Perkins Gilman yn ddiweddar. Rydw i wedi darganfod Red gan Jacky Colliss Harvey yn ddiweddar, ac A Culture of Curiosity: Scientific Enquiry in the Eighteenth-Century Home gan Leonie Hannan.
Beth yw eich hob茂au neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Dw i wrth fy modd yn garddio, darllen, a threulio amser yn y byd natur. Ar hyn o bryd dw i'n gweithio gyda fy amgueddfa i dynnu sylw at y menywod a greodd Macclesfield (aka Women's Town), a dod 芒'u straeon yn fyw.
Cysylltwch 芒 Daisy:
dsh22ssz@bangor.ac.uk