成人VR视频

Fy ngwlad:

Hugh Hughes Plas Coch

Cymraeg, Saesneg neu Brydeinig? Hugh Hughes Plas Coch ac Ynys M么n yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg

Plas Coch, plasty carreg goch gyda ffas芒d cymesurol, talcenni gris br芒n, a phedimentau uwchben pob ffenestr.

Yn 2011, cwblhaodd yr Athro Robin Grove-White draethawd doethuriaeth ar y g诺r-gyfreithiwr o F么n, Hugh Hughes Plas Coch (c.1548-1609), dan oruchwyliaeth Nia Powell. Dyma un o鈥檙 ysbrydoliaethau ar gyfer sefydlu鈥檙 Sefydliad ar gyfer Astudio Ystadau Cymru, a phenodwyd Robin yn Gadeirydd Bwrdd Cynghori'r Sefydliad i arwain datblygiad cynnar y ganolfan ymchwil.

Ers hynny mae Robin wedi datblygu ei ymchwil ar Hugh Hughes ac yst芒d Plas Coch, gan gyhoeddi  gyda Chymdeithas Hynafiaethol M么n.

Mae鈥檙 astudiaeth hwn yn taflu goleuni ar gyfnod annatod yn hanes Cymru. O ganlyniad y Deddfau Uno, o ganol y cyfnod Tuduraidd ymlaen roedd yna beirianwaith gweinyddol a barnwrol newydd er mwyn llywodraethu Cymru, a chwaraeodd Gymry brodorol r么l fawr. Dadleuir weithiau fod hyn wedi annog uchelwyr Cymreig hunangeisiol i 鈥榮eisnigeiddio鈥�, a'r canlyniad oedd niwed i ddiwylliant ac iaith Cymru. Trwy archwilio bywyd a gyrfa un unigolyn o鈥檙 dosbarth hwn, y cyfreithiwr-tirfeddiannwr Hugh Hughes o Blas Coch ym M么n, dadleuir yr astudiaeth hwn i'r gwrthwyneb, sef fod y gyfundrefn weinyddol aml-haenog hyn wedi diogelu gwahanolrwydd Cymreig, oherwydd roedd cyfreithwyr addysgedig, dwyieithog fel Hughes yn hollbwysig i effeithiolrwydd y peirianwaith. Dangosir bod ei haddysg a鈥檌 hyfforddiant cyfreithiol Saesneg yn gydnaws 芒鈥檌 wreiddiau parhaus ym M么n Cymraeg ei hiaith, ac mae ei fywyd a鈥檌 yrfa yn cynnig prism ar gyfer deall gwahanol sefydliadau llywodraethu gogledd Cymru oherwydd roedd wedi ymwneud yn bersonol 芒鈥檙 rhan fwyaf ohonynt. Mae鈥檔 fwy priodol i feddwl am ffigyrau allweddol fel Hugh Hughes fel rhai oedd yn gweithredu ar ran 鈥榗ymuned ddychmygol鈥� o 鈥楤rydain鈥�, nag fel asiantau hegemoni Seisnig.