³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:

Dr Mary Oldham

Graddedigion Doethurol

Llun o Mary Oldham yn y Llyfrgell yn Gregynog
Dr Mary Oldham yn Llyfrgell Gregynog

Mae Dr. Mary Oldham yn Hanesydd a Llyfrgellydd sydd â diddordeb arbennig yn rôl ystadau tiriog Cymru a'u perchnogion mewn cymdeithas dros y pedair neu bum canrif diwethaf, a'r rhan y maent wedi'i chwarae yn esblygiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cymunedau. Dyfarnwyd ei doethuriaeth ym mis Chwefror 2024 am ei thraethawd hir, ‘Proprietors, people, transition and change on a Welsh estate: Gregynog Hall, Montgomeryshire, 1750-1900’.

Ganwyd a magwyd Mary yn Swydd Nottingham, ond mae wedi bod yn byw yng Nghanolbarth Cymru ers diwedd y 1960au, pan gymhwysodd fel Llyfrgellydd Siartredig yn Aberystwyth. Wedi hynny, gweithiodd fel Llyfrgellydd Ysgolion i wasanaeth Llyfrgelloedd y Sir, yn gyntaf yn Swydd Drefaldwyn ac yna yn Sir Ddinbych. Ar ôl cyfnod yn Llundain yn astudio yn Ysgol Economeg Llundain a gweithio i British Steel, dychwelodd Mary i Ganolbarth Cymru yn barhaol ym 1981.

Yn ystod ei chyfnod fel Llyfrgellydd Ysgolion Sir Drefaldwyn y daeth Mary i adnabod Neuadd Gregynog gyntaf. Ym 1987, cymerodd swydd ran-amser fel Gweinyddwr yng Ngwasg Gregynog, ac yn dilyn hynny gofynnwyd iddi ymgymryd â rhywfaint o waith yn Llyfrgell Gregynog, a arweiniodd at ei phenodiad parhaol fel Llyfrgellydd. Trwy ei gwaith diflino a’i natur gydwybodol a chwilfrydig, daeth Mary yn ystorfa anhygoel o wybodaeth am hanes Gregynog.

Yn ei rôl fel Llyfrgellydd, dechreuodd Mary deimlo bod angen hanes cyhwysfawr, academaidd o ystâd Gregynog, i archwilio lle Gregynog fel ystâd dirfeddiannol yn hanes economaidd a chymdeithasol Cymru, ac i helpu i gynnal ei lle a'i hunaniaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae Gregynog yn adnabyddus yn bennaf fel cartref Gwendoline a Margaret Davies, dau gasglwr celf dyngarol hynod bwysig a brynodd y Neuadd ym 1920 a'i throi'n brif ganolfan ddiwylliannol Canolbarth Cymru. Fodd bynnag, teimlai Mary fod naratif poblogaidd Gregynog wedi'i ddominyddu'n ormodol gan y ddelwedd o'r ugeinfed ganrif a luniwyd gan y chwiorydd Davies, ac roedd yn benderfynol o ddatgelu hanes cynharach yr ystâd. Arweiniodd hyn Mary i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, lle dechreuodd ei hymchwil doethuriaeth yn 2018, a wnaed yn rhan-amser ochr yn ochr â'i rôl barhaus fel Llyfrgellydd.

Mae traethawd ymchwil Dr. Oldham yn edrych ar 150 mlynedd o drawsnewid ar ystâd Gregynog, o gyfnod ei pherchnogaeth gan yr olaf o'r teulu Blayney, perchnogion hynafol y plas, trwy amrywiol newidiadau yn ei pherchnogaeth a'i rheolaeth hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif, a'i gaffael gan y teulu Davies o Landinam, ond gyda ffocws cyson ar ei gysylltiadau â'r gymuned lleol. Mae'n archwilio llu o themâu trwy brism Gregynog, megis ei rôl mewn gwleidyddiaeth Ryddfrydol leol a chenedlaethol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; esblygiad ei hunaniaeth ddiwylliannol ar y ffin â Chymru; a'i effaith ar y dirwedd o'i chwmpas. Cyd-arolygwyd y traethawd ymchwil gan Dr. Lowri Ann Rees a Dr. Shaun Evans a'i archwilio gan yr Athro Annie Tindley (Prifysgol Newcastle) a Dr. Mari Wiliam. Gallwch ddarllen mwy am gwblhau'r prosiect yn ein blog.

Ers cwblhau ei doethuriaeth yn 2024, mae traethawd ymchwil Mary wedi cael ei dderbyn i'w gyhoeddi ac mae hi wrthi'n ei addasu ar hyn o bryd. Mae hi eisoes yn awdur cyhoeddedig sawl llyfr plant a nofelau i bobl ifanc, sydd wedi ymddangos mewn print yn y DU, UDA a'r Almaen.

Mae Dr. Oldham wedi bod yn aelod o ers symud yn ôl i Gymru yn y 1980au, ac ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Teithiau ac Ysgrifennydd Rhaglenni.