成人VR视频

Fy ngwlad:

Dehongli Plastai Gwledig

Dr Matthew Rowland

Teitl y prosiect: 'An Analysis of Country House Interpretation in Wales'

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Karen Pollock

Cefnogir yr ymchwil gan: Cefnogir ymchwil Matthew gan ddwy ysgoloriaeth gan 

Wedi'i gwblhau: 2018-2023

Llun o Dr Matthew Rowland o flaen Castell Penrhyn

Nod Matthew oedd ceisio casglu gwybodaeth, dealltwriaeth a chyfrannu at ddehongliad plastai yng Nghymru. Mae'n asesu safle plastai yn strategaethau treftadaeth a thwristiaeth Cymru heddiw, ac mewn perthynas 芒 diwylliant a hunaniaeth Cymru, gan asesu eu harwyddoc芒d yn y gymdeithas fodern.

Mae plastai yng Nghymru yn bodoli mewn sawl ffurf, fel cartrefi teuluol, atyniadau treftadaeth llawn-amser, mentrau masnachol, megis bwytai, gwestai a lleoliadau priodas, ac adfeilion 鈥� ac yn aml c芒nt eu defnyddio mewn cyfuniad o鈥檙 ffyrdd uchod. Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ddehongli treftadaeth ar draws y sbectrwm hwn 鈥� sut caiff y lleoedd hyn eu cyflwyno a鈥檜 marchnata, a pha agweddau ar eu hanes a dynnir sylw ymwelwyr a chynulleidfaoedd cyhoeddus atynt? Ceisiodd Matthew nodi them芒u a heriau allweddol, hanesion o lwyddiant a methiant a chynnig arweiniad ar gyfleoedd ac arfer gorau at y dyfodol. Cafodd hyn ei ddatblygu trwy gyfuniad o ymweliadau safle, cyfweliadau 芒 pherchnogion, curaduron ac ymwelwyr, asesiadau o ddeongliadau ar-lein a holiaduron i fesur barn y cyhoedd.

Mae鈥檙 ymchwil hwn yn arwyddocaol oherwydd y caiff llawer o鈥檙 llenyddiaeth academaidd a threftadaeth yngl欧n 芒 phlastai yng ngwledydd Prydain ei chyflwyno o safbwynt Seisnig, er gwaethaf y cyfraniadau nodedig a wnaed gan y lleoedd hyn at lunio鈥檙 Gymru gyfoes trwy ddylanwadau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol eu perchnogion. Oherwydd nifer y plastai a gollwyd yng Nghymru yn ystod yr 20fed ganrif, nifer yr adfeiliau sydd 鈥榤ewn perygl鈥� ar hyn o bryd, a nifer gymharol isel y plastai sy鈥檔 gweithredu fel atyniadau treftadaeth llawn-amser yng Nghymru, mae鈥檔 bosib bod diffyg ymwybyddiaeth o鈥檜 pwysigrwydd hanesyddol a鈥檜 harwyddoc芒d i dreftadaeth ddiwylliannol. Edrychodd y project hwn ar ddyfodol plastai ym maes treftadaeth a thwristiaeth. Mae'r traethawd hir yn dadlau eu bod yn rhan arwyddocaol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, ac yn gallu gweithredu fel canolfannau i gyfleu gwybodaeth bwysig am hanes lleol, hanes Cymru, hanes Prydain a hanes y byd.